Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2003, ISBN 0110906837. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 38, 39, 78(1), 126(4), 127 a 128(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977, a pharagraffau 2 a 2A o Atodlen 12 iddi[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2003, a deuant i rym ar 1 Mawrth 2003. (2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997[2]. (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Diwygio rheoliad 9 o'r prif Reoliadau 2. Yn rheoliad 9 o'r prif Reoliadau (dyroddi talebau gan ymarferwyr meddygol offthalmig neu optegwyr ) -
(b) that he requires an additional optical appliance of the same prescription because either -
(ii) the issue of such an appliance is required as a result of his exceptional circumstances,
the ophthalmic medical practitioner or optician may issue to the patient, in accordance with paragraph (2) but subject to paragraph (5), a voucher relating to the optical appliance prescribed by the prescription.";
(b) yn lle paragraff (5) rhowch y paragraff canlynol -
Diwygio rheoliad 12 o'r prif Reoliadau
(b) ar ôl paragraff (5) mewnosodwch y paragraff canlynol -
Diwygio rheoliad 13 o'r prif Reoliadau
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 ("y prif Reoliadau"). Mae'r prif Reoliadau yn darparu ar gyfer cynllun taliadau i'w gwneud gan yr Awdurdodau Iechyd ac Ymddiriedolaethau GIG drwy gyfrwng system dalebau mewn perthynas â chostau a dynnir gan gategorïau penodol o bersonau mewn cysylltiad â phrofion golwg a chyflenwi, amnewid a thrwsio cyfarpar optegol. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth i awdurdod cyfrifol roi caniatâd i ymarferydd meddygol offthalmig neu optegydd ddyroddi taleb i alluogi cyfarpar optegol ychwanegol o'r un presgripsiwn i gael ei ddarparu i berson cymwys o fewn y categori a ragnodwyd. Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 9 o'r prif Reoliadau sy'n darparu y caiff taleb ar gyfer cyfarpar optegol ychwanegol ei hawdurdodi gan yr awdurdod cyfrifol (hynny yw, yr awdurdod iechyd ar gyfer yr ardal lle bydd cyflenwi'r cyfarpar optegol yn digwydd) mewn achosion lle mae'r claf yn blentyn neu'n berson o dan 19 oed sy'n cael addysg amser-llawn ac sydd, yn y naill achos neu'r llall, yn dioddef gan salwch, y mae un o'i ganlyniadau yn golygu bod angen cyflenwi cyfarpar optegol ychwanegol o'r un presgripsiwn, neu y mae ei angen yn deillio o amgylchiadau y mae'r awdurdod cyfrifol yn derbyn eu bod yn eithriadol. Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 12 o'r prif Reoliadau sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer y weithdrefn sydd i'w mabwysiadu mewn achosion pan fydd hawl i daleb am gyfarpar ychwanegol yn cael ei hawlio. Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 13 o'r prif Reoliadau i wneud darpariaeth i'r weithdrefn gael ei mabwysiadu i alluogi cyflenwr cyfarpar optegol ychwanegol i gael taliad gan yr awdurdod iechyd cyfrifol. Notes: [1] {d1}{t1}1977 p.49 ("Deddf 1977"); gweler adran 128(1), fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i) i gael y diffiniadau o "prescribed" a "regulations".{d1}{t1}Diwygiwyd adran 38 gan Ddeddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53) ("Deddf 1980"), adran 1 ac Atodlen 1, paragraff 51; gan Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.48) ("Deddf 1984"), adran 1(3); gan O.S.1985/39, erthygl 7(11); gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49) ("Deddf 1988"), adran 13(1); a chan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) ("Deddf 1995"), Atodlen 1, paragraff 27.{d1}{t1}Cafodd adran 39 ei hestyn gan Ddeddf 1988, adran 17; a'i diwygio gan Ddeddf 1980, adran 1 ac Atodlen 1, paragraff 52, gan Ddeddf 1984, adran 1(4) ac Atodlen 1, paragraff 1 ac Atodlen 8; gan O.S.1985/39, erthygl 7(12); a chan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 28.{d1}{t1}Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990 adran 65(2) a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999"), Atodlen 4, paragraff 37(6).{d1}{t1}Amnewidiwyd paragraff 2(1) o Atodlen 12 gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988, Atodlen 2, paragraff 8(1).{d1}{t1}Cafodd paragraff 2A o Atodlen 12 ei fewnosod gan Ddeddf 1984, Atodlen 1, paragraff 3 a'i ddiwygio gan adran 13(2) a (3) o Ddeddf 1988.{d1}{t1}Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 38, 39, 78(1), 126(4), 127 a 128(1) o Ddeddf 1977, a pharagraffau 2 a 2A o Atodlen 12 iddi, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S.1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan adran 66(5) o Ddeddf 1999.back
ISBN 0 11090683 7
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 25 March 2003 |