Gorchymyn Tai (Hawl i Gaffael a Hawl i Brynu) (Ardaloedd Gwledig Dynodedig a Rhanbarthau Dynodedig) (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines. Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Gorchymyn Tai (Hawl i Gaffael a Hawl i Brynu) (Ardaloedd Gwledig Dynodedig a Rhanbarthau Dynodedig) (Cymru) 2003, ISBN 0 11090624 1. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited. Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 157 o Ddeddf Tai 1985[1] ac adran 17 o Ddeddf Tai 1996[2], ac ar ôl ymgynghori, yn unol ag is-adran (6) o adran 17 o Ddeddf Tai 1996, â'r awdurdodau lleol a'r cyrff a grybwyllir yn yr is-adran honno, yn gwneud y Gorchymyn canlynol: - Enwi a chychwyn 1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tai (Hawl i Gaffael a Hawl i Brynu) (Ardaloedd Gwledig Dynodedig a Rhanbarthau Dynodedig) (Cymru) 2002 a daw i rym ar 7 Chwefror 2003. Dynodi ardaloedd gwledig 2. Mae'r cymunedau a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn cael eu dynodi'n ardaloedd gwledig at ddibenion adran 157(1)(c) o Ddeddf Tai 1985 (cyfyngu ar waredu tai annedd mewn Parciau Cenedlaethol, a.y.y.b.) ac adran 17(1)(b) o Ddeddf Tai 1996 (hawl tenant i gaffael annedd). Rhanbarthau dynodedig 3. Mewn perthynas â th annedd yng Nghymru ac eithrio'r un y mae Erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo, ac sydd wedi'i leoli mewn Parc Cenedlaethol neu ardal sydd wedi'i dynodi o dan adran 82 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000[3], neu adran 87 o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949[4]) neu ardal sydd wedi'i dynodi gan Erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn ardal wledig, bydd y rhanbarth dynodedig at ddibenion adran 157(3) o Ddeddf Tai 1985 yn cynnwys y canlynol:
(b) y rhan o'r sir neu'r fwrdeistref sirol y mae'r t annedd wedi'i leoli ynddi ond nad yw o fewn y Parc Cenedlaethol hwnnw, yr ardal honno o harddwch naturiol eithriadol neu'r ardal wledig ddynodedig honNo.
Ardal Dyffryn Gwy
(b) y rhan o'r sir y mae'r t annedd wedi'i leoli ynddi ond nad yw o fewn yr ardal a ddynodir gan y gorchymyn hwnnw.
Dirymu a diwygio Yn Sir Abertawe Llangyfelach, Mawr; a'r rhan honno o'r gymuned ganlynol nad yw wedi'i lleoli o fewn Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol G yr: Llanrhidian Uchaf.Ym Mwrdeistref Sirol Bro Morgannwg Ewenni, Gwenfô, Llanbedr-y-fro, Llancarfan, Lland , Llanddunwyd, Llan-fair, Llanfihangel-ynys-Afan, Llan-gan, Llan-maes, Pendeulwyn, Pen-llin, Sain Dunwyd, Sain Nicolas a Thresimwn, Sain Siorys, Saint-y-brid, Tregolwyn, Y Wig.Yn Sir Caerdydd Sain Ffagan. Yn Sir Gaerfyrddin Abergwili, Aber-nant, Bronwydd, Castellnewydd Emlyn, Cefn Sidan, Cenarth, Cil-y-cwm, Cilymaenllwyd, Clunderwen, Cydweli, Cynwyl Elfed, Cynwyl Gaeo, Eglwys Gymyn, Gors-las, Hendy-gwyn ar Dâf, Henllan Fallteg, Llanarthne, Llanboidy, Llanddarog, Llanddowror, Llandeilo, Llandyfaelog, Llanegwad, Llanfihangel-ar-arth, Llanfair-ar-y-bryn, Llanfihangel Aberbythych, Llanfihangel Rhos-y-corn, Llanfynydd, Llan-gain, Llangathen, Llangeler, Llangynnwr, Llangyndeyrn, Llangynin, Llangynog, Llanismel, Llanllawddog, Llanllwni, Llannewydd a Merthyr, Llan-non, Llanpumsaint, Llansadwrn, Llansawel, Llansteffan, Llanwinio, Llanwrda, Llanybydder, Llan-y-crwys, Manordeilo a Salem, Meidrim, Pencarreg, Pentywyn, Pontyberem, Sanclêr, Talyllychau, Treflan Lacharn, Tre-lech, Trimsaran, a'r rhannau hynny o'r cymunedau canlynol nad ydynt wedi'u lleoli o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: Dyffryn Cennen, Llangadog, Llanymddyfri, Myddfai. Ym Mwrdeistref Sirol Caerffili Argoed, Cwm Darren, Rhydri. Ym Mwrdeistref Sirol Casnewydd Allteuryn, Coedcernyw, Langstone, Llanfaches, Llanfihangel-y-fedw, Llan-wern, Nash, Pen-h , Redwick, Gwynllwg.Yn Sir Ceredigion Aberaeron, Aber-porth, Beulah, Blaenrheidol, Ceinewydd, Ceulan a Maes-mawr, Ciliau Aeron, Dyffryn Arth, Genau'r-glyn, Henfynyw, Llanbadarn Fawr, Llannarth, Llandyfrïog, Llandysiliogogo, Llandysul, Llanddewibrefi, Llanfair Clydogau, Llanfarian, Llanfihangel Ystrad, Llangeitho, Llangoedmor, Llangrannog, Llangwyryfon, Llangybi, Llangynfelyn, Llanilar, Llanllwchaearn, Llanrhystud, Llansanffraid, Llanwnnen, Lledrod, Melindwr, Nantcwnlle, Penbryn, Pontarfynach, Tirymynach, Trawsgoed, Trefeurig, Tregaron, Troed-yr-aur, Y Borth, Y Ferwig, Ysbyty Ystwyth, Ysgubor-y-coed, Ystrad Fflur, Ystradmeurig. Ym Mwrdeistref Sirol Conwy Betws-yn-Rhos, Cerrigydrudion, Eglwys-bach, Llanddoged a Maenan, Llanefydd, Llanfair Talhaearn, Llanfihangel Glyn Myfyr, Llangernyw, Llangwm, Llansanffraid Glan Conwy, Llansannan, Pentrefoelas a'r rhannau hynny o'r cymunedau canlynol nad ydynt wedi'u lleoli o fewn Parc Cenedlaethol Eryri: Bro Garmon, Caerhun, Dolgarrog, Henryd, Llanfairfechan, Llanrwst, Trefriw. Yn Sir Ddinbych Betws Gwerful Goch, Bodelwyddan, Cefn Meiriadog, Clocaenog, Corwen, Cyffylliog, Cynwyd, Derwen, Efenechtyd, Gwyddelwern, Henllan, Llandrillo, Llanelidan, Llangollen, Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch, Llandysilio, Llanynys, Nantglyn, Trefnant, Waun a'r rhannau hynny o'r cymunedau canlynol nad ydynt wedi'u lleoli o fewn Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd: Aberchwiler, Bodfari, Bryneglwys, Diserth, Llanarmon-yn-Iâl, Llanbedr Dyffryn Clwyd, Llandegla, Llandyrnog, Llanfair Dyffryn Clwyd, Llangynhafal, Tremeirchion, Y Cwm. Yn Sir Gwynedd Criccieth, Llanrug, Llanwnda, Llanystumdwy, Pentir, Y Bontnewydd, Y Felinheli; y rhannau hynny o'r cymunedau canlynol nad ydynt wedi'u lleoli o fewn Parc Cenedlaethol Eryri: Aber, Arthog, Abermo, Betws Garmon, Clynnog, Corris, Dolbenmaen, Ffestiniog, Llanberis, Llandwrog, Llandygái, Llanddeiniolen, Llandderfel, Llanfrothen, Llangywer, Llanllechid, Llanllyfni, Penrhyndeudraeth, Tywyn, Waunfawr; a'r rhannau hynny o'r cymunedau canlynol nad ydynt wedi'u lleoli o fewn Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Ll n: Aberdaron, Botwnnog, Buan, Clynnog, Llanaelhaearn, Llanbedrog, Llanengan, Llannor, Nefyn, Pistyll, Tudweiliog.Ym Mwrdeistref Sirol Merthyr Tydfil Y rhan honno o'r gymuned ganlynol nad yw wedi'i lleoli o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: Y Faenor. Yn Sir Fynwy Brynbuga, Caer-went, Gwehelog Fawr, Llan-arth, Llanbadog, Llandeilo Gresynni, Llangatwg Feibion Afel, Llan-gwm, Llangybi, Llanhenwg, Llantrisaint Fawr, Porth Sgiwed, Rogiet; a'r rhannau hynny o'r cymunedau canlynol nad ydynt wedi'u lleoli o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: Crucornau Fawr, Goetre Fawr, Llan-ffwyst Fawr, Llanofer Fawr, Y Grysmwnt; a'r rhannau hynny o'r cymunedau canlynol nad ydynt wedi'u lleoli o fewn Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy: Devauden, Drenewydd Gelli-fach, Matharn, Llanfihangel Troddi, Rhaglan, Tryleg Unedig. Yn Sir Benfro Arberth, Boncath, Camros, Cas-blaidd, Cas-wis, Cilgerran, Cilgeti/Begeli, Clydau, Gorllewin Llandysilio, Johnston, Llanbedr Felffre, Llanddewi Felffre, Llanstadwel, Manordeifi, Rudbaxton, Rhosfarced, Scleddau, Spital, St. Florence, Tiers Cross, Treamlod, Tredeml, Trecwn, Treletert, Y Mot; a'r rhannau hynny o'r cymunedau canlynol nad ydynt wedi'u lleoli o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro: Amroth, Breudeth, Burton, Cariw, Castell Gwalchmai, Castellmartin, Cosheston, Crymych, Cwm Gwaun, Eglwyswrw, Freystrop, Cas-lai, Cas-mael, Herbrandston, Hundleton, Jeffreyston, Llandudoch, Llandyfái, Llangwm a Hook, Llanhuadain, Llanrhian, Maenclochog, Martletwy, Mathri, Mynachlog-ddu, Nyfer, Nolton a'r Garn, Penalun, Pen-caer, Slebech, Solfach, St. Mary Out Liberty, The Havens, Uzmaston a Boulston, Ystangbwll. Ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr Llangrallo Uchaf, Llangynwyd Isaf, Merthyr Mawr. Yn Sir Powys Abaty Cwm-hir, Aberedw, Aberhafesb, Aberriw, Banwy, Bausley a Chrugion, Betws, Bronllys, Bugeildy, Cadfarch, Caersws, Carno, Carreghwfa, Castell Caereinion, Cegidfa, Ceri, Cilmeri, Cleirwy, Diserth a Thre-coed, Duhonw, Dwyriw, Erwd, Felin-fach, Ffordun, Glantwymyn, Glasgwm, Hwytyn, Llanafan Fawr, Llanandras, Llanbadarn Fawr, Llanbadarn Fynydd, Llanbedr Castell-paen, Llanbister, Llanbryn-mair, Llandinam, Llandrinio, Llandysilio, Llandysul, Llanddewi Ystradenni, Llanelwedd, Llanerfyl, Llanfair Caereinion, Llanfair Llythynwg, Llanfair-ym-Muallt, Llanfechain, Llanfihangel, Llanfihangel Rhydieithon, Llanfyllin, Llangamarch, Llangedwyn, Llangunllo, Llangurig, Llangynog, Llangynyw, Llanidloes, Llanidloes y Tu Allan, Llanllyr, Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Llanrhaeadr-ym-Mochnant (gynt yn Sir Clwyd), Llansanffraid, Llansilin, Llanwddyn, Llanwrthwl, Llanwrtyd, Machynlleth, Maesyfed, Manafon, Meifod, Merthyr Cynog, Mochdre, Nantmel, Pencraig, Pen-y-bont, Pen-y-bont-fawr, Rhaeadr, Saint Harmon, Trefaldwyn, Trefeglwys, Treflys, Trefyclo, Tregynon, Tre-wern, Y Clas-ar-Wy, Yr Ystog, Yr Ystog (Ar Wahân), Y Trallwng; a'r rhannau hynny o'r cymunedau canlynol nad ydynt wedi'u lleoli o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: Gwernyfed, Honddu Isaf, Llan-ddew, Llanfrynach, Llan-gors, Llaneigon, Llywel, Maes-car, Talgarth, Tawe Uchaf, Trallong, Yscir, Ystradgynlais. Ym Mwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Llwytgoed, Y Rhigos; a'r rhan honno o'r gymuned ganlynol nad yw wedi'i lleoli o fewn Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol G yr: Hirwaun.Ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam Abenbury, Bangor Is-coed, Bronington, Ceiriog Uchaf, De Maelor, Erbistog, Glyntraean, Hanmer, Holt, Is-y-coed, Llangollen Wledig, Llansantffraid Glynceiriog, Marchwiail, Mwynglawdd, Owrtun, Saltney, Sesswick, Willington,Worthenbury, Yr Orsedd. Yn Sir y Fflint Brynffordd, Chwitfordd, Helygain, Llanfynydd, Mostyn, Sealand, a'r rhannau hynny o'r cymunedau canlynol nad ydynt wedi'u lleoli o fewn Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd: Caerwys, Cilcain, Llanasa, Nannerch, Nercwys, Trelawnyd a Gwaunysgor, Treuddyn, Ysgeifiog. Yn Sir Ynys Môn Bodedern, Bodffordd, Bryngwran, Llanfihangel Ysgeifiog, Llangristiolus, Llannerch-y-medd, Mechell, Penmynydd, Rhos-y-bol, Tref Alaw, Trewalchmai; a'r rhannau hynny o'r cymunedau canlynol nad ydynt wedi'u lleoli o fewn Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn: Aberffro, Biwmares, Bodorgan, Cwm Cadnant, Cylch-y-Garn, Llanbadrig, Llanddaniel-fab, Llanddona, Llanddyfnan, Llaneilian, Llaneugrad, Llanfachraeth, Llanfaelog, Llanfaethlu, Llanfair-yn-neubwll, Llangoed, Llanidan, Moelfre, Pentraeth, Rhosyr, Trearddur, Y Fali. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) O dan adran 157 o Ddeddf Tai 1985 ("Deddf 1985"), os yw trawsgludiad neu grant yn cael ei gyflawni yn unol â Rhan V o Ddeddf 1985 (yr hawl i brynu) gan awdurdod lleol neu gymdeithas tai (y landlord) a bod y t annedd hwnnw wedi'i leoli mewn:- Parc Cenedlaethol, - ardal sydd wedi'i dynodi o dan adran 82 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yn ardal o harddwch naturiol eithradol, neu - ardal sydd wedi'i dynodi drwy orchymyn Cynulliad Cendlaethol Cymru yn ardal wledig, fe all y trawsgludiad neu'r grant gynnwys cyfamod sy'n cyfyngu ar hawl y tenant i werthu'r t annedd yn y modd a nodwyd yn yr adran honNo. O dan adran 16 o Ddeddf Tai 1996 ("Deddf 1996") mae gan denant landlord cymdeithasol cofrestredig hawl mewn amgylchiadau penodol i gaffael yr annedd y mae ef neu hi yn byw ynddi. Mae hyn yn ddarostyngedig i adran 17 o Ddeddf 1996 sy'n galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol drwy orchymyn i ddynodi ardaloedd gwledig mewn perthynas ag anheddau lle na fydd yr hawl sy'n cael ei rhoi gan adran 16 yn codi. Mae'r Gorchymyn hwn yn dynodi ardaloedd gwledig at ddibenion adran 157 o Ddeddf 1985 ac adran 17 o Ddeddf 1996. Mae'n disodli Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Ardaloedd Gwledig Dynodedig a Rhanbarthau Dynodedig) (Cymru) 1980. Yn ychwanegol, ar gyfer tenantiaethau a ddechreuodd ar 7 Chwefror 2003 neu ar ôl hynny, mae'r Gorchymyn hwn yn disodli Erthygl 3(b) o Orchymyn Diwygio Cyfraith Prydlesi a Thai (Tenantiaethau wedi'u Heithrio) (Ardaloedd Gwledig Dynodedig) (Cymru) 1997. Ar gyfer tenantiaethau a ddechreuodd cyn 7 Chwefror 2003, mae erthygl 3(b) o Orchymyn Diwygio Cyfraith Prydlesi a Thai (Tenantiaethau wedi'u Heithrio) (Ardaloedd Gwledig Dynodedig) (Cymru) 1997 yn parhau i fod yn effeithiol ac ni fydd y Gorchymyn hwn yn gymwys i'r tenantiaethau hynny. Notes: [1] 1985 p.68;. gweler erthygl 2 yn Atodlen 1 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (O.S.1999/672).back [2] 1996 p.52; gweler erthygl 2 yn Atodlen 1 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (O.S.1999/672).back
ISBN 0 11090624 1
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 31 January 2003 |