Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003, ISBN 0110906667. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16BA, is-adrannau (1), (2) a (3) a 126(4) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1], ac Atodlen 5B, paragraffau 1 a 2 i'r Ddeddf honno, sy'n arferadwy ganddo mewn perthynas â Chymru[2], yn gwneud y Gorchymyn canlynol - Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 10 Chwefror 2003. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig. Dehongli 2. Yn y Gorchymyn hwn -
Sefydlu Byrddau Iechyd Lleol
(b) ymrwymo i gontractau eraill gan gynnwys contractau cyflogaeth; ac (c) gwneud unrhywbeth arall y mae'n rhesymol angenrheidiol er mwyn ei alluogi i weithredu'n foddhaol a hynny gydag effaith o'i ddyddiad gweithredol.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Roedd y ddogfen strategaeth Gwella Iechyd yng Nghymru, a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru fis Chwefror 2001, yn dynodi'r bwriad i ddiddymu'r pum Awdurdod Iechyd sydd eisoes yn bodoli yng Nghymru ar 1 Ebrill 2003 a chreu Byrddau Iechyd Lleol y gall y Cynulliad Cenedlaethol ddirprwyo iddynt swyddogaethau Awdurdodau Iechyd a drosglwyddwyd iddo yn unol ag adran 27 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (1998 p.38), a swyddogaethau eraill y Cynulliad Cenedlaethol sy'n ymwneud â'r gwasanaeth iechyd. Mae'r Gorchymyn hwn yn sefydlu Byrddau Iechyd Lleol fel y darperir ar gyfer hynny yn adran 16BA o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (1977 p. 49) ac Atodlen 5B iddi ac mae'n nodi'r ardaloedd y maent wedi'u sefydlu ar eu cyfer. Y bwriad yw y bydd gan Fyrddau Iechyd Lleol yr un ffiniau ag ardaloedd llywodraeth leol yng Nghymru. Mae'r Gorchymyn hefyd yn darparu ar gyfer swyddogaethau interim Byrddau Iechyd Lleol rhwng dyddiadau eu sefydlu a'u dyddiadau gweithredol ac yn nodi eu dyddiadau cyfrifyddu. Mae Awdurdod Iechyd Cymru yn cael eu diddymu drwy Orchymyn sy'n cael ei wneud yn unol ag adran 27 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998. Mewn perthynas ag aelodaeth a chyfansoddiad Byrddau Iechyd Lleol, gweler Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/149, (Cy.19)). Mewn perthynas â'r swyddogaethau a ddirprwywyd i Fyrddau Iechyd Lleol, gweler Reoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/150, (Cy.20)). Notes: [1] 1977 p.49, fel y'i diwygiwyd. Y diwygiadau perthnasol at ddiben y Gorchymyn hwn yw'r rhai a wnaed gan adran 6 o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (2002 p.17) ac Atodlenni 4 a 5 iddi.back [2] Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo of Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672), fel y caiff ei ddarllen gydag adran 40 o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002.back [3] 1972 p.70. Amnewidiwyd Rhannau I a II o Atodlen 4 gan Ddeddf Lywodraeth Leol (Cymru) 1994 (1994 p.19).back [5] Yr enw a ddefnyddir i ddisgrifio'r ardal hon yn Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yw "Caernarfonshire and Merionethshire".back [6] Yr enw a ddefnydir i ddisgrifio'r ardal hon yn Atodlen 4 i Ddeddf Llywodrateh Leol 1972 yw "Cardiganshire".back [7] Yr enw a ddefnyddir i ddisgrifio'r ardal hon yn Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yw "Aberconwy and Colwyn".back
ISBN 0 11090666 7
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 12 March 2003 |