Offerynnau Statudol 2003 Rhif 233 (Cy.33)

      Rheoliadau Tenantiaethau Preswyl Hir (Prif Ffurflenni) (Diwygio) (Cymru) 2003


      © Hawlfraint y Goron 2003

      Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines.

      Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Rheoliadau Tenantiaethau Preswyl Hir (Prif Ffurflenni) (Diwygio) (Cymru) 2003, ISBN 0 11090641 1. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited.

      Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 233 (Cy.33)

LANDLORD A THENANT

Rheoliadau Tenantiaethau Preswyl Hir (Prif Ffurflenni) (Diwygio) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 5 Chwefror 2003 
  Yn dod i rym 28 Chwefror 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan baragraff 4(1) o Atodlen 10 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989[1], a phob pwcirc er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tenantiaethau Preswyl Hir (Prif Ffurflenni) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 28 Chwefror 2003.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio
    
2.  - (1) Mae Ffurflenni 1 a 2 yn yr Atodlen i Reoliadau Tenantiaethau Preswyl Hir (Prif Ffurflenni) 1997[2] yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

    (2) Yn lle nodiadau 2 a 3 ar ddiwedd pob ffurflen, rhowch - 

      " Note 2: Schedule 10 to the Local Government and Housing Act 1989 provides that a tenant of residential property under a long residential tenancy has a right, at the end of the original term of the tenancy, to continue as a tenant on the same terms as before unless the landlord ends the tenancy in accordance with the provisions of that Act. But see also Note 3.

      Note 3: In certain circumstances, Schedule 10 does not apply and the landlord can end your tenancy by giving notice in accordance with the ordinary requirements of the law. These circumstances include cases where:

      (a) you pay more than a low rent (see paragraph 2(4) and (5) of Schedule 10) unless the property is a house and the tenancy has been extended under section 14 of the Leasehold Reform Act 1967, in which case Schedule 10 applies regardless of whether a low rent is being paid;

      (b) the property has a high rateable value (see paragraph 2 of Schedule 1 to the Housing Act 1988, unless the long tenancy was granted after 31st March 1990, in which case paragraph 1(2A) of Schedule 10 applies);

      (c) the tenancy does not meet certain requirements for the existence of an assured tenancy set out in Part 1 of Schedule 1 to the Housing Act 1988  -  for instance because the landlord is the Crown, a local authority or another exempt landlord;

      (d) the property is a flat whose lease was extended under Chapter 2 of Part 1 of the Leasehold Reform Housing and Urban Development Act 1993, by virtue of section 59 of that Act.

      The above is not intended to give a full account of all the circumstances in which Schedule 10 does not apply. Legal advice should be sought if there is any doubt as to whether Schedule 10 applies in a particular case."[3].

Cymhwyso
     3. Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn yn effeithio ar ddilysrwydd hysbysiad a gyflwynwyd cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

5 Chwefror 2003



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio dwy ffurflen sydd wedi'u rhagnodi at ddibenion Atodlen 10 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (diogelwch deiliadaeth wrth derfynu tenantiaethau preswyl hir).

Mae'r ffurflenni y mae'r diwygio hwn yn effeithio arnynt i'w gweld yn yr Atodlen i Reoliadau Tenantiaethau Preswyl Hir (Prif Ffurflenni) 1997. Mae newidiadau yn cael eu gwneud i'r nodiadau ar ddiwedd Ffurflenni 1 a 2 yn dilyn y diwygiad i adran 16 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Prydlesi 1967 gan adran 143 o Ddeddf Cyd-ddeiliadaeth a Diwygio Cyfraith Prydlesi 2002 (a gafodd ei dwyn i rym yng Nghymru ar 1 Ionawr 2003 gan O.S. 2002/3012 (Cy.284)(C.96)). Mae yna newidiadau drafftio eraill.


Notes:

[1] 1989 p.42. Gweler y diffiniad o "prescribed" yn adran 45(1) o Ddeddf Tai 1988 (p.50), sy'n effeithiol yn rhinwedd paragraff 2(2) yn Atodlen 10 i Ddeddf 1989. Trosglwyddir Swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas a Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672, erthygl 2, Atodlen 1.back

[2] O.S. 1997/3008.back

[3] Mewnosodwyd paragraff 1(2A) yn Atodlen 10 i Ddeddf 1989 a diwygiwyd is-baragraffau 2(4) a 2(5) o Atodlen 10 i Ddeddf 1989 gan reoliad 2 yn Rheoliadau Cyfeinadau at Ardreth (Tai) 1990 (O.S. 1990/434), a pharagraff 31 i'r Atodlen i'r Rheoliadau.back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090641 1


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2003
Prepared 12 February 2003