Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2003 © Hawlfraint y Goron 2003 Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines. Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2003, ISBN 0 11090619 5. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited. Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraff 4 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986[1], ac a freiniwyd ynddo bellach, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru[2] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: - Teitl, cychwyn a dehongli 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 13 Ionawr 2003. (2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at "yr Atodlen" yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn. (3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at offeryn y Gymuned Ewropeaidd yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw ac unrhyw ddiwygiad i'r cyfryw offeryn sydd mewn grym ar y dyddiad y gwneir y Gorchymyn hwn. (4) Yn y Gorchymyn hwn:
Asesiad o gynhwysedd cynhyrchiol y tir
(b) y swm a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen gyferbyn â'r uned gynhyrchu honno fydd y swm a benderfynir am y cyfnod o 12 mis yn dechrau gyda 12 Medi 2002 fel yr incwm blynyddol net gan yr uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw.
(3) Pan fydd tir y gellir ei ddefnyddio, wrth ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu incwm blynyddol net, yn wrthrych taliadau Tir Mynydd neu wedi'i ddynodi fel neilltir, fel a grybwyllir yng nghofnodion 7 ac 8 yng ngholofn 1 o'r Atodlen, yna -
(b) y swm a bennir yng ngholofn 3 o'r Atodlen gyferbyn â'r uned gynhyrchu honno fydd y swm a benderfynir am y cyfnod o 12 mis yn dechrau gyda 12 Medi 2001 fel yr incwm blynyddol net gan yr uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw.
(4) Mae'r Atodlen yn cael effaith yn ddarostyngedig i'r Nodiadau i'r Atodlen.
(b) Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) (Rhif 2) 2001[7]; ac (c) Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) (Rhif 3) 2001[8].
(1) Didynner £120 o'r ffigur hwn yn achos anifeiliaid nad yw'r incwm blynyddol net ar eu cyfer yn cynnwys swm yngl n â'r premiwm at gynnal buchod sugno (premiwm buchod sugno) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 6 o Reoliad 1254/99 y Cyngorar gyd-drefnu'r farchnad mewn cig eidion a chig llo.
n â graddfa is y premiwm dad-ddwysáu y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 13 o Reoliad 1254/99 y Cyngor.
n â graddfa uwch y premiwm dad-ddwysáu y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 13 o Reoliad 1254/99 y Cyngor.
(2) Dyma'r ffigur ar gyfer anifeiliaid a fyddai'n cael eu cadw am 12 mis.
n â'r premiwm arbennig dros gadw anifeiliaid buchol gwryw (premiwm arbennig cig eidion) y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 4 o Reoliad 1254/99 y Cyngor.
n â graddfa is y premiwm dad-ddwysáu.
n â graddfa uwch y premiwm dad-ddwysáu.
n â'r premiwm arbennig cig eidion, cyfrifir yr incwm blynyddol net drwy ddidynnu £102 o'r ffigur yng ngholofn 3 ac wedyn gwneud addasiad pro rata o'r ffigur canlyniadol.
n â'r premiwm arbennig cig eidion, cyfrifir yr incwm blynyddol net i ddechrau drwy ddidynnu £102 o'r ffigur yng ngholofn 3, wedyn gwneud addasiad pro rata o'r ffigur canlyniadol, wedyn ychwanegu at y ffigur hwnnw y swm o £102 ac (pan fydd yr incwm blynyddol net yn cynnwys swm yngl n â phremiwm dad-ddwysáu) y swm o £24 (pan y telir y premiwm dad-ddwysáu ar y raddfa is) neu £48 (pan ytelir y premiwm dad-ddwysáu ar y raddfa uwch).
(3) Mae hwn yn dangos y ffigur ar gyfer anifeiliaid (gan anwybyddu oedran) a gedwir am 12 mis. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata i'r ffigur hwn. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi unedau cynhyrchu ar gyfer asesu cynhwysedd cynhyrchiol tir amaethyddol a leolir yng Nghymru ac yn nodi'r swm a fernir yn incwm blynyddol net gan bob uned o'r fath ar gyfer y flwyddyn 12 Medi 2002 hyd 11 Medi 2003 yn gynhwysol. Mae gofyn cael asesiad o gynhwysedd cynhyrchiol y tir amaethyddol i benderfynu a yw'r tir dan sylw yn "uned fasnachol o dir amaethyddol" at ddibenion darpariaethau olynu yn Neddf Daliadau Amaethyddol 1986: gweler adrannau 36(3) and 50(2) yn arbennig. Mae "uned fasnachol o dir amaethyddol" yn dir sydd, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, â'r gallu i gynhyrchu incwm blynyddol net nad yw'n llai na chyfanswm enillion blynyddol cyfartalog dau weithiwr amaethyddol gwrywaidd amser-llawn ugain oed neu drosodd (paragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf 1986). Wrth benderfynu'r ffigur incwm blynyddol hwn, ni ddefnyddir o reidrwydd naill ai'r system ffermio a weithredir ar ddaliad penodol na data hanesyddol o'r daliad hwnnw. Yn hytrach, pryd bynnag y bydd defnydd ffermio penodol a grybwyllir yng ngholofn 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn berthnasol i'r penderfyniad hwn, yr unedau cynhyrchu a'r incwm blynyddol net a bennir yng ngholofnau 2 a 3 yn ôl eu trefn fydd y sail ar gyfer asesu cynhwysedd cynhyrchiol y tir dan sylw. Mae'r ffigurau incwm blynyddol net yng ngholofn 3 o'r Atodlen yn nodi'r incwm blynyddol net o un uned gynhyrchu. Mewn rhai achosion bydd yr incwm blynyddol net yn deillio o uned a fydd ar y tir am y cyfnod llawn o ddeuddeng mis. Mewn achosion eraill bydd yr incwm blynyddol net yn deillio o uned a fydd ar y tir am ran o'r flwyddyn yn unig, a gall y bydd mwy nag un gylchred gynhyrchu yn y cyfnod o ddeuddeng mis. Bydd yr asesiad o gynhwysedd cynhyrchu'r tir yn cymryd i ystyriaeth yr holl gynhyrchu yn ystod blwyddyn. Notes: [1] 1986 p.5.back [2] Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/ 672), trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog (a ddiffiniwyd yn adran 96(1) o'r Ddeddf fel yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Chymru) o dan baragraff 4 o Atodlen 6 o Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back [3] OJ Rhif L312, 20.11.98, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1669/00 (OJ Rhif L193, 29.7.00, t.8).back [4] OJ Rhif L160, 26.6.99, t.1 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1038/01 (OJ Rhif L145, 31.5.01, t.16).back [5] OJ Rhif L160, 26.6.99, t.21.back [6] O.S. 2001/2982 (Cy.249).back [7] O.S. 2001/2983 (Cy.250).back [8] O.S. 2001/3064 (Cy.253).back [10] O.S. 2001/496 (Cy.23) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/1806 (Cy.176).back
ISBN 0 11090619 5
| ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2003 | Prepared 23 January 2003 |