Rheoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) 2003, ISBN 0110906640. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16BB(1), (3) a (5) a 126(1) a (4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2003 a byddant yn gymwys i Gymru yn unig. Dehongli 2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn, oni bai fod y cyd-destun yn mynnu fel arall -
(b) y dyddiad pan gafodd y Bwrdd Iechyd Lleol dan sylw ei sefydlu,
p'un bynnag yw'r diwethaf;
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, y personau y mae'r Bwrdd Iechyd Lleol yn gyfrifol amdanynt mewn unrhyw flwyddyn yw'r personau sydd fel arfer yn preswylio yn yr ardal y mae'r Bwrdd Iechyd Lleol wedi'i sefydlu ar ei chyfer.
(b) pan nad yw'r person yn rhoi cyfeiriad o'r fath, caiff ei drin fel pe bai fel arfer yn preswylio yn y cyfeiriad y mae ef yn ei roi i'r person neu'r corff sy'n darparu gwasanaethau ar ei gyfer, sef cyfeiriad mwyaf diweddar y person; (c) pan nad oes modd penderfynu ar gyfeiriad arferol y person o dan is-baragraff (a) a (b) uchod, caiff y person ei drin fel ei fod fel arfer yn preswylio yn yr ardal y mae'r person yn bresennol ynddi.
Swyddogaethau i'w harfer gan Fyrddau Iechyd Lleol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu swyddogaethau Byrddau Iechyd Lleol a sefydlwyd ar gyfer pob ardal o Gymru yn unol ag adran 16BA o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (gweler O.S. 2003/148). Bydd Byrddau Iechyd Lleol yn gyfrifol am arfer swyddogaethau, (yn ddarostyngedig i rai eithriadau penodedig sy'n ymwneud â gwasanaethau iechyd arbenigol, iechyd y cyhoedd a swyddogaethau sydd i'w cyflawni ar lefel ranbarthol), a oedd yn cael eu harfer gan gyn Awdurdodau Iechyd mewn perthynas ag unrhyw ran o'r ardal y mae'r Bwrdd Iechyd Lleol wedi'i sefydlu ar ei chyfer ac sydd wedi'u trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â gorchymyn a wnaed o dan adran 27 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (Rheoliad 3(2) a'r Atodlen). Bydd Byrddau Iechyd Lleol yn arfer eu swyddogaethau er budd y personau hynny sydd fel arfer yn preswylio yn eu hardal (Rheoliad 1(2)). Notes: [1] 1977 p.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i) a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999"), Atodlen 4, paragraff 38(2)(b), ar gyfer y diffiniad o "prescribed" a "regulations". Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a Deddf 1999, Atodlen 4, paragraff 37(6). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 126(4) o Ddeddf 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 O.S. 1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan Dddeddf 1999, adran 66(5). Mewnosodwyd adran 16BB gan adran 6 o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17).back
ISBN 0 11090664 0
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 11 March 2003 |