Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) a (Ffioedd Deintyddol) (Diwygio) (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines. Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) a (Ffioedd Deintyddol) (Diwygio) (Cymru) 2003, ISBN 0 11090634 9. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited. Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 15(1), 35(1), 36(1), 79(1), 79A a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) a (Ffioedd Deintyddol) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2003. (2) Yn y Rheoliadau hyn -
(3) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
(c) yn lle'r geiriau "paragraph (1) or (2)" ym mhob man y'u ceir ym mharagraffau (3) a (4) rhowch y geiriau "paragraph (1)".
Diwygio Atodlen 1 i Reoliadau 1992
(1) Whether or not a patient has entered into a continuing care arrangement or capitation arrangement with another dentist, a dentist who is not acting on behalf of that dentist may provide any of the items listed in sub-paragraph (2) as occasional treatment. (2) For the purposes of sub-paragraph (1) the listed items are -
(b) the issuing of a prescription, (c) a radiographic examination and radiological report, (d) the dressing of deciduous or permanent teeth and other palliative treatment, (e) the repair and fixing of inlays, crowns and bridges, (f) the extraction of deciduous or permanent teeth, (g) the provision of post-operative care, (h) the provision of sedation, (i) the provision, replacement, repair or alteration of dentures or other dental appliances, (j) urgent treatment for acute conditions of the gingivae or oral mucosa, including treatment for pericoronitits or for ulcers and herpetic lesions, and any necessary oral hygiene instruction in connection with such treatment, (k) any treatment immediately necessary as a result of trauma, (l) domiciliary visits and recalled attendance, (m) conservative treatment of permanent or retained deciduous teeth, by way of fillings or root fillings, and (n) in respect of patients under 18, conservative treatment of deciduous teeth.
(3) Where the dentist, due to any cause beyond his control, is unable to complete a course of occasional treatment which he has commenced, the dentist shall forthwith notify the Board in writing of the extent of the occasional treatment he has provided and the reason why he is unable to complete the remainder of the treatment.
(ii) another dentist has provided occasional treatment otherwise than of a temporary nature,
on the tooth in respect of which the filling was provided;
(ii) that, in the dentist's opinion, a different form of filling was more appropriate but, notwithstanding that advice, the patient insisted on the filling which was provided;
(c) in the opinion of the dentist, the condition of the tooth in respect of which the filling was provided is such that the filling cannot satisfactorily be repaired or replaced and different treatment is now required; or
(6) The obligation to repair or replace any filling under sub-paragraph 2(m) shall cease 12 months after the date on which the filling was provided.".
Diwygio rheoliad 3 o Reoliadau 1989
(b) yn lle paragraff 2 (f) rhowch -
(ii) has attained the age of 60 years." .
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 1992 (OS 1992/661) ("Rheoliadau 1992") a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) 1989 (OS 1989/394) ("Rheoliadau 1989"). Mae Rheoliadau 1992 yn rheoleiddio'r telerau y darperir gwasanaethau deintyddol cyffredinol odanynt yn ôl Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977. Mae Rheoliadau 1989 yn cynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â'r ffioedd a godir am wasanaethau deintyddol cyffredinol. Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 9 o Reoliadau 1992 sy'n pennu'r oedran pan fydd yn rhaid i Awdurdod Iechyd dynnu deintydd oddi ar ei restr ddeintyddol ar y sail bod y deintydd wedi cyrraedd ei 65 oed. Mae'r diwygiad yn codi'r oedran a bennir i 70 oed. Mae rheoliad 3 yn diwygio Atodlen 2 i Reoliadau 1992, sy'n pennu'r telerau gwasanaeth sy'n gymwys i ddeintyddion drwy roi paragraff 17 newydd yn yr Atodlen honno. Mae'r paragraff newydd yn galluogi ystod ehangach o driniaethau achlysurol i'w darparu o dan y gwasanaethau deintyddol cyffredinol drwy gael gwared â'r gwahaniaeth rhwng y driniaeth sydd ar gael i gleifion sydd heb gofrestri a'r hyn sydd ar gael i'r cleifion achlysuron hynny sydd wedi cofrestri â deintydd mewn man arall. Mae hefyd yn darparu, os bydd deintydd yn llenwi dant neu wreiddyn dant o dan driniaeth achlysurol, fod y deintydd, gyda rhai eithriadau, o dan ddyletswydd i drwsio neu ail-wneud gwaith llenwi o'r fath ar gyfer y claf heb ffi hyd at 12 mis ar ôl ei ddarparu. Mae rheoliad 4 yn diwygio Rheoliadau 1989 ymhellach i ddarparu nad yw ffi yn cael ei godi ar glaf os yw'r deintydd yn trwsio neu ail-wneud gwaith llenwi yn unol â pharagraff 17(4) o Atodlen 1 i Reoliadau 1992 (trwsio neu ail-wneud gwaith llenwi a wnaed gan ddeintydd fel triniaeth achlysurol). Mae hefyd yn estyn rheoliad 3(2)(f) i ddarparu bod pobl sydd yn iau na 25 oed a'r rhai sydd wedi cyrraedd eu 60 oed yn cael, cyhyd ag y gwneir datganiad o hawl yn y modd a ragnodir, asesiad i'w wneud yn unol â pharagraff 17(2)(a) o Atodlen 1, yn rhad ac am ddim. Notes: [1] 1977 p.49 ("Deddf 1977"); gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i) am ddiffiniadau "prescribed" a "regulations". Diwygiwyd adran 15(1) gan Ddeddf 1990 Act, adran 12(1)(b) a chan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) ("Deddf 1995"), adran 2(1) ac Atodlen 1, paragraff 6. Cafodd adran 35(1) ei hamnewid gan OS 1985/39, erthygl 7(9), a'i diwygio gan Ddeddf 1995, adran 2(1) ac Atodlen 1, paragraff 24. Cafodd adran 36(1) ei Rhif o felly gan Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.48), adran 5(4) ac Atodlen 3, paragraff 5 a'i diwygio gan O.S. 1981/432, erthygl 3(3)(a); gan O.S. 1984/39, erthygl 7(10); gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau (p.49) ("Deddf 1988"), adran 25 ac Atodlen 2, paragraff 4; gan Ddeddf 1990, adran 24 a chan Ddeddf 1995, adran 2 ac Atodlen 1, paragraff 25(a). Mewnosodwyd adrannau 79(1) a 79A gan Ddeddf 1988, adran 11(3). Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.9) ("Deddf 1999"), adran 65(1) ac Atodlen 4, paragraff 37. Trosglwyddir swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 15(1), 35(1), 36(1), 79(1), 79A a 126(4) o Ddeddf 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672, erthygl 2, fel y'i diwygiwyd gan adran 66(5) o Ddeddf 1999.back [2] O.S. 1992/661; OS 1992/1509 a 2001/2706 a 4000 yw'r offerynnau diwygio perthnasol.back [3] O.S. 1989/394; OS 1998/2221 a 2001/1359 yw'r offerynnau diwygio perthnasol.back
ISBN 0 11090634 9
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 10 February 2003 |