Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Diwygio) (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines. Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Diwygio) (Cymru) 2003, ISBN 0 11090631 4. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited. Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 218(1)(a), (2), 232(5) a (6) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988[1], ac adran 10(1) a (2) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[2] sydd bellach wedi eu breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[3], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enw, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Mawrth 2003. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru. Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999 2. Mae Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999[4]) yn cael eu diwygio fel a ganlyn: -
(iii) mewnosodwch ar ôl paragraff 1(2) -
Diwygio Rheoliadau Cymhellion Hyfforddi Athrawon (Cymru) 2000
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999 er mwyn galluogi Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru i benderfynu a yw categorïau penodol o bersonau yn athrawon cymwysedig. Mae'r rhain yn cynnwys person sydd wedi cwblhau cwrs hyfforddiant cychwynnol i athrawon yng Nghymru, yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon; person sydd yn cael ei adnabod fel athro neu athrawes yng Ngogledd Iwerddon; person sydd wedi ei gofrestru gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban; athro neu athrawes ysgol o Ardal Economaidd Ewrop; a pherson sydd wedi ei argymell ar gyfer statws athro neu athrawes gymwysedig gan Gyngor Addysg Taleithiau Guernsey. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiad canlyniadol i'r diffiniad o "athro neu athrawes gymwysedig" yn Rheoliadau Cymhellion Hyfforddi Athrawon (Cymru) 2000. Notes: [1] 1988 p.40. Diwygiwyd adran 232(6) gan adran 14 o Ddeddf Addysg 1994 a pharagraff 6 o Atodlen 3 ac Atodlen 4 i Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30).back [3] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau)1999 (O.S. 1999/672).back [4] O.S 1999/2817 (Cy.18) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/2938(Cy.279).back [5] O.S. 2000/ 2560 (Cy. 169).back
ISBN 0 11090631 4
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 7 February 2003 |