Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Gwahardd neu Gyfyngu Mynediad) (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Gwahardd neu Gyfyngu Mynediad) (Cymru) 2003, ISBN 0110906535. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 11, 23(1) a (2), 32 a 44 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000[1] a phob p er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw:Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mynediad i Cefn Gwlad (Gwahardd neu Gyfyngu Mynediad) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Mawrth 2003. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru. Dehongli 2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn:
yl banc; ac mae hysbysiad sy'n cael ei roi ar ôl 4.30pm ar ddiwrnod gwaith i'w drin fel petai wedi'i roi ar y diwrnod gwaith nesaf;
(2) Oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn ac mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad hwnnw. Gwahardd neu gyfyngu mynediad yn ôl disgresiwn y person â hawl 3. - (1) Rhaid i berson â hawl sy'n dymuno gwahardd neu gyfyngu mynediad i ddarn o dir mynediad o dan adran 22 o'r Ddeddf (gwahardd neu gyfyngu mynediad yn ôl disgresiwn y perchennog ac eraill) gydymffurfio â gofynion y rheoliad hwn er mwyn gwneud hynny. (2) Rhaid i berson â hawl roi i'r awdurdod perthnasol hysbysiad ysgrifenedig, y mae'n rhaid iddo gynnwys:
(b) os yw'r person â hawl yn rhoi hysbysiad drwy asiant, enw, cyfeiriad a chod post yr asiant hwnnw; (c) datganiad o natur buddiant y person â hawl yn y tir; (ch) disgrifiad (boed hynny drwy gyfrwng map neu fel arall) o leoliad a hyd a lled y tir a hwnnw'n ddisgrifiad digon manwl i alluogi'r awdurdod perthnasol i adnabod y tir; (d) datganiad a yw'r person â hawl yn dymuno gwahardd mynediad neu, fel arall, ei gyfyngu ac, os yw am ei gyfyngu, manylion y cyfyngiad; ac (dd) y dyddiadau y mae'r gwaharddiad neu'r cyfyngiad i fod yn gymwys arnynt ac, os yw'r person â hawl yn dymuno i'r gwaharddiad neu'r cyfyngiad bara am lai na'r cyfan o unrhyw ddiwrnod, rhwng pa amserau y mae'r gwaharddiad neu'r cyfyngiad i fod ar waith ar y diwrnod hwnnw.
(3) Oni fydd paragraff (4) neu (6) yn gymwys, rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig er mwyn iddo ddod i law'r awdurdod perthnasol o leiaf bum diwrnod cyn unrhyw ddiwrnod y mae unrhyw waharddiad neu gyfyngiad i fod yn weithredol arNo.
(b) os oes o leiaf bum diwrnod wedi mynd heibio ers i'r hysbysiad hwnnw ddod i law'r awdurdod perthnasol.
(5) Os yw paragraff (4) yn gymwys, caiff y person â hawl wahardd neu gyfyngu mynediad yn unol â'r hysbysiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (4)(a) a'r hysbysiad pellach y cyfeiriwyd ato yn y paragraff hwn drwy roi hysbysiad i'r awdurdod perthnasol o'r wybodaeth y cyfeiriwyd ati yn is-baragraff (dd) o baragraff (2), yn ysgrifenedig neu ar lafar (gan gynnwys dros y ffôn), fel y bydd yn dod i law'r awdurdod perthnasol ar y diwrnod gwaith olaf cyn y bwriedir i'r gwaharddiad neu'r cyfyngiad fod yn gymwys neu cyn hynny.
(b) wedi penderfynu nad oedd yn rhesymol arferol i'r person â hawl gydymffurfio â gofynion paragraff (3) neu (4) o'r rheoliad hwn; ac (c) yn cyfathrebu'r penderfyniad hwnnw i'r person â hawl, neu os oedd y person â hawl wedi rhoi hysbysiad drwy asiant, i'r asiant hwnnw.
(7) Os yw paragraff (6) yn gymwys, mae'r gwaharddiad neu'r cyfyngiad i ddod yn weithredol heb fod yn gynharach na'r amser y mae'r awdurdod perthnasol yn cyfathrebu'r penderfyniad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (6)(c) i'r person â hawl neu asiant y person â hawl, yn ôl fel y digwydd.
(b) os yw'r perchennog yn rhoi hysbysiad drwy asiant, enw, cyfeiriad a chod post yr asiant hwnnw; (c) datganiad o natur buddiant y perchennog yn y tir; (ch) disgrifiad (boed hynny drwy gyfrwng map neu fel arall) o leoliad a hyd a lled y tir hwnnw a hwnnw'n ddisgrifiad digon manwl i alluogi'r awdurdod perthnasol i adnabod y tir; (d) datganiad a yw'r cyfyngiad yn cael ei osod o dan adran 23(1) o'r Ddeddf neu, fel arall, adran 23(2) o'r Ddeddf; ac (dd) y dyddiadau y mae'r gwahoddiad i fod yn gymwys arnynt ac, os yw'r perchennog yn dymuno i'r cyfyngiad bara am lai na'r cyfan o unrhyw ddiwrnod, rhwng pa amserau y bydd y cyfyngiad ar waith ar y diwrnod hwnnw.
(3) Os yw'r cyfyngiad yn cael ei osod o dan adran 23(1) o'r Ddeddf yna, oni fydd paragraff (5) yn gymwys, rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig fel y bydd yn dod i law'r awdurdod perthnasol o leiaf 28 diwrnod cyn unrhyw ddiwrnod pryd y mae cyfyngiad i fod ar waith.
(b) os yw'n dod i law'r awdurdod perthnasol ar ôl i'r cyfyngiad ddod yn weithredol, mae effaith y cyfyngiad yn dod i ben.
Ceisiadau am gyfarwyddiadau yn gwahardd neu'n cyfyngu mynediad 5. - (1) Rhaid i berson sydd â buddiant mewn unrhyw dir mynediad ac sy'n dymuno gwneud cais am gyfarwyddyd yn gwahardd neu'n cyfyngu mynediad o dan adran 24(1) o'r Ddeddf (rheoli tir) neu adran 25(3) o'r Ddeddf (osgoi risg tân neu berygl i'r cyhoedd) wneud cais ysgrifenedig i'r awdurdod perthnasol. (2) Rhaid i gais o dan baragraff (1) gynnwys:
(b) os yw'r cais yn cael ei wneud drwy asiant, enw, cyfeiriad a chod post yr asiant hwnnw; (c) datganiad o natur buddiant y ceisydd yn y tir (gan gynnwys, os yw'r buddiant hwnnw yn cynnwys hawl comin neu hawl debyg dros dir, disgrifiad o hyd a lled yr hawl honno); (ch) datganiad ynghylch a yw'r cais yn cael ei wneud o dan adran 24(1) o'r Ddeddf neu, fel arall, o dan adran 25(3) o'r Ddeddf; (d) disgrifiad (boed hynny drwy gyfrwng map neu fel arall) o leoliad a hyd a lled y tir a hwnnw'n ddisgrifiad digon manwl i alluogi'r awdurdod perthnasol i adnabod y tir; (dd) manylion am natur a diben y gwaharddiad neu'r cyfyngiad; (e) y cyfnod penodedig y mae'r ceisydd yn cynnig bod y gwaharddiad neu'r cyfyngiad i fod ar waith ynddo; ac (f) y rhesymau, os oes rhai, pam na ellir cyflawni'r dibenion y gwneir cais am y cyfarwyddyd ar eu cyfer drwy arfer hawl y ceisydd, os oes un, i wahardd neu gyfyngu mynediad i'r tir o dan adran 22 o'r Ddeddf.
(3) Rhaid i geisydd, o fewn unrhyw gyfnod rhesymol y bydd yr awdurdod perthnasol yn gofyn amdano, ddarparu unrhyw wybodaeth bellach yngl
(b) adran 25(1) o'r Ddeddf (osgoi risg tân neu berygl i'r cyhoedd); neu (c) adran 26 o'r Ddeddf (cadwraeth natur a chadw treftadaeth),
a hwnnw'n gyfarwyddyd y bydd ei effaith yn golygu gwahardd neu gyfyngu mynediad am gyfnod amhenodol neu yn ystod cyfnod sy'n hwy na chwe mis, neu a all fod yn hwy na hynny.
(ii) os yw'r cwestiwn o roi'r cyfarwyddyd yn cael ei ystyried o ganlyniad i gael cais, y cais hwnnw ac unrhyw wybodaeth bellach sy'n cael ei darparu gan y ceisydd i'w ategu; (iii) os yw'r cwestiwn o roi'r cyfarwyddyd yn cael ei ystyried o ganlyniad i gyngor a roddwyd i'r awdurdod perthnasol gan y corff ymgynghorol perthnasol, sylwedd y cyngor hwnnw; (iv) unrhyw wybodaeth arall sy'n berthnasol i'r cyfarwyddyd arfaethedig yn ei farn ef; a
(b) anfon at y ceisydd neu asiant y ceisydd yn ôl fel y digwydd, gopïau o unrhyw ddogfennau a anfonwyd i'r fforwm mynediad lleol, ac eithrio'r dogfennau hynny a gafodd yr awdurdod perthnasol oddi wrth y ceisydd neu asiant y ceisydd.
(4) Rhaid i hysbysiad sy'n cydymffurfio â gofynion y paragraff hwn:
(b) rhoi manylion am y modd y caiff aelodau o'r cyhoedd archwilio, a chymryd copi o'r dogfennau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (3)(a); (c) datgan y caiff sylwadau ysgrifenedig, y caniateir iddynt gael eu cyflwyno naill ai yn Gymraeg neu'n Saesneg, gael eu cyflwyno i'r awdurdod perthnasol erbyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad, a rhaid i'r dyddiad hwnnw beidio â bod yn gynt na dwy wythnos ar ôl y dyddiad y mae'r awdurdod perthnasol yn cydymffurfio â pharagraff (2); ac (ch) datgan y caiff copïau o unrhyw sylwadau sy'n dod i law'r awdurdod perthnasol gael eu rhoi ar gael i bartïon eraill y maent yn ymwneud â hwy.
Ymgynghori mewn perthynas â chyfarwyddiadau yn dirymu neu'n amrywio cyfarwyddiadau sy'n bodoli eisoes
(b) pan fo'r awdurdod perthnasol wedi cael ei gynghori i roi cyfarwyddyd o dan adran 26(1) o'r Ddeddf gan y corff ymgynghorol perthnasol.
(2) Os yw'r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i'r awdurdod perthnasol, yn ddarostyngedig i baragraff (5), benderfynu a ddylid rhoi cyfarwyddyd, naill ai'n unol â'r cais neu'r cyngor y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1) neu ynghyd ag unrhyw addasiadau y bydd yn penderfynu arnynt, o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (3) neu (4), yn ôl fel y digwydd.
(b) y mae'r cyfnod y byddai'n ofynnol i'r awdurdod, yn unol â pharagraff (2), benderfynu ynddo a ddylid rhoi cyfarwyddyd yn dod i ben cyn y dyddiad hwnnw,
yna nid yw'n ofynnol i'r awdurdod perthnasol benderfynu a ddylid rhoi'r cyfarwyddyd o fewn y cyfnod hwnnw os nad yw'n rhesymol ymarferol gwneud hynny, ond yn hytrach rhaid iddo wneud hynny cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r cyfnod hwnnw ddod i ben ond beth bynnag heb fod yn hwyrach na'r dyddiad y cyfeiriwyd ato yn is-baragraff (a).
(b) nodi'r ddarpariaeth yn y Ddeddf y mae wedi'i roi odani; (c) disgrifio (boed hynny drwy gyfrwng map neu fel arall) leoliad a hyd a lled y tir y mae'r gwaharddiad neu'r cyfyngiad i fod yn gymwys iddo; (ch) pennu ai effaith y cyfarwyddyd yw gwahardd mynediad i'r tir, neu fel arall, gyfyngu arno; (d) yn achos cyfarwyddyd sy'n cyfyngu mynediad ond nad yw'n ei wahardd, pennu graddau'r cyfyngiad; ac (dd) pennu'r cyfnod pryd y mae'r gwaharddiad neu'r cyfyngiad i fod yn gymwys neu, os oes rhywun ac eithrio'r person sy'n rhoi'r cyfarwyddyd i gael y p er i benderfynu'r cyfnod hwnnw yn unol ag adran 24(2)(b)(i), 25(2)(b)(i), 26(2)(c)(i) neu 28(2)(c)(i) o'r Ddeddf, yn ôl fel y digwydd, unrhyw amodau sy'n gymwys i'r p er hwnnw.
(2) Rhaid i gyfarwyddyd a roddir o dan adran 27(2) o'r Ddeddf sy'n dirymu neu'n amrywio cyfarwyddyd sy'n bodoli eisoes:
(b) nodi o dan ba ddarpariaeth yn y Ddeddf y mae wedi'i roi; (c) bod yn un y mae copi o'r cyfarwyddyd y mae'n ei ddirymu neu'n ei amrywio wedi'i atodi iddo; (ch) datgan a yw ei effaith yn dirymu'r cyfarwyddyd sy'n bodoli eisoes neu'n ei amrywio; a (d) os ei effaith yw amrywio'r cyfarwyddyd sy'n bodoli eisoes, datgan sut y mae'n cael ei amrywio.
Rhoi cyfarwyddyd
(b) os oedd y cyfarwyddyd wedi'i roi (neu os byddai wedi'i roi pe na bai'r awdurdod perthnasol wedi penderfynu peidio â rhoi cyfarwyddyd) o ganlyniad i gais, ei anfon at y ceisydd, neu asiant y ceisydd, yn ôl fel y digwydd; (c) os cafodd y cyfarwyddyd ei roi (neu os byddai wedi'i roi pe na bai'r awdurdod perthnasol wedi penderfynu peidio â rhoi cyfarwyddyd) o dan adran 26 o'r Ddeddf, ei anfon i'r corff ymgynghorol perthnasol (os nad y Cyngor yw'r awdurdod perthnasol a bod y bwriad i wneud y cyfarwyddyd yn fwriad o dan adran 26(3)(a) o'r Ddeddf); (ch) os oedd cyfarwyddyd wedi'i roi mewn modd gwahanol i gais gan berchennog y tir y mae'n ymwneud ag ef, a bod yr awdurdod perthnasol yn gwybod pwy yw'r perchennog, ei anfon at y perchennog; (d) os oedd cyfarwyddyd wedi'i roi (neu os byddai wedi'i roi pe na bai'r awdurdod perthnasol wedi penderfynu peidio â rhoi cyfarwyddyd) yn dilyn ymgynghoriad â fforwm mynediad lleol perthnasol yn unol â rheoliad 6(3), gael ei anfon at y fforwm mynediad lleol hwnnw; (dd) os yw cyfarwyddyd yn ymwneud â thir nad yw'r awdurdod perthnasol yn awdurdod mynediad ar ei gyfer hefyd, a bod y cyfarwyddyd yn cael ei roi naill ai o dan adran 24 neu 25 o'r Ddeddf, ei anfon at yr awdurdod mynediad mewn perthynas â'r tir hwnnw; (e) os oedd yn ofynnol i'r awdurdod perthnasol, cyn rhoi'r cyfarwyddyd, ymgynghori ag unrhyw berson o dan adran 27(5) neu 27(6) o'r Ddeddf, ei anfon at y person hwnnw; ac (f) os yw cyfarwyddyd yn cael ei roi gan awdurdod perthnasol heblaw'r Cyngor, gael ei anfon at y Cyngor.
(2) Os yw'n ofynnol i'r awdurdod perthnasol anfon copi o gyfarwyddyd y mae wedi'i roi, neu roi hysbysiad ei fod wedi penderfynu peidio â rhoi cyfarwyddyd, at unrhyw berson yn unol â pharagraff (1)(b), (c) neu (e), ac nad oedd y penderfyniad i roi cyfarwyddyd yn y termau y cafodd ei roi, neu i beidio â rhoi cyfarwyddyd, yn ôl fel y digwydd, yn unol â chais neu sylwadau eraill a gyflwynwyd gan y person hwnnw, rhaid i'r awdurdod perthnasol anfon, yr un pryd, at y person hwnnw ei resymau dros y penderfyniad hwnnw. Hysbysu o waharddiad neu gyfyngiad 13. - (1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys os yw'n ofynnol o dan gyfarwyddyd:
(b) i berson a bennwyd mewn cyfarwyddyd a roddwyd gan yr awdurdod perthnasol o dan adran 25(1) neu 26(1) o'r Ddeddf,
er mwyn i'r gwaharddiad neu'r cyfyngiad ddod yn weithredol, hysbysu'r awdurdod perthnasol bod y gwaharddiad neu'r cyfyngiad hwnnw wedi dechrau.
(b) os oes cyfeirnod wedi'i roi o'r blaen gan yr awdurdod perthnasol i'r person hwnnw at ddibenion hysbysu o dan y rheoliad hwn, y cyfeirnod hwnnw; ac (c) y dyddiadau ac, os bydd y gwaharddiad neu'r cyfyngiad yn para am lai na 24 awr ar ddyddiad penodol, yr amserau pan fydd y gwaharddiad neu'r cyfyngiad ar waith.
(3) Caiff person sydd wedi rhoi hysbysiad yn unol â pharagraff (2) amrywio'r hysbysiad hwnnw neu ei dynnu'n ôl drwy roi hysbysiad ysgrifenedig pellach i'r awdurdod perthnasol, ar yr amod bod hysbysiad o'r fath yn dod i law o leiaf ddau ddiwrnod gwaith cyn y diwrnod y mae'r gwaharddiad neu'r cyfyngiad y mae'n ymwneud ag ef i ddechrau. Hysbysu'r cyhoedd o waharddiad neu gyfyngiad 14. - (1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys -
(b) os oes person sy'n gyfrifol, yn unol â pharagraff (2), dros hysbysu'r cyhoedd, yn unol â pharagraff (3), o'r gwaharddiad neu'r cyfyngiad o dan sylw ac nad yw'r person hwnnw yn dymuno caniatáu i bersonau fynd ar y tir yn groes i'r gwaharddiad neu'r cyfyngiad hwnnw.
(2) Y person canlynol yw'r person sy'n gyfrifol dros hysbysu'r cyhoedd mewn perthynas â gwaharddiad neu gyfyngiad -
(b) os oedd wedi'i osod o dan adran 23(1) neu (2) o'r Ddeddf, perchennog y tir; (c) os oedd wedi'i osod o dan gyfarwyddyd a roddwyd gan yr awdurdod perthnasol o ganlyniad i gael cais o dan adran 24(1) neu 25(3) o'r Ddeddf, ac os yw i fod ar waith yn ystod cyfnod o chwe mis neu lai, y person a wnaeth y cais; (ch) os oedd wedi'i osod o dan gyfarwyddyd a roddwyd gan yr awdurdod perthnasol o ganlyniad i gael cais o dan adran 24(1) neu 25(3) o'r Ddeddf ac os yw i fod ar waith yn ystod cyfnod o fwy na chwe mis, yr awdurdod perthnasol; (d) os oedd wedi'i osod o dan gyfarwyddyd a roddwyd gan yr awdurdod perthnasol o dan adran 25 o'r Ddeddf ac eithrio o ganlyniad i gael cais, yr awdurdod perthnasol; (dd) os oedd wedi'i osod o dan gyfarwyddyd a roddwyd gan yr awdurdod perthnasol o dan adran 26 o'r Ddeddf o ganlyniad i gael cyngor gan y corff ymgynghorol perthnasol o dan adran 26(4) o'r Ddeddf (ac eithrio cyngor a roddwyd ar gais yr awdurdod perthnasol), y corff ymgynghorol perthnasol; ac (e) os oedd wedi'i osod o dan gyfarwyddyd a roddwyd gan yr awdurdod perthnasol o dan adran 26 o'r Ddeddf, ond nad yw is-baragraff (dd) yn gymwys, yr awdurdod perthnasol.
(3) Os yw'r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i'r person sy'n gyfrifol dros hysbysu'r cyhoedd o'r gwaharddiad neu'r cyfyngiad roi i unrhyw berson sydd ar y tir neu ar fin mynd ar y tir y mae'r gwaharddiad neu'r cyfyngiad yn gymwys iddo er mwyn arfer yr hawl mynediad o dan y Ddeddf, unrhyw wybodaeth a fydd yn hysbysu'r person hwnnw o fodolaeth, natur a hyd y gwaharddiad neu'r cyfyngiad hwnnw, a hyd a lled y tir y mae'n gymwys iddo. Cymhwyso'r Rheoliadau hyn i gyfarwyddiadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol 15. - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae rheoliadau 6, 8 a 10 i 13 yn gymwys i gyfarwyddyd a roddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol, neu y mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn ystyried ei roi, o dan adran 28(1) o'r Ddeddf. (2) Mae'r rheoliadau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) yn gymwys i gyfarwyddyd a roddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol, neu y mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn ystyried ei roi, fel petai'r cyfeiriadau yn y rheoliadau hynny:
(b) at adran 24(1), 25(1) neu 26(1) o'r Ddeddf yn gyfeiriadau, ym mhob achos, at adran 28(1) o'r Ddeddf; ac (c) at berson a bennwyd o dan gyfarwyddyd a roddwyd gan awdurdod perthnasol yn berson sy'n gallu hysbysu'r awdurdod perthnasol o gyfnod pan fydd mynediad i'r tir i'w wahardd neu i'w gyfyngu yn gyfeiriadau at berson a awdurdodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol i roi hysbysiad o'r fath.
(3) Nid yw'r darpariaethau mewn unrhyw un o'r rheoliadau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) yn gymwys mewn perthynas â chyfarwyddyd penodol a roddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol, neu y mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn ystyried ei roi, os yw'r Ysgrifennydd Gwladol o'r farn ei fod yn anymarferol neu'n amhriodol iddynt wneud hynny, naill ai yn eu cyfanrwydd neu yn rhannol. Apêl yn erbyn penderfyniad gan awdurdod perthnasol 16. - (1) At ddibenion y Rheoliadau hyn ystyr "apêl" yw:
(b) unrhyw gyfeiriad o dan adran 29(2) o'r Ddeddf (cyfeiriad gan y corff ymgynghorol perthnasol os yw'r awdurdod perthnasol yn penderfynu peidio â gweithredu yn unol â chyngor a roddwyd gan y corff hwnnw).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), dim ond drwy anfon neu fynd â ffurflen apêl wedi'i chwblhau i'r Cynulliad Cenedlaethol fel ei bod yn dod i law cyn diwedd y cyfnod apelio y caiff apêl gael ei dwyn.
(b) digon o fanylion am y tir y mae'r apêl yn ymwneud ag ef er mwyn ei gwneud yn bosibl i adnabod y tir hwnnw ar fap sydd i'w ddarparu gan yr apelydd; (c) unrhyw fanylion a fydd yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i ddeall ar ba sail y mae'r apêl wedi'i dwyn; (ch) natur buddiant yr apelydd yn y tir sy'n destun yr apêl; a (d) a yw'r apelydd yn dymuno cael ei wrando gan berson a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad â'r apêl (yn hytrach na bod yr apêl yn cael ei phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig) ac, os felly, a yw'r apelydd yn dymuno cael ei wrando mewn ymchwiliad lleol neu, fel arall, mewn gwrandawiad.
(6) Caiff ffurflen apêl fod naill ai yn Gymraeg neu Saesneg ond, os yw'r apelydd yn dymuno bod yr apêl yn cael ei thrin yn gyfan gwbl neu'n rhannol drwy gyfrwng yr iaith heblaw'r un y mae'r ffurflen apêl wedi'i mynegi ynddi, dylai'r ffurflen apêl ymgorffori cais i'r perwyl hwnnw neu rhaid i gais felly fynd gyda hi. Defnyddio cyfathrebiad electronig 19. Caiff unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol ei hanfon neu yr awdurdodwyd ei hanfon gan un person i berson arall o dan ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn, ei hanfon drwy'r post neu drwy gyfrwng gyfathrebiad electronig a dylid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at ysgrifen, sut bynnag y mae wedi'i fynegi, fel cyfeiriad sy'n cynnwys cyfeiriad at ffurf y mae modd ei storio, ei throsglwyddo i gyfrifiadur ac ohono, a'i darllen drwy gyfrwng cyfrifiadur. Disgrifiad o dir 20. Pan fydd y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi hysbysiad i awdurdod perthnasol sy'n cynnwys disgrifiad o unrhyw dir, a bod yr awdurdod perthnasol hwnnw wedi neilltuo o'r blaen i'r darn o dir hwnnw gyfeirnod i'r perwyl hwnnw, dylid ystyried bod dynodi'r tir hwnnw drwy gyfeirio at y rhif hwnnw yn ddigon i gydymffurfio â'r gofyniad hwnnw. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]. D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 28 Ionawr 2003 Unrhyw awdurdod mynediad mewn perthynas â thir y mae'r cyfarwyddyd arfaethedig yn ymwneud ag ef. Y Gymdeithas Brydeinig ar gyfer Saethu a Chadwraeth Cyngor Mynydda Prydain Cymdeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad Yr Asiantaeth Cefn Gwlad (os oes gan y tir o dan sylw ffin â Lloegr) Undeb Amaethwyr Cymru Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr (Cymru) Cymdeithas y Mannau Agored Cymdeithas y Crwydwyr 1. Yn rheoliad 2(1), ychwanegwch at y diffiniad o "apêl", ar ôl y gair "Ddeddf":
2.
Dilëwch Rheoliad 4, a rhowch yn ei le:
(b) datganiad a ydyw'n dymuno cael gwrandawiad gan berson a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad â'r apêl (yn hytrach na bod yr apêl yn cael ei phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig) ac, os felly, a yw'n dymuno cael gwrandawiad mewn ymchwiliad lleol neu, fel arall, mewn gwrandawiad; (c) copïau o unrhyw ohebiaeth berthnasol rhwng yr apelydd a'r atebydd; (ch) copïau o unrhyw sylwadau a wnaed i'r atebydd gan unrhyw berson heblaw'r apelydd mewn perthynas â'r penderfyniad ar ran yr atebydd y mae'r apêl yn perthyn iddo; a (d) unrhyw wybodeth bellach y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn am ei darparu.
(2) Yn achos apêl o dan adran 6 o'r Ddeddf:
(b) ni fydd rhaid i'r atebydd anfon y datganiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) ac (1)(b) o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (1) ond rhaid iddo wneud hynny cyn i'r cyfnod a bennir yn rheoliad 5(2)(a) neu 5(2)(b) (pa un bynnag sydd hwyraf) ddirwyn i ben ac mae'n rhaid iddo, yr un pryd, anfon at y Cynulliad Cenedlaethol unrhyw wybodaeth pellach y mae'r Cynulliad Cenedlaethol, erbyn hynny, wedi gofyn i'r atebydd ddarparu; ac (c) os na fydd, o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (1), yn anfon at y Cynulliad Cenedlaethol y datganiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) ac (1)(b), rhaid i'r atebydd, yn lle hynny, anfon at y Cynulliad Cenedlaethol, o fewn y cyfnod hwnnw, datganiad sy'n cynnwys rhywbeth i ddangos a fydd yn gwrthwynebu'r apêl ac, os felly, y seiliau tebygol dros wneud hynny."
3.
Dilëwch reoliad 5(2)(a) a rhowch yn ei le:
4.
Yn rheoliad 6(1) -
(b) ychwanegwch, ar ôl is-baragraff (c):
(ii) y fforwm mynediad lleol perthnasol; (iii) unrhyw berson sydd wedi cyflwyno sylwadau i'r awdurdod perthnasol mewn perthynas â'r cyfarwyddyd y mae'r apêl yn ymwneud ag ef yn unol â darpariaethau Rheoliadau mynediad i Gefn Gwlad (Gwahardd neu Gyfyngu Mynediad) (Cymru) 2003; a (iv) unrhyw berson arall y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn barnu ei bod yn briodol rhoi hysbysiad iddo."
5.
Yn ngeiriau agoriadol rheoliad 6(2), ychwanegwch, ar ôl "o dan baragraff (1)(c)":
6.
Yn lle rheoliad 6(2)(c), rhowch:
7.
Yn rheoliad 6(4), yn lle "yn unol â pharagraff (1)(a), (b) neu (c)", rhowch:
8.
Yn rheoliad 12(1)(c), ychwanegwch, ar ôl "berson â diddordeb":
9.
Ychwanegwch, ar ddechrau rheoliad 12(1)(ch):
10.
Ychwanegwch, ar ddechrau rheoliad 22(6)(a):
11.
Yn lle rheoliad 22(6)(b), rhowch:
12.
Yn lle pennawd rheoliad 36 (ac ar gyfer y cofnod cyfatebol yn Nhrefn y Rheoliadau) rhowch:
13.
Rhowch yn lle rheoliad 36:
(b) mewn perthynas ag apêl o dan adran 30(3) o'r Ddeddf neu gyfeiriad o dan adran 29(2) o'r Ddeddf a pharhau i wneud hynny am o leiaf chwe mis o ddyddiad y penderfyniad."
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) O dan Bennod II o Ran I o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (adrannau 21 i 33 o'r Ddeddf), caniateir i'r hawl mynediad a roddwyd gan adran 2(1) o'r Ddeddf i unrhyw dir ("tir mynediad") gael ei gwahardd neu ei chyfyngu. O dan adrannau 23 a 32 o'r Ddeddf, mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") b er i wneud rheoliadau i ddarparu ar gyfer y camau sydd i'w cymryd i roi'r gwaharddiadau neu'r cyfyngiadau hynny ar waith.Mae adrannau 29 a 30 o'r Ddeddf yn darparu i apêl gael ei dwyn yn erbyn penderfyniadau penodol sy'n ymwneud â gwahardd neu gyfyngu mynediad. O dan adrannau 11 a 32 o'r Ddeddf, mae gan y Cynulliad Cenedlaethol b er i wneud rheoliadau sy'n darparu ar gyfer y gweithdrefnau sydd i fod yn gymwys i apelau o'r fath.Mae Rheoliad 3 yn nodi'r camau y mae'n rhaid i "berson â hawl" (perchennog y tir) eu cymryd i wahardd neu gyfyngu mynediad yn unol ag adran 22 o'r Ddeddf. Rhaid i'r person perthnasol hysbysu'r "awdurdod perthnasol" (Cyngor Cefn Gwlad Cymru neu, os yw'r tir mewn Parc Cenedlaethol, yr awdurdod Parc Cenedlaethol). Caiff y person perthnasol wahardd neu gyfyngu mynediad yn unol ag adran 22 o'r Ddeddf am uchafswm o 28 diwrnod mewn unrhyw flwyddyn galendr. Mae Rheoliad 4 yn nodi'r camau y mae'n rhaid i berchennog tir (a ddiffinnir yn adrannau 21 a 45 o'r Ddeddf) eu cymryd er mwyn cyfyngu ar fynediad i'r tir hwnnw â chwn o dan adran 23 o'r Ddeddf. Caniateir cyfyngu ar fynediad i dir â chwn os yw hynny'n angenrheidiol mewn cysylltiad ag wyna neu mewn cysylltiad â rheoli rhostiroedd grugieir. Mae rheoliadau 5 i 12 yn nodi'r gweithdrefnau y mae'n rhaid eu dilyn mewn perthynas â chyfarwyddiadau gan awdurdodau perthnasol yn gwahardd neu'n cyfyngu mynediad o dan adrannau 24, 25 a 26 o'r Ddeddf, at ddibenion rheoli tir, er mwyn osgoi risg tân neu berygl i'r cyhoedd ac at ddibenion cadwraeth natur neu gadw treftadaeth, yn ôl eu trefn. Mae rheoliad 13 yn nodi gofynion yngl n â hysbysiadau o dan gyfarwyddiadau nad ydynt eu hunain yn pennu'r cyfnodau pan yw'r gwaharddiad neu'r cyfyngiad i fod yn gymwys, ond yn lle hynny yn rhoi p er i berson a bennwyd yn y cyfarwyddyd osod y cyfnod hwnnw drwy hysbysu'r awdurdod perthnasol.Mae rheoliad 14 yn nodi'r rhwymedigaethau y mae personau ac awdurdodau perthnasol odanynt i hysbysu'r cyhoedd o fodolaeth gwaharddiadau a chyfyngiadau. Mae rheoliad 15 yn cymhwyso gofynion penodol ynghylch ffurf cyfarwyddiadau, ymgynghori a chyhoeddusrwydd i gyfarwyddiadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwahardd neu'n cyfyngu mynediad at ddibenion amddiffyn neu ddiogelwch cenedlaethol, yn amodol ar ddisgresiwn yr Ysgrifennydd Gwladol i ddatgymhwyso'r gofynion hynny mewn achosion penodol os yw'n amhriodol neu'n anarferol eu cymhwyso. Mae rheoliadau 16 i 18 yn darparu ar gyfer apelau i'r Cynulliad Cenedlaethol, gan gynnwys addasu Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Gweithdrefnau Apelau) (Cymru) 2002 ((O.S. 2002/1794) (Cy. 169)) i fod yn gymwys i apelau o'r fath. Mae rheoliad 19 yn galluogi cyfathrebiadau electronig i gael eu defnyddio at ddibenion cydymffurfio â'r gofynion sydd wedi'u cynnwys yn y Rheoliadau hyn. Mae rheoliad 20 yn ei gwneud yn bosibl i dir gael ei ddynodi, wrth roi hysbysiad i'r awdurdod perthnasol o dan y Rheoliadau, â chyfeirnodau a ddyrannwyd gan yr awdurdodau perthnasol at y diben hwnnw. Notes: [1] 2000 p.37. Mae'r pwerau o dan adrannau 11 and 32 yn bwerau i wneud darpariaeth trwy reoliadau. Mae adran 23(1) a (2) yn darpau ar gyfer camau sydd i'w rhagnodi ("prescribed"). Ystyr "prescribed" yw wedi ei ragnodi gan reoliadau ac ystyr "rheoliadau" ("regulations") yw rheoliadau a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (gweler adran 45(1)).back [3] O.S. 2002/1794 (Cy.169).back
ISBN 0 11090653 5
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 5 March 2003 |