Offerynnau Statudol 2003 Rhif 143 (Cy.15)

      Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2003


      © Hawlfraint y Goron 2003

      Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines.

      Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2003, ISBN 0 11090635 7. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited.

      Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 143 (Cy.15)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 28 Ionawr 2003 
  Yn dod i rym 1 Chwefror 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 29 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2003, a deuant i rym ar 1 Chwefror 2003.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y prif Reoliadau" ("the Principal Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992[
2].

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Atodlen 10 i'r prif Reoliadau
     2. Yn Atodlen 10 i'r prif Reoliadau (cyffuriau a sylweddau eraill nad ydynt i'w rhagnodi i'w cyflenwi o dan wasanaethau fferyllol) hepgorir y cofnodion canlynol - 

      " Fabrol Granules

      Fluimucil Granules

      Methylcisteine Tablets 100mg

      Mucodyne Capsules

      Mucodyne Syrup

      Mucodyne Forte Syrup

      Mucodyne Forte Tablets

      Mucodyne Paediatric Syrup

      Visclair Tablets".

Diwygio Atodlen 11 i'r prif Reoliadau
    
3. Yn Atodlen 11 i'r prif Reoliadau (cyffuriau i'w rhagnodi o dan wasanaethau fferyllol mewn amgylchiadau penodol yn unig), hepgorir - 



Llofnodwyd ar ran y Cynulliad o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

28 Ionawr 2003



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992 ("y prif Reoliadau") sy'n rheoleiddio'r telerau y mae meddygon yn darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.

Mae rheoliad 2 yn diwygio'r rhestr yn Atodlen 10 i'r prif Reoliadau, sy'n rhestru cyffuriau a sylweddau eraill na cheir eu rhagnodi i'w cyflenwi tra'n darparu gwasanaethau fferyllol o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977, drwy dynnu cynhyrchion mwcolytig geneuol penodedig.

Mae rheoliad 3 yn diwygio Atodlen 11 i'r prif Reoliadau, sy'n rhestru'r cyffuriau a'r sylweddau eraill y gellir eu rhagnodi mewn amgylchiadau penodol yn unig yng nghwrs gwasanaethau fferyllol a ddarperir o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.

Mae Rheoliad 3(a) yn tynnu cynhyrchion mwcolytig geneuol penodedig oddi ar y rhestr yn Atodlen 11 ac mae rheoliad 3(b) yn ychwanegu Tadalafil (Cialis) ati.


Notes:

[1] {d1}{t1}1977 p.49; gweler adran 128(1), fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i), a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999"), Atodlen 4, paragraff 38(2)(b), i gael y diffiniadau o "prescribed" a "regulations".{d1}{t1}Estynnwyd adran 29 gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), adran 17; a'i diwygio gan Ddeddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53), adrannau 1 a 7 ac Atodlen 2, paragraff 16(a); gan O.S.1985/39, erthygl 7(3); gan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17), Atodlen 1 paragraff 18 a chan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p. 46), Atodlen 2, paragraff 8.{d1}{t1}Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a chan Ddeddf 1999, Atodlen 4, paragraff 37(6).{d1}{t1}Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 29 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S.1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 1999, adran 66(5).back

[2] O.S..1992/635; Yr offerynnau perthnasol yw OS 1992/2412, 1993/2421, 1994/2620, 1997/981, 2000/187 (Cy.133), 2001/1788 (Cy.129), 2002/1804 (Cy.174)[ ]back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090635 7


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2003
Prepared 10 February 2003