Rheoliadau Traffig Ffyrdd (Allyriadau Cerbydau) (Cosbau Penodedig) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Traffig Ffyrdd (Allyriadau Cerbydau) (Cosbau Penodedig) 2003, ISBN 0110907329. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 87(1), (2) a (5) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995[1] a pharagraff 5 o Atodlen 11 iddi, ac sydd bellach yn arferadwy, mewn perthynas â Chymru, gan y Cynulliad Cenedlaethol[2], ac ar ôl ymgynghori ag Asiantaeth yr Amgylchedd a chyda'r cyrff a'r personau hynny y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried eu bod yn briodol yn unol ag adran 87(7) o'r Ddeddf drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Traffig Ffyrdd (Allyriadau Cerbydau) (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Mai 2003. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru. Dehongli 2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn -
(b) mewn perthynas â pherson awdurdodedig, yw'r awdurdod lleol y mae'r person hwnnw yn cael ei awdurdodi ganddo;
(b) mewn perthynas ag ymchwilio i dramgwydd neu erlyn am dramgwydd segura llonydd yw person a awdurdodwyd o dan reoliad 6(3);
(2) Oni bai fod y cyd-destun yn darparu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn -
(b) at reoliad â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn sy'n dwyn y Rhif hwnnw.
Cais am ddynodiad 3. - (1) Pan fo unrhyw ran o ardal awdurdod lleol yn cael ei dynodi am y tro yn ardal rheoli ansawdd aer yn unol ag adran 83, gall yr awdurdod hwnnw wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol fod yn awdurdod lleol dynodedig. (2) Rhaid i gais o dan baragraff (1) fod yn gais ysgrifenedig a rhaid sicrhau bod copi o bob un o'r dogfennau canlynol yn mynd gydag ef -
(b) y gorchymyn sy'n dynodi ei ardal rheoli ansawdd aer yn unol ag adran 83.
Dynodi
(b) bydd yr awdurdod yn darparu hyfforddiant priodol a digonol, neu'n sicrhau bod hynny'n cael ei ddarparu, ar gyfer y personau allai gael eu hawdurdodi ganddo at ddibenion y Rheoliadau hyn.
(3) Gall awdurdod lleol dynodedig, mewn perthynas â'i ardal neu, pan mai dim ond rhan o'i ardal sy'n cael ei dynodi am y tro fel ardal rheoli ansawdd aer yn unol ag adran 83, mewn perthynas â'r rhan honno, arfer y pwerau hynny a roddir gan ddarpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn mewn perthynas â thramgwyddau allyriad.
(b) bod unrhyw ganllaw y mae wedi'i gyhoeddi mewn perthynas ag adran 88 yn cael ei barchu,
gall, yn ddarostyngedig i baragraff (2), drwy hysbysiad a gyflwynir ar yr awdurdod, ddiddymu ei ddynodiad.
(b) o'i resymau dros fwriadu diddymu'r dynodiad; ac (c) y gellir cyflwyno sylwadau iddo ynghylch y diddymiad arfaethedig cyn diwedd cyfnod a bennir yn yr hysbysiad o dan y paragraff hwn (a'r cyfnod hwnnw ddim llai na 28 diwrnod gan ddechrau â dyddiad cyflwyno'r hysbysiad hwnnw).
(3) Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1) bennu'r dyddiad y mae'r diddymiad i gael effaith, a rhaid bod datganiad o resymau'r Cynulliad Cenedlaethol dros ddiddymu'r dynodiad yn mynd gydag ef. Awdurdodiadau 6. - (1) Gall awdurdod lleol dynodedig, yn ddarostyngedig i baragraff (2), awdurdodi unrhyw swyddog o'r awdurdod, neu unrhyw berson arall, ar ôl cyflwyno tystiolaeth o awdurdodiad y person hwnnw -
(b) i ddyroddi hysbysiadau cosb benodedig mewn perthynas â thramgwyddau allyriad a gyflawnir mewn perthynas â cherbydau o'r fath.
(2) Ni chaiff person ei awdurodi o dan baragraff (1) oni bai fod yr awdurdod wedi'i fodloni bod y person sydd i gael ei awdurdodi wedi cwblhau cwrs hyfforddi ar brofi allyriadau yn llwyddiannus a'r cwrs hwnnw wedi'i gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(b) i ddyroddi hysbysiad cosb benodedig mewn perthynas â thramgwydd o'r fath a gyflawnir yn ei ardal.
Tramgwyddau cosb benodedig 7. Rhagnodir drwy hyn dramgwyddau allyriad a thramgwyddau segura llonydd o dan adran 42 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1998[4] fel tramgwyddau cosb benodedig at ddibenion y Rheoliadau hyn. Swm y gosb 8. Yn ddarostyngedig i reoliad 17, gall person gyflawni unrhyw atebolrwydd i gollfarn -
(b) am dramgwydd segura llonydd, drwy dalu £20.
Profion allyriad yn y fan a'r lle a phrofion gohiriedig 9. - (1) Gall person awdurdodedig ei gwneud hi'n ofynnol i berson sy'n gyrru cerbyd modur ar ffordd ac sydd mewn, neu sydd ar fin pasio drwy, neu sydd wedi pasio drwy, ardal rheoli ansawdd aer yr awdurdod priodol ganiatáu i'r cerbyd y mae'r person hwnnw yn ei yrru i fod yn ddarostyngedig i brawf at y diben o benderfynu p'un a oes tramgwydd allyriad yn cael ei gyflawni neu wedi'i gyflawni. (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i'r prawf y cyfeirir ato ym mharagraff (1) gael ei gyflawni ar unwaith gan berson awdurdodedig. (3) Gall person awdurdodedig, yn hytrach na bwrw ymlaen ar unwaith i gynnal y prawf -
(b) ei gwneud hi'n ofynnol i'r person y mae gofyniad paragraff (1) yn cael ei osod arno i gyflwyno'r cerbyd i gael ei archwilio o dan adran 45 (profion i weld a yw cerbydau mewn cyflwr boddhaol) o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988.
(4) Wrth osod gofyniad o dan baragraff (3)(b), rhaid i berson awdurdodedig hefyd -
(b) bennu'r canlynol mewn perthynas â chyflwyno'r dystysgrif neu hysbysiad -
(ii) y lleoliad ar gyfer ei chyflwyno; a (iii) y person y mae i'w chyflwyno iddo
(5) Rhaid i'r dyddiad a bennir o dan baragraff (4)(b) fod o fewn 21 diwrnod i'r diwrnod pan fo'r person awdurdodedig yn gosod y gofyniad o dan baragraff (3)(b).
(b) gofyniad paragraff (3)(a) neu 4(a),
yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.
Dyroddi hysbysiadau cosbau penodedig: tramgwydd allyriad
(b) o ganlyniad i'r prawf hwnnw bod person awdurdodedig yn ystyried bod tramgwydd allyriad wedi'i gyflawni gan y person sy'n defnyddio'r cerbyd hwnnw,
gall y person awdurdodedig, yn unol â Rhan 7, ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i'r person hwnnw.
(b) dyddiad geni y gyrrwr; ac (c) os nad y gyrrwr yw'r person y mae'r cerbyd wedi'i gofrestru yn ei enw o dan Ddeddf Trethu a Chofrestru 1999[6] ar yr adeg pan osodwyd y gofyniad, enw'r person hwnnw.
(2) Mae person sy'n methu â chydymffurfio â gofyniad o dan baragraff (1) yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol. Diffodd peiriannau pan fo cerbyd yn llonydd 12. - (1) Gall person awdurdodedig sydd â rheswm rhesymol dros gredu bod gyrrwr cerbyd sy'n llonydd ar ffordd yn cyflawni tramgwydd segura llonydd fynnu, ar ôl cyflwyno tystiolaeth o awdurdodiad o dan reoliad 6(3), bod y gyrrwr yn diffodd peiriant y cerbyd hwnnw. (2) Mae person sy'n methu â chydymffurfio â gofyniad o dan baragraff (1) yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol. Dyroddi hysbysiad cosb benodedig: tramgwydd segura llonydd 13. Gall person awdurdodedig sy'n ystyried bod tramgwydd segura llonydd wedi'i gyflawni, yn unol â pharagraff 7, ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i yrrwr y cerbyd hwnnw. Cyflenwi gwybodeth at ddibenion Rhan 6 14. - (1) Mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau o dan y Rhan hon, gall person awdurdodedig fynnu bod gyrrwr cerbyd y gosodwyd gofyniad o dan reoliad 12(1) mewn perthynas ag ef i ddatgelu i'r person awdurdodedig -
(b) dyddiad geni y gyrrwr; ac (c) os nad y gyrrwr yw'r person y mae'r cerbyd wedi'i gofrestru yn ei enw o dan Ddeddf Trethu a Chofrestru Cerbydau 1994 ar yr adeg pan gaiff y gofyniad ei osod, enw'r person hwnnw.
(2) Bydd person sy'n methu â chydymffurfio â gofyniad i gyflenwi gwybodaeth o dan baragraff (1) yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol. Yr amser ar gyfer dyroddi hysbysiad 15. - (1) Rhaid i hysbysiad cosb benodedig o dan reoliad 10 gael ei ddyroddi cyn gynted ag y bo hynny'n rhesymol ymarferol a chyn pen 24 awr wedi i'r prawf y mae paragraff (a) o'r rheoliad hwnnw yn cyfeirio ato gael ei gwblhau. (2) Rhaid i hysbysiad cosb benodedig o dan reoliad 13 gael ei ddyroddi cyn gynted ag y bo hynny'n rhesymol ymarferol a chyn pen 24 awr ar ôl i'r tramgwydd segura llonydd gael ei gyflawni. Cynnwys yr hysbysiad 16. Rhaid i hysbysiad cosb benodedig roi'r manylion hynny ynghylch yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn creu'r dramgwydd cosb benodedig y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef ag sy'n angenrheidiol i roi gwybodaeth resymol ynghylch y dramgwydd a rhaid iddo ddatgan -
(b) Rhif cofrestredig y cerbyd dan sylw; (c) dyddiad y dramgwydd; (ch) swm y gosb benodedig sydd i'w dalu; (d) y person y mae'r gosb benodedig i gael ei thalu iddo, a'r cyfeiriad ar gyfer talu'r gosb ac ar gyfer anfon unrhyw ohebiaeth sy'n ymwneud â'r hysbysaid cosb benodedig; (dd) y person, y cyfeiriad, a'r cyfnod mewn perthynas ag anfon;
(ii) cais i ostwng neu hepgor y gosb benodedig;
(e) y dull neu'r dulliau ar gyfer talu'r gosb benodedig;
Effaith dyroddi hysbysiad cosb benodedig
(b) nad yw'r gosb benodedig wedi cael ei thalu cyn diwedd y cyfnod ar gyfer ei thalu caiff y gosb benodedig ei chynyddu fel y crybwyllwyd ym mharagraff (6).
(6) Caiff cosb benodedig -
(b) o £60 mewn unrhyw achos arall o dramgwydd allyriad, ei chynyddu i £90; (c) o £20, yn achos tramgwydd segura llonydd, ei chynyddu i £40.
(7) Pan fo hysbysiad o dan reoliad 19(6) yn cynnwys datganiad o'r math y cyfeirir ato yn rheoliad 19(7), dylid trin y cyfeiriadau ym mharagraffau (3) a (4) o'r rheoliad hwn at y cyfnod ar gyfer talu'r gosb benodedig fel cyfeiriadau at y cyfnod sy'n dod i ben ar y dyddiad a nodwyd yn unol â rheoliad 19(7)(b).
(b) pan fo hysbysiad wedi cael ei roi o dan reoliad 19(6), yn yr hysbysiad hwnnw,
roi hysbysiad yn gofyn am wrandawiad mewn perthynas â'r dramgwydd y mae'r hysbysiad cosb benodedig yn ymwneud ag ef.
(b) gellir trin yr hysbysiad cosb benodedig fel hysbysiaeth at ddibenion erlyn ar gyfer y dramgwydd y cafodd ei ddyroddi mewn perthynas ag ef.
Gostwng neu roi heibio cosb benodedig ar gyfer tramgwydd allyriad
(b) rhaid anfon tystiolaeth ddogfennol gydag ef,
sydd ym marn y ceisydd yn debygol o fodloni'r awdurdod ynghylch un neu fwy o'r materion a bennir ym mharagraff (3).
(b) bod, o fewn y cyfnod o 6 mis a oedd yn rhagflaenu yn union y methiant prawf rheoliad 9 -
(ii) bod y cerbyd wedi methu archwiliad o'r fath, ond nad oedd yr un o'r seiliau y bu iddo fethu yn ymwneud â gofyniad rheoliad 61 neu 61A o Reoliadau 1986; neu (iii) bod pob cam rhesymol wedi'i gymryd cyn y methiant prawf rheoliad 9 i gynnal a chadw'r cerbyd mewn cyflwr sy'n ddigonol i gydymffurfio â gofynion y rheoliadau 61 a 61A hynny.
(4) Os bydd yr awdurdod wedi'i fodloni mewn perthynas â mater a nodir yn unrhywun o baragraffau (a) i (c) o baragraff (3), gall ostwng y gosb benodedig i £30.
(b) yn naill ai is-baragraff (b) neu is-baragraff (c) o'r paragraff hwnnw,
gall rhoi heibio'r gosb benodedig yn ei chyfanrwydd.
(b) o'r dyddiad y mae'r gosb benodedig i'w thalu, sef p'un bynnag yw'r olaf o'r canlynol -
(ii) y diwrnod sy'n dod 14 diwrnod ar ôl y diwrnod y mae'r hysbysiad o dan baragraff (6) yn cael ei ddyroddi; a (iii) am y person y dylid anfon yr hysbysiad sy'n gwneud cais am wrandawiad ato, y cyfeiriad ar gyfer gwneud hynny a'r cyfnod ar gyfer gwneud hynny.
Tynnu hysbysiad cosb benodedig yn ôl
(b) na ddylai fod wedi cael ei ddyroddi i'r person a enwyd fel y person y cafodd ei ddyroddi iddo.
(2) Pan fo hysbysiad cosb benodedig wedi cael ei dynnu yn ôl yn unol â pharagraff (1) -
(b) rhaid i unrhyw swm a dalwyd trwy gyfrwng cosb benodedig yn unol â'r hysbysiad hwnnw gael ei ad-dalu i'r person a dalodd y swm; ac (c) ni ellir parhau neu gychwyn unrhyw achos yn erbyn y person hwnnw am y dramgwydd y cafodd yr hysbysiad tynnu yn ôl ei ddyroddi mewn perthynas ag ef.
Casglu cosbau penodedig na chawsant eu talu 21. Pan fo cosb benodedig nad ydyw wedi cael ei thalu erbyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer ei thalu yn unol â rheoliad 16(f) neu, yn ôl fel y digwydd, rheoliad 19(7)(b), yn cael ei chynyddu fel y crybwyllir yn rheoliad 17(6), gellir, os bydd llys sirol yn gorchymyn hynny, ei chasglu drwy atafaeleb a roddir gan lys sirol neu fel arall fel pe bai'n daladwy o dan orchymyn y llys hwnnw. Gorfodi drwy atafaelu 22. - (1) Mae cosb benodedig nad ydyw wedi cael ei thalu y mae modd ei chasglu yn unol â rheoliad 21 fel pe bai'n daladwy o dan orchymyn llys sirol i gael ei thrin, yn ddarostyngedig i baragraff (2), at ddibenion gorfodi drwy atafaeleb fel pe bai'n ddyled benodedig a grybwyllir yn erthygl 2(1) o Orchymyn Gorfodi Dyledion Traffig Ffyrdd 1993 ("Gorchymyn 1993")[7]. (2) At ddibenion gorfodi taliad cosb benodedig na chafodd ei dalu -
(b) mae'r cyfeiriad yn erthygl 3(1) o Orchymyn 1993 at y cyfnod ar gyfer cyflwyno datganiad statudol yn gyfeiriad at (yn ôl fel y digwydd) -
(ii) pan fo cyfnod hirach wedi cael ei ganiatáu yn unol â rheoliad 23(3), y cyfnod hwnnw.
Hysbysiadau a wnaed yn ddi-rym
(b) bod y person y mae'n cael ei wneud yn ei erbyn yn gwneud datganiad statudol sy'n cydymffurfio â pharagraff (2); ac (c) bod y datganiad, cyn diwedd y cyfnod o 21 diwrnod gan ddechrau â'r dyddiad pan gaiff hysbysiad o orchymyn y llys sirol ei gyflwyno ar y person hwnnw, yn cael ei gyflwyno ar y llys sirol a wnaeth y gorchymyn.
(2) Rhaid i'r datganiad statudol ddatgan (yn ôl fel y digwydd) ar gyfer y person sy'n ei wneud -
(b) ei fod wedi gwneud cais o dan reoliad 19(1) ond nad oedd wedi derbyn hysbysiad bod swm y gosb benodedig wedi'i ostwng neu (yn ôl fel y digwydd) bod y cais wedi cael ei wrthod nac am y swm sy'n daladwy.
(3) Pan ei bod yn ymddangos i lys sirol, ar gais person y mae hysbysiad cosb benodedig wedi'i gyflwyno iddo, y byddai'n afresymol o dan amgylchiadau'r achos i fynnu bod y person hwnnw yn cyflwyno datganiad statudol o fewn y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff (1)(c), gall y llys sirol ganiatáu cyfnod hirach ar gyfer cyflwyno'r datganiad statudol ag y bydd yn ei ystyried yn briodol.
(b) mae gorchymyn y llys i gael ei drin fel pe bai wedi'i ddiddymu; (c) mae'r gosb benodedig y mae'r hysbysiad cosb benodedig yn ymwneud â hi i gael ei thrin fel pe bai wedi'i chanslo; (ch) rhaid i'r llys sirol gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig o effaith cyflwyno'r datganiad ar y person sy'n ei wneud ac ar yr awdurdod priodol; a (d) er gwaethaf rheoliad 15, gall yr awdurdod priodol gyflwyno hysbysiad cosb benodedig newydd ar y person sy'n gwneud y datganiad neu unrhyw berson arall.
Dyroddi hysbysiadau
(b) drwy gyfeirio yn briodol llythyr wedi'i dalu o flaen llaw sy'n cynnwys yr hysbysiad, a'i bostio at y person hwnnw,
a dylid cymryd bod hysbysiad o'r fath wedi cael ei ddyroddi ar yr adeg pan gaiff ei roi felly neu pan gaiff y llythyr sy'n ei gynnwys ei bostio. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae adran 87(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 yn rhoi'r p er i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") wneud rheoliadau sy'n gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â Chymru, mewn perthynas ag asesu neu reoli ansawdd aer.Rhoddodd Rheoliadau Traffig Ffyrdd (Allyriadau Cerbydau) (Cosbau Penodedig) 1997 ("Rheoliadau 1997"), a wnaed o dan y p er uchod, hawl i rai awdurdodau lleol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban ("awdurdodau sy'n cymryd rhan") i ddyroddi hysbysiadau cosb benodedig i ddefnyddwyr cerbydau o fewn eu hardaloedd a oedd wedi torri neu'n methu â chydymffurfio â rheoliad 61, 61A neu 98 o Reoliadau Cerbydau Ffyrdd (Eu Hadeiladwaith a'u Defnydd) 1986 ("Rheoliadau 1986"). Mae rheoliadau 61 a 61A o Reoliadau 1986 yn ymwneud ag allyriadau mwg, anwedd, nwyon, sylweddau olewog, a.y.y.b. Mae rheoliad 98 o Reoliadau 1986 yn ei gwneud hi'n ofynnol i beiriannau cerbydau gael eu diffodd pan nad yw'r cerbydau yn symud (heblaw am resymau sy'n ymwneud â thraffig a.y.y.b.). Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli Rheoliadau 1977, mewn perthynas â Chymru.O dan y Rheoliadau hyn gall awdurdod lleol yng Nghymru y mae ei ardal yn cynnwys ardal a ddynodwyd o dan adran 83 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 fel ardal rheoli ansawdd aer wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol i gael ei ddynodi o dan y Rheoliadau hyn. Gall awdurdod lleol a ddynodwyd felly ddefnyddio, mewn perthynas ag ardal rheoli ansawdd aer, hysbysion cosbau penodedig i gosbi tramgwyddau o dan reoliadau 61, 61A o Reoliadau 1986 a thramgwyddau o dan reoliad 98 o'r Rheoliadau hynny sy'n ymwneud ag allyriadau nwyon llosg. Yn Rhan 1 o'r Rheoliadau hyn, mae rheoliad 2 yn diffinio'r termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau. Yn Rhan 2, mae rheoliad 3 yn pennu'r amgylchiadau pan y gellir gwneud cais am ddynodiad, a'r dogfennau y dylid eu cyflwyno law yn llaw â'r cais. Mae rheoliad 4 yn nodi'r meini prawf ar gyfer dynodiad a rheoliad 5 yn darparu ar gyfer diddymu dynodiadau. Yn Rhan 3, mae rheoliad 6 yn cynnwys darpariaethau sy'n ymwneud ag awdurdodi personau i gynnal profion allyriadau ar gerbydau, er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â diffodd peiriannau cerbydau llonydd ac i ddyroddi hysbysiadau cosb benodedig. Yn Rhan 4, mae rheoliad 7 yn rhagnodi dau dramgwydd o dan Reoliadau 1986 fel cosbau penodedig at ddibenion y Rheoliadau hyn. Mae'r cyntaf yn cael ei briodoli i reoliadau 61 a 61A o Reoliadau 1986, ac mae iddo gosb benodedig o £60 o dan reoliad 8. Mae'r ail yn cael ei briodoli i'r hynny o reoliad 98 o Reoliadau 1986 sy'n delio ag atal allyriadau nwyon llosg, ac mae i'r dramgwydd hwnnw gosb benodedig o £20 o dan reoliad 8. (Gellir cynyddu'r symiau yn unol â rheoliad 17, neu eu gostwng neu eu hepgor yn unol â rheoliad 19.). Mae rhan 5 yn cynnwys darpariaethau (rheoliadau 9 i 11) sy'n rhoi p er i gynnal profion allyriadau ac i ddelio â materion eraill sy'n berthnasol i'r cyntaf o'r tramgwyddau cosb benodedig.Mae Rhan 6 yn cynnwys darpariaethau (rheoliadau 12 i 14) sy'n rhoi p er i ddiffodd peiriant cerbyd llonydd ac i ddelio â materion eraill sy'n berthnasol i'r ail o'r tramgwyddau cosbau penodedig.Yn Rhan 7, mae rheoliadau 15 ac 16 yn darparu ar gyfer amseru dyroddi'r hysbysiadau cosb benodedig a'u cynnwys. Mae rheoliad 17 yn delio ag effaith hysbysiadau cosb benodedig, ac yn darparu ar gyfer cynyddu'r gosb pan na chaiff taliad ei wneud yn unol â'r hysbysiad. Mae rheoliad 18 yn galluogi person y mae hysbysiad cosb benodedig wedi'i ddyroddi iddo i ofyn am wrandawiad mewn perthynas â'r tramgwydd y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef. Mae rheoliad 19 yn darparu ar gyfer gwneud cais i ostwng swm cosb benodedig neu ei hepgor yn llwyr. Mae rheoliad 20 yn delio â thynnu hysbysiadau cosbau penodedig yn ôl. Yn Rhan 8, mae rheoliadau 21 a 22 yn delio â chasglu cosbau penodedig nad ydynt wedi'u talu ac mae rheoliad 23 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â dyroddi hysbysiadau o dan y Rheoliadau. Mae rheoliad 25 yn diddymu Rheoliadau 1997 mewn perthynas â Chymru. Notes: [1] 1995 p.25. Gweler adran 91(1) am y diffiniadau o "prescribed" a "regulations".back [2] Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i'r Cynulliad Cenedlaethol gan Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosgwlyddo Swyddogaethau) (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back [3] O.S. 1986/1078; yr offerynnau diwygio perthnasol sy'n ymwneud ag allyriadau yw O.S. 1990/1131, 1992/2137, 1993/2199, 1995/2210, 1997/1544, 1998/1, 1998/1563, 2000/3197, 2001/306, 2001/1825 a 2001/3208.back [4] 1988 c.52. Y mae diwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back [5] O.S. 1981/1078; amnewidiwyd Atodlen 2 gan O.S. 1991/2229 a'i diwygio gan O.S. 1992/3160 a 1998/1672.back [7] O.S. 1993/2073; Gweler y diffiniad o "specified debts" yn erthygl 1(2), ac erthygl 2(1), a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/1386.back
ISBN 0 11090732 9
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 30 April 2003 |