Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2003, ISBN 0110906632. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 16BC(2) a (3) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 a pharagraffau 6(1), a (2) o Atodlen 5B iddi[1] sy'n arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol[2] mewn perthynas â Chymru, yn gwneud y Rheoliadau canlynol - Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 10 Chwefror 2003. Dehongli 2. Bydd y geiriau a'r ymadroddion canlynol yn dwyn yr ystyron canlynol -
Aelodaeth Byrddau Iechyd Lleol 3. - (1) Bydd Bwrdd wedi ei ffurfio o'r aelodau a ddisgrifir yn y Rheoliadau hyn. (2) Yr aelodau sy'n swyddogion fydd -
(b) y swyddog meddygol; (c) y swyddog cyllid; ac (ch) y swyddog nyrs.
(3) Yr aelodau nad ydynt yn swyddogion fydd -
(b) yr is-gadeirydd; (c) hyd at bedwar aelod awdurdod lleol, y mae'n rhaid i o leiaf un ohonynt fod yn aelod etholedig o gyngor yr awdurdod lleol hwnnw, a rhaid i un ohonynt fod yn uwch-swyddog gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol hwnw; (ch) arbenigydd iechyd y cyhoedd; (d) hyd at dri aelod ymarferydd meddygol cyffredinol; (dd) aelod fferyllydd; (e) aelod ymarferydd deintyddol; (f) aelod optometrydd; (ff) aelod nyrsio, bydwreigiaeth neu ymwelydd iechyd; (g) aelod therapi; (ng) hyd at ddau aelod o'r sector gwirfoddol; (h) hyd at ddau aelod lleyg o'r gymuned, y mae'n rhaid i un ohonynt fod yn ofalwr; a (i) pedwar aelod cyswllt.
(4) Yn ychwanegol at at yr aelodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) uchod, caiff y Bwrdd o bryd i'w gilydd benodi cyfryw aelodau cyfetholedig sydd yn ei farn ef yn angenrheidiol neu'n briodol er mwyn i'r Bwrdd gyflawni ei swyddogaethau.
(b) os daw'n hysbys i'r cadeirydd a'r aelodau nad ydynt yn swyddogion bod y person yn anghymwys felly ar adeg ei benodi, rhaid iddynt hysbysu'r person a'r Cynulliad yn ysgrifenedig a hynny'n ddiymdroi o'u barn na chafodd y person ei benodi yn briodol;
ac, yn dilyn hysbysiad o'r fath, gall y cadeirydd a'r aelodau nad ydynt yn swyddogion derfynu cyfnod dal swydd y person hwnnw a bydd y person hwnnw yn peidio â gweithredu fel aelod sy'n swyddog.
(b) y bydd modd i'r person fynychu cyfarfodydd o'r fath o fewn cyfnod o'r fath sydd yn rhesymol ym marn y cadeirydd a'r aelodau nad ydynt yn swyddogion.
(7) Cyn iddynt wneud eu penderfyniad terfynol ynghylch terfynu cyfnod dal swydd aelod sy'n swyddog, gall y cadeirydd a'r aelodau nad ydynt yn swyddogion, os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol i wneud hynny, atal dros dro cyfnod dal swydd aelod sy'n swyddog am gyfnod o'r fath sydd yn eu barn hwy yn rhesymol cyn eu bod yn gwneud eu penderfyniad terfynol.
(b) nad yw'n gydnaws â rheolaeth dda y Bwrdd,
i berson a benodwyd i ddal swydd fel aelod nad yw'n swyddog o'r Bwrdd hwnnw barhau i ddal y swydd honno, gall y Bwrdd, gyda chaniatâd y Cynulliad, derfynu aelodaeth y person hwn yn ddiymdroi.
(b) os daw'n hysbys i'r Bwrdd bod y person yn anghymwys felly ar adeg ei benodi, rhaid i'r Bwrdd yn ddiymdroi hysbysu'r person a'r Cynulliad yn ysgrifenedig am yr anghymwysiad hwnnw,
caiff y Bwrdd, gyda chydsyniad blaenorol y Cynulliad, derfynu aelodaeth y person hwnnw yn ddiymdroi a bydd y person hwnnw yn peidio â gweithredu fel y cadeirydd, is-gadeirydd neu aelod nad yw'n swyddog arall.
(b) y bydd modd i'r person fynychu cyfarfodydd o'r fath o fewn cyfnod o'r fath sydd ym marn y Bwrdd yn rhesymol.
(5) Cyn gwneud penderfyniad terfynol ynghylch terfynu aelodaeth unrhyw aelod nad yw'n swyddog gall y Bwrdd, os yw o'r farn ei bod yn briodol gwneud hynny, atal dros dro aelodaeth aelod nad yw'n swyddog am gyfnod sydd yn ei farn ef yn rhesymol cyn iddo wneud ei benderfyniad terfynol. Penodi is-gadeirydd 10. - (1) Os nad oes is-gadeirydd wedi cael ei benodi gan y Cynulliad, yna yn ddarostyngedig i baragraff (2), gall y cadeirydd ac aelodau nad ydynt yn swyddogion o'r Bwrdd benodi un o'u plith, nad yw'n aelod sy'n swyddog o'r Bwrdd, i fod yn is-gadeirydd am gyfnod, nad yw'n hwy na gweddill ei dymor fel aelod o'r Bwrdd, ag y gallant ei bennu. (2) Gall unrhyw aelod a benodwyd felly ymddiswyddo ar unrhyw adeg o'i swydd fel is-gadeirydd drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r cadeirydd. (3) Y dyddiad pan gaiff ymddiswyddiad drwy hysbysiad a roddwyd yn unol â pharagraff (2) effaith fydd -
(b) mewn urnhyw achos arall, y dyddiad pan dderbynnir yr hysbysiad gan y cadeirydd.
Pwerau is-gadeirydd
(b) bod cadeirydd y Bwrdd wedi marw neu wedi peidio â dal swydd, neu yn methu â chyflawni dyletswyddau cadeirydd o ganlyniad i salwch, absenoldeb o Gymru a Lloegr neu unrhyw achos arall,
bydd yr is-gadeirydd yn gweithredu fel cadeirydd hyd nes y caiff cadeirydd newydd ei benodi neu bod y cadeirydd presennol yn ailafael yn nyletswyddau cadeirydd, yn ôl fel y digwydd; a dylid cymryd bod cyfeiriadau at y cadeirydd yn Atodlen 3, cyn belled nad oes cadeirydd all gyflawni dyletswyddau cadeirydd, yn cynnyws cyfeiriadau at yr is-gadeirydd.
(b) ynghyd ag un Bwrdd neu Ymddiredolaeth GIG neu fwy neu'r awdurdod lleol ar gyfer ardal y Bwrdd, benodi pwyllgorau ar y cyd neu is-bwyllgorau,
sy'n cynnwys yn rhannol neu'n gyfan gwbl aelodau'r Bwrdd neu gyrff gwasanaeth iechyd eraill neu bersonau nad ydynt yn aelodau o'r Bwrdd neu gyrff gwasanaeth iechyd eraill.
(b) yn achos pwyllgor neu is-bwyllgor o'r Bwrdd, gan y pwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw, neu (c) yn achos pwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlir ar y cyd â Byrddau eraill, Ymddiriedolaethau GIG neu'r awdurdod lleol ar gyfer ardal y Bwrdd, ar y cyd â'r Byrddau eraill hynny, yr Ymddiriedolaethau GIG neu'r awdurdod lleol,
wneud, amrywio a dirymu Rheolau Seyfdlog sy'n ymwneud â chworwm, trafodion a lleoliad cyfarfod pwyllgor neu is-bwyllgor ond, yn ddarostyngedig i unrhyw Reolau Sefydlog o'r fath, bydd y cworwm, trafodion a lleoliad y cyfarfod o'r math y gall y pwyllgor neu is-bwyllgor benderfynu arnynt.
(b) yn berson y gwnaed y contract gydag ef neu y bwriedir ei wneud gydag ef, neu y mae ganddo fuddiant ariannol uniongyrchol yn y mater o dan ystyriaeth, neu y mae'n bartner i berson o'r fath, neu'n cael ei gyflogi gan berson o'r fath;
ac yn achos personau sy'n briod â'i gilydd neu sy'n cyd-fyw fel pobl briod (p'un a ydynt o wahanol ryw neu beidio), caiff buddiant un ohonynt, os ydyw'n wybyddus i'r llall, ei ystyried at ddiben y rheoliad hwn fel pe bai hefyd yn fuddiant sy'n perthyn i'r llall.
(b) bod ganddo fuddiant mewn unrhyw gwmni, corff neu berson y mae gan aelod o'r fath gysylltiad ag ef fel y crybwyllir ym mharagraff (5) sydd mor wan neu ansylweddol fel nad oes modd ei ystyried yn rhesymol y byddai'n debygol o ddylanwadu ar aelod wrth ystyried neu drafod neu bleidleisio ar, unrhyw gwestiwn mewn perthynas â'r contract hwnnw, contract arfaethedig neu fater.
(7) Pan fo gan aelod fuddiant ariannol anuniongyrchol mewn contract, contract arfaethedig neu fater arall a hynny'n unig oherwydd bod ganddo fuddiant buddiol mewn gwarannau cwmni neu gorff arall, ac -
(b) os yw'r cyfalaf cyfranddaliadau yn perthyn i fwy nag un dosbarth, nad yw cyfanswm gwerth tybiannol cyfranddaliadau unrhyw ddosbarth y mae gan yr aelod fuddiant buddiol ynddo yn fwy na un rhan o gant cyfanswm y cyfalaf cyfranddaliadau a ddyroddwyd y dosbarth hwnnw,
ni fydd y rheoliad hwn yn gwahardd yr aelod hwnnw rhag cymryd rhan wrth i'r contract, contract arfaethedig neu fater arall gael ei ystyried neu ei drafod na rhag pleidleisio ar unrhyw gwestiwn mewn perthynas ag ef.
(b) hawliau (boed yn wirioneddol neu'n amodol) mewn perthynas ag arian a fenthycwyd i, neu a adneuwyd gyda, unrhyw gymdeithas ddiwydiannol neu ddarbodus neu gymdeithas adeiladu;
Trefniadau gan Fyrddau ar gyfer arfer eu swyddogaethau
(b) gan Awdurdod Iechyd Arbennig; (c) ar y cyd gydag un neu fwy o'r canlynol -
(ii) ymddiredolaethau GIG; (iii) Awdurdodau Iechyd Strategol yn Lloegr; (iv) Ymddiredolaethau Gofal Sylfaenol yn Lloegr; neu
(ch) ar ran y Bwrdd gan bwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog o'r Bwrdd.
(2) Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan y Cynulliad, gall unrhyw swyddogaeth sy'n arferadwy gan Fwrdd ar y cyd ag un neu fwy o'r cyrff a restrir ym mharagraff (1)(c) drwy drefniant â chorff neu chyrff o'r fath gael ei harfer ar eu rhan ar y cyd gan gyd-bwyllgor neu is-bwyllgor. (1) Mae'r Atodlen hon yn gymwys ar gyfer dethol a phenodi holl aelodau'r Bwrdd heblaw'r cadeirydd a'r is-gadeirydd, aelodau cyswllt, aelodau cyfetholedig a'r aelodau cyntaf. (2) Rhaid i'r Bwrdd sicrhau bod trefniadau priodol yn cael eu cyflwyno ar gyfer dethol a phenodi personau yn aelodau a bod y trefniadau hynny yn cymryd i ystyriaeth -
(b) y gofyniad i'r broses o ddethol a phenodi aelodau fod yn agored a thryloyw; (c) y gofyniad ar gyfer cystadleuaeth deg ac agored wrth ddethol a phenodi aelodau; ac (ch) yr angen i sichrau bod ymgeiswyr llwyddiannus yn bodloni'r gofynion cymhwyster a nodir yn Atodlen 2 a'u bod yn bodloni'r meini prawf ar gyfer dethol a'r safonau cymhwysedd a ddefnyddir gan y Bwrdd.
(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), (5) a (7), ni fydd person yn gymwys i gael ei benodi fel aelod os yw'r person hwnnw -
(b) wedi'i ddyfarnu'n fethdalwr neu wedi gwneud cyfamod neu drefniant â chredydwyr; (c) wedi cael ei orfodi i adael, heblaw drwy ddiswyddiad, unrhyw gyflogaeth gyflogedig gyda chorff gwasanaeth iechyd; (ch) bod ei aelodaeth fel cadeirydd, aelod neu gyfarwyddwr corff gwasanaeth iechyd wedi'i derfynu, heblaw o ganlyniad i ddiswyddiad, ymddiswyddiad gwirfoddol, ad-drefnu'r corff gwasanaeth iechyd, neu bod cyfnod mewn swydd y cafodd y person hwnnw ei phenodi iddi wedi dod i ben; (d) (heblaw yn achos aelod cyswllt) yn gadeirydd neu'n gyfarwyddwr Ymddiredolaeth GIG.
(2) At ddibenion paragraff (1) (a) ystyrir mai dyddiad yr euogfarn yw'r dyddiad pan ddaw'r cyfnod arferol a ganiatier ar gyfer gwneud apêl neu gais mewn perthynas â'r euogfarn i ben neu, os gwneir apêl neu gais o'r fath, y dyddiad pan gaiff yr apêl ei gwblhau neu ei roi heibio neu'n methu o ganlyniad i beidio â'i erlyn.
(b) os yw person yn cael ei ryddhau o fethdaliad, bydd y person hwnnw yn gymwys i gael ei benodi fel aelod ar ddyddiad y rhyddhau; (c) os, ag yntau wedi gwneud cyfamod neu drefniant â chredydwyr, bod dyledion y person yn cael eu talu'n llawn, bydd y person hwnnw yn gymwys i gael ei benodi fel aelod ar y dyddiad pan gaiff y dyledion hynny eu talu'n llawn; ac (ch) os, ag yntau wedi gwneud cyfamod neu drefniant â chredydwyr, bod y person hwnnw yn dod yn gymwys i gael ei benodi fel aelod pan ddaw'r pum mlynedd o'r dyddiad pan fodlonwyd amodau'r weithred gyfamod neu drefniant i ben.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), pan fo person yn anghymwys o ganlyniad i baragraff (1) (c), gall y person hwnnw, ar ôl i ddwy flynedd o dyddiad y diswyddiad ddod i ben, wneud cais ysgrifenedig i'r Cynulliad i waredu'r anghymwysedd, a gall y Cynulliad gyfarwyddo y bydd yr anghymwysedd yn dod i ben. Swyddog meddygol (8) Er mwyn bod yn gymwys i gael ei benodi fel y swyddog meddygol, rhaid i berson fod yn aelod o broffesiwn gofal iechyd, a gynhwysir ar gofrestr briodol a gedwir gan y corff proffesiynol sy'n gyfrifol am gofrestru aelodau proffesiwn y person hwnnw. Swyddog nyrs (9) Er mwyn bod yn gymwys i gael ei benodi fel y swyddog nyrs, rhaid i berson gael ei gynnwys ar y gofrestr a gedwir gan y Cyngor Nyrsys a Bydwragedd. Aelodau ymarferydd meddygol cyffredinol (10) Er mwyn bod yn gymwys i gael ei benodi fel aelod ymarferydd meddygol cyffredinol, rhaid i berson fodloni gofynion paragraff (18) a rhaid iddo fod yn ymarferydd meddygol cyffredinol sydd wedi ymddeol o gofrestr o'r fath yn ystod y cyfnod o ddeuddeg mis yn union cyn y dyddiad pan gafodd cais y person hwnnw ei gyflwyno i'r Bwrdd hwnnw. Aelod ymarferydd deintyddol (11) Er mwyn bod yn gymwys i gael ei benodi fel yr aelod ymarferydd deintyddol, rhaid i berson fodloni gofynion paragraff (18) a rhaid iddo fod wedi cael ei gynnwys ar y gofrestr a gedwir gan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol, neu wedi ymddeol o gofrestr o'r fath yn ystod y cyfnod o ddueddeg mis yn union cyn y dyddiad pan gafodd cais y person hwnnw ei gyflwyno i'r Bwrdd. Aelod bydwreigiaeth nyrsio ac ymwelydd iechyd (12) Er mwyn bod yn gymwys i gael ei benodi fel yr aelod bydwreigiaeth nyrsio ac ymwelydd iechyd, rhaid i berson fodloni gofynion paragraff (18) a rhaid iddo fod wedi'i gynnwys ar gofrestr a gedwir gan y Cyngor Nyrsys a Bydwragedd, neu fod wedi ymddeol o gofrestr o'r fath yn ystod y cyfnod o ddeuddeg mis yn union cyn y dyddiad pan gaiff cais y person hwnnw ei gyflwyno i'r Bwrdd hwnnw. Aelod optometrydd (13) Er mwyn bod yn gymwys i gael ei benodi fel yr aelod optometrydd, rhaid i berson fodloni gofynion paragraff (18) a rhaid iddo fod wedi'i gynnwys ar y gofrestr a gedwir gan y Cyngor Optegol Cyffredinol; neu fod wedi ymddeol o gofrestr o'r fath yn ystod y cyfnod deuddeg mis yn union cyn y dyddiad pan gaiff cais y person hwnnw ei gyflwyno i'r Bwrdd hwnnw. Aelod fferylliaeth (14) Er mwyn bod yn gymwys i gael ei benodi fel yr aelod fferylliaeth, rhaid i berson fodloni gofynion paragraff (18) a rhaid iddo gael ei gynnwys ar y gofrestr a gedwir gan Gymdeithas Fferyllol Frenhinol Prydain Fawr; neu fod wedi ymddeol o gofrestr o'r fath yn ystod y cyfnod o ddeuddeg mis yn union cyn y dyddiad pan gafodd cais y person hwnnw ei gyflwyno i'r Bwrdd hwnnw. Aelod therapi (15) Er mwyn bod yn gymwys i gael ei benodi fel yr aelod therapi, rhaid i berson -
(b) rhaid iddo fod yn aelod o un o'r proffesiynau canlynol -
Therapyddion Drama Therapyddion Cerddoriaeth Ceiropodyddion/Podiatryddion Deietygwyr Therapyddion Galwedigaethol Orthoptyddion Ffysiotherapyddion Therapyddion Siarad ac Iaith
neu fod wedi ymddeol o ymarfer mewn proffesiwn o'r fath yn ystod y cyfnod o ddeuddeg mis yn union cyn y dyddiad pan gaiff cais y person hwnnw ei gyflwyno i'r Bwrdd hwnnw.
Arbenigydd iechyd y cyhoedd
(b) rhaid i un fod yn gadeirydd, aelod neu swyddog Bwrdd Ymddiriedolaeth GIG; ac (c) rhaid i un fod yn ymarferydd meddygol a gyflogir gan Ymddiriedolaeth GIG neu gorff gwasanaeth iechyd arall; (ch) rhaid i un fod yn swyddog amser llawn neu'n gynrychiolydd achrededig lleol undeb llafur sy'n cynrychioli personau a gyflogir yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Gofynion cyffredinol ar gyfer aelodau proffesiynol
(b) aelod ymarferydd deintyddol; (c) aelod fferyllol; (ch) aelod optometrydd; (d) aelod bydwreigiaeth nyrsio ac ymwelydd iechyd; neu (dd) aelod therapi,
rhaid i berson fod wedi ymwneud â darparu gofal i aelodau o'r cyhoedd yn ardal y Bwrdd am gyfartaledd o un diwrnod yr wythnos o leiaf yn ystod y cyfnod deuddeg mis yn union cyn dyddiad cais y person hwnnw. 1. Rhaid i gyfarfod cyntaf Bwrdd gael ei gynnal ar ddiwrnod ac mewn lle y gellir ei bennu gan y cadeirdyd a'r cadeirydd fydd yn gyfrifol am gynnull y cyfarfod. 2. - (1) Gall y cadeirydd alw cyfarfod o'r Bwrdd ar unrhyw adeg. (2) Os bydd y cadeirydd yn gwrthod galw cyfarfod wedi i gais at y diben hwnnw, a lofnodwyd gan o leiaf draean o'r aelodau, gael ei gyflwyno iddo, neu os nad yw'n gwrthod, ond nad yw'n galw cyfarfod o fewn saith diwrnod ar ôl i gais o'r fath gael ei gyflwyno iddo, gall y traean hwnnw neu fwy o'r aelodau alw cyfarfod yn ddiymdroi. (3) Cyn bob cyfarfod o Fwrdd, rhaid i hysbysiad o'r cyfarfod, yn nodi'r busnes y bwriedir ei drin ynddo, ac wedi'i lofnodi gan y cadeirydd neu gan swyddog o'r Bwrdd a awdurdodwyd gan y cadeirydd i lofnodi ar ei ran gael ei ddanfon i bob aelod, neu gael ei anfon drwy'r post i breswylfa arferol aelod o'r fath, fel ei fod ar gael i aelod o'r fath o leiaf dri diwrnod clir cyn y cyfarfod. (4) Ni fydd diffyg cyflwyno'r hysbysiad ar unrhyw aelod yn effeithio ar ddilysrwydd cyfarfod. (5) Yn achos cyfarfod sy'n cael ei alw gan aelodau yn absenoldeb y cadeirydd, rhaid i'r hysbysiad gael ei lofnodi gan yr aelodau hynny ac ni chaiff unrhyw fusnes ei drin yn y cyfarfod heblaw'r hyn a bennir yn yr hysbysiad. 3. - (1) Mewn unrhyw gyfarfod o'r Bwrdd y cadeirydd, os yw'n bresennol, fydd yn llywyddu. (2) Os yw'r cadeirydd yn absennol o'r cyfarfod, yr is-gadeirydd, os oes un wedi'i benodi ac os yw'n bresennol, fydd yn llywyddu. (3) Os yw'r cadeirdydd a'r is-gadeirydd yn absennol, aelod nad yw'n swyddog a ddewisir gan yr aelodau sy'n bresennol fydd yn llywyddu. 4. Rhaid i bob cwestiwn mewn cyfarfod gael ei benderfynu gan fwyafrif pleidleisiau'r aelodau sy'n bresennol a thrwy bleidleisio ar y cwestiwn ac, os yw'r pleidleisiau yn gydradd, bydd gan y person sy'n llywyddu ail bleidlais a phleidlais fwrw. 5. Caiff enwau'r cadeirydd a'r aelodau sy'n bresennol yn y cyfarfod eu cofnodi. 6. Yn ddarostyngedig i baragraff 7, ni chaiff busnes ei drin mewn cyfarfod oni bai -
(b) bod y sawl sy'n bresennol yn cynnwys o leiaf un aelod sy'n swyddog ac un aelod nad yw'n swyddog.
7.
Rhaid i gofnodion y trafodion gael eu llunio a'u cyflwyno i gael eu cytuno arnynt yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd, lle cânt, os cytunir arnynt, eu llofnodi gan y person sy'n llywyddu. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Yr oedd y ddogfen strategaeth "Gwella Iechyd yng Nghymru", a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru fis Chwefror 2001, yn dynodi'r bwriad i ddiddymu'r pum Awdurdod Iechyd presennol yng Nghymru ar 1 Ebrill 2003 a chreu Byrddau Iechyd Lleol y gall y Cynulliad Cenedlaethol ddirprwyo swyddogaethau'r Awdurdodau Iechyd a swyddogaethau eraill y Cynulliad Cenedlaethol sy'n ymwneud â'r gwasanaeth iechyd iddynt. Mae Byrddau Iechyd Lleol i'w sefydlu gan Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/148, Cy.18) a byddant yn dechrau gweithredu ar 1 Ebrill 2003. Nodir eu swyddogaethau yn Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/150, Cy.20) Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfansoddiad ac aelodaeth Byrddau Iechyd Lleol, gan gynnwys eu gweithdrefnau a'u trefniadau gweinyddol. Notes: [1] 1977 p.49.back [2] Mae swyddogaethau o dan adran 16BC ac Atodlen 5B o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 wedi eu breinio yn uniongyrchol yn y Cynulliad.back [3] O.S. 2003 Rhif 148. Cy. 18.back [7] Ceir copïau o'r ddogfen hon drwy ysgrifennu i'r Is-adran (Adnoddau Dynol) GIG, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.back [8] Ceir copïau o'r ddogfen hon drwy ysgrifennu i'r Is-adran (Adnoddau Dynol) GIG, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.back
ISBN 0 11090663 2
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 11 March 2003 |