Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines. Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) 2003, ISBN 0 11090647 0. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited. Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, a hwythau'n gweithredu ar y cyd wrth arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1, 7, 8 a 83 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[1] yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Teitl, cymhwyso a chychwyn 1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) 2003; mae'n gymwys i Gymru yn unig ac yn dod i rym ar 31 Ionawr 2003. Diwygiad i Orchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002 2. Yn Erthygl 1(2) o Orchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002[2] mae'r geiriau "1 Ebrill 2003" yn cael rhoi yn lle "1 Chwefror 2003". Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru D.Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 29 Ionawr 2003 Whitty Yr Is-Ysgrifennydd Seneddol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig 30 Ionawr 2003 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/283 (Cy. 34) fel y'i diwygiwyd) fel bod effaith y Gorchymyn hwnnw yn parhau tan 1 Ebrill 2003. Notes: [1] 1981 p. 22. Trosglwyddwyd swyddogaethau a roddwyd o dan Ddeddf 1981 i "the Ministers" (fel y'u diffinnir yn adran 86 o'r Dddeddf honno) i'r graddau yr oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau ar y cyd "the Ministers" a oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol yr Alban mewn perthynas â Chymru i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999, O.S. 1999/3141. Cafodd pob un o swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd eu trosglwyddo ymhellach wedyn i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S. 2002/794).back [2] O.S. 2002/283 (Cy. 34) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/1358 (Cy.134), O. S. 2002/2060 (Cy. 209) ac O.S. 2002/2304 (Cy. 229).back
ISBN 0 11090647 0
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 18 February 2003 |