Rheoliadau Premiwm Blynyddol Defaid (Diwygio) (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines. Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Rheoliadau Premiwm Blynyddol Defaid (Diwygio) (Cymru) 2003, ISBN 0 11090633 0. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited. Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo o dan yr adran 2(2) a enwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol : Teitl a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Premiwm Blynyddol Defaid (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 3 Chwefror 2003. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn -
Diwygio'r prif Reoliadau
(4) Ar ôl rheoliad 7, mewnosodir y rheoliad canlynol -
8. - (1) Where at any time during a marketing year a producer fails to comply with the record keeping requirements of paragraphs (2) to (4) of this regulation, the National Assembly may withhold or recover on demand the whole or any part of any premium payable or paid to the producer in respect of that marketing year. (2) On or before 31st January each year, the producer shall record the total number of female sheep on the holding on 1st January of that year which either were over 12 months old or had given birth, and the date the entry was made. (3) Without prejudice to the requirements of paragraph (2), within 14 days of any of the following events -
(b) a female sheep which has not given birth
reaching the age of 12 months;
(d) the discovery that a female sheep which either was over 12 months old or had given birth has been lost from the holding, either because it has died or because it is missing from the holding.
the producer shall record the total number of female sheep on the holding which have given birth or are over 12 months old, the date of the entry and the reasons that the total number of such sheep on the holding has changed.
(5) Dilëir Rheoliad 8A. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 3 Chwefror 2003, yn diwygio Rheoliadau Premiwm Blynyddol Defaid 1992 (O.S. 1992/2677, fel y'u diwygiwyd eisoes gan O.S. 1994/2741, 1995/2779, 1996/49, 1997/2500 a 2000/2573) ("y prif Reoliadau"). Maent yn diwygio'r prif Reoliadau cyn belled ag y mae'r rheiny'n ymwneud "i raddau perthnasol" ag unrhyw gynhyrchydd at ddibenion Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2529/2001 sy'n gosod rheolau cyffredinol ar gyfer rhoi premiwm i gynhyrchwyr cig defaid a chig geifr (OJ Rhif L341, 22.12.2001, t.3). Y "graddau perthnasol" at y diben hwn yw'r graddau y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mewn perthynas â daliad y cynhyrchydd o dan sylw, yn awdurdod cymwys perthnasol at ddibenion Rheoliadau System Integredig Gweinyddu a Rheoli 1993 (O.S. 1993/1317, fel y'u diwygiwyd gan O.S. 1994/1134, 1997/1148, 1999/1820 a 2000/2573). Mae'r Rheoliadau yn mewnosod yn y prif Reoliadau reoliad 8 newydd sy'n gosod gofynion ar y cynhyrchwyr hynny i gadw cofnodion yngl n â digwyddiadau penodedig. Yn ychwanegol, maent yn gwneud diwygiadau canlyniadol i'r prif Reoliadau. Mae'r gofynion hyn yngl n â chadw cofnodion yn gweithredu Erthygl 4(1)(b) o Gyfarwyddeb y Cyngor (EC) Rhif 92/102 ar adnabod a chofrestru anifeiliaid (OJ Rhif L355, 5.12.92, t.32) ac maent yn ofynion a gafodd eu pennu o'r blaen yn erthygl 5 o Reoliadau Adnabod Defaid a Geifr (Cymru) 2000 (O.S. 2000/2335 (Cy.152)).Nid oes Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Notes: [1] Yn rhinwedd Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) 1999 (O.S. 1999/2788) ("y Gorchymyn"). Mae p er y Cynulliad Cenedlaethol, fel corff sydd wedi'i ddynodi mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, i wneud rheoliadau sy'n gymwys i ddaliadau sy'n cynnwys tir sydd wedi'i leoli o fewn y Deyrnas Unedig ond sydd y tu allan i Gymru wedi'i gadarnhau gan baragraff 2(b) o Atodlen 2 i'r Gorchymyn.back[3] OJ Rhif L341, 22.12.2001, t.3.back [4] O.S. 1992/2677, a ddiwygiwyd gan O.S. 1994/2741, 1995/2779, 1996/49, 1997/2500 a 2000/2573.back [5] O.S. 1993/1317, a ddiwygiwyd gan O.S. 1994/1134, 1997/1148, 1999/1820 a 2000/2573.back
ISBN 0 11090633 0
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 7 February 2003 |