Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 10) a Darpariaethau Trosiannol (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines. Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 10) a Darpariaethau Trosiannol (Cymru) 2003, ISBN 0 11090639 X. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited. Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 118(6) a (7) a 122 o Ddeddf Safonau Gofal 2000[1] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi, dehongli a chymhwyso 1. - (1) Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 10) a Darpariaethau Trosiannol (Cymru) 2003. (2) Yn y Gorchymyn hwn -
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
(ii) nad ydynt eisoes mewn grym;
(b) adrannau 45 a 46;
(ii) Atodlen 6 i'r graddau y mae'n ymwneud ag adrannau 3, 4(1) a 4 (3), 5 a 9 (1) o Ddeddf Mabwysiadu 1976[2].
(2) 1 Chwefror 2003 yw'r diwrnod a benodwyd ar gyfer dwyn i rym adrannau 105 a 106 a pharagraff 21 o Atodlen 4 o'r Ddeddf. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gochymyn hwn yn dod â nifer o ddarpariaethau Deddf Safonau Gofal 2000 i rym mewn perthynas â rheoleiddio Canolfannau Preswyl i Deulueodd, Asiantaethau Mabwysiadu Gwirfoddol, Asiantaethau Maethu a Gwasanaethau Mabwysiadau Awdurdodau Lleol. Effaith y Gorchymyn hwn fydd dod â'r sefydliadau a'r asiantaethau hyn o fewn fframwaith rheoleiddio Deddf Safonau Gofal 2000, a gaiff ei orfodi yng Nghymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae darpariaethau pellach yn ymwneud â rhai darpariaethau o Ran VIII o Ddeddf Safonau Gofal 2000 eu heffaith yw diwygio Rhan XII o Ddeddf Plant 1989 ("Deddf 1989") ac sy'n dod i rym ar 1 Chwefror 2003. Effaith y diwygiadau yw ehangu'r ddyletswydd i fonitro lles plant sy'n preswylio i bob ysgol a choleg addysg bellach sy'n darparu llety i blant. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn disodli'r awdurdod lleol fel y corff monitro. Mae darpariaethau adrannau 87A ac 87B o Ddeddf 1989 sy'n caniatáu i sefydliadau benodi arolygydd wedi'i gymeradwyo i fonitro eu darpariaeth les yn yr un modd yn cael eu hestyn i bob ysgol a choleg addysg bellach sy'n darparu llety i blant. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae darpariaethau Deddf Safonau Gofal 2000 ("y Ddeddf") y gwneir cofnod mewn perthynas â hwy yn y Tabl isod wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru ar y dyddiad a bennir gyferbyn â'u cofnod. Cafodd y darpariaethau hynny y dilynir y cofnod amdanynt ag '(a)' eu dwyn i rym gan O.S. 2000/2992 (Cy.192) (C.93); cafodd y rhai a ddilynir gan '(b)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/139 (Cy.5) (C.7); cafodd y rhai a ddilynir gan '(c)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2190 (Cy.152) (C.70); cafodd y rhai a ddilynir gan '(ch)' eu dwyn i rym gan O.S.. 2001/2354 (Cy.192) (C.80); cafodd y rhai a ddilynir gan '(d)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2504 (Cy.205) (C.82); cafodd y rhai a ddilynir gan '(dd)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2538 (Cy.213) (C.83); cafodd y rhai a ddilynir gan '(e)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2782 (Cy.235) (C.92); cafodd y rhai a ddilynir gan '(f)' eu dwyn i rym gan O.S. 2002/920 (Cy.108) (C.24) a chafodd y rhai a ddilynir gan '(ff)' eu dwyn i rym gan O.S. 2002/1175 (Cy.123) (C.31).
Mae darpariaethau'r Ddeddf y gwneir cofnod mewn perthynas â hwy yn y Tabl isod wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru, yn ogystal â mewn perthynas â Lloegr, ar y dyddiad a bennir gyferbyn â'r cofnod. Cafodd y darpariaethau hynny y dilynir y cofnod amdanynt ag '(a)' eu dwyn i rym gan O.S. 2000/2544 (C.72); a'r rhai y dilynir y cofnod amdanynt gan '(b)' eu dwyn i rym gan O.S. 2002/629 (C.19).
Yn ychwanegol cafodd amryw ddarpariaethau eraill o'r Ddeddf eu dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2000/2795 (C.79); O.S. 2001/290 (C.17); O.S. 2001/731 (C.26); O.S. 2001/952 (C.35); O.S. 2001/1210 (C.41); O.S. 2001/1536 (C.55); O.S. 2001/2041 (C.68); O.S. 2001/3331 (C.109); O.S. 2001/3852 (C.125); O.S. 2001/4150 (C.134); O.S. 2002/839 (C.22); O.S. 2002/1245 (C.33); O.S. 2002/1493 (C.43); O.S. 2002/1790 (C.55) ac O.S. 2002/2215 (C.70). Notes: [1] 2000 p.14. Rhoddwyd y pwerau i'r Gweinidog priodol. Ystyr "Gweinidog priodol" yw'r Cynulliad mewn perthynas â Chymru, a'r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon (a.121(1) o'r Ddeddf). Ystyr "Cynulliad" yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru (a.5(b) o'r Ddeddf).back
ISBN 0 11090639 X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 12 February 2003 |