Offerynnau Statudol 2003 Rhif 147 (Cy.17)

      Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Diwygio) (Cymru) 2003


      © Hawlfraint y Goron 2003

      Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines.

      Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Diwygio) (Cymru) 2003, ISBN 0 11090632 2. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited.

      Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 147 (Cy.17)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Diwygio) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 29 Ionawr 2003 
  Yn dod i rym yn unol â darpariaethau Rheoliad 1(1)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 18(1) a (2), 19(1), (2), (4), (5) a (6), 20(1) a (2), 105(2) a 106(1) a (2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[1] yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enw, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Rheoliadau hyn eu llofnodi.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2002[
2].

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dirymu
     2. Dirymir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Diwygio) (Cymru) 2002[3].

Diwygio'r prif Reoliadau
     3. Yn lle paragraff (1) o reoliad 12 o'r prif Reoliadau (Aelodau cyd-bwyllgorau) rhowch - 

        " (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) isod, gellir penodi aelod neu swyddog awdurdod lleol i gyd-bwyllgor yn unol â rheoliad 11 uchod gan weithrediaeth, aelod o weithrediaeth neu bwyllgor gweithrediaeth, ac, yn achos aelod, ni waeth a yw'r person hwnnw yn aelod o'r weithrediaeth honno ai peidio, ac ni fydd y gofynion am gydbwysedd gwleidyddol yn gymwys wrth benodi aelodau o'r fath.".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

29 Ionawr 2003



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Galluogodd Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2002, a wnaed o dan Ran II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, awdurdod lleol yng Nghymru a weithredai drefniadau gweithrediaeth i wneud trefniadau fel y cyflawnir ei swyddogaethau gweithrediaeth gan bwyllgorau ardal, gweithrediaeth awdurdod lleol arall neu ar y cyd ag un neu fwy o awdurdodau lleol drwy gyfrwng cyd-bwyllgor.

Darparodd Rheoliad 12(1) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2002 ("Rheoliadau 2002") mai aelodau o weithrediaethau yn unig y gellir eu penodi i gyd-bwyllgor sy'n arfer swyddogaethau gweithrediaeth.

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu a disodli Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Diwygio) (Cymru) 2002 a ddiwygiodd Reoliadau 2002. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu pwcircer penodi positif fel y gallai aelodau nad ydynt yn aelodau o'r weithrediaeth a swyddogion wasanaethu ar gyd-bwyllgorau.


Notes:

[1] 2000 p.22.back

[2] O.S. 2002/802 (Cy.87).back

[3] O.S. 2002/2941 (Cy.282).back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090632 2


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2003
Prepared 7 February 2003