Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Tor-faen (Newidiadau Etholiadol) 2002 © Hawlfraint y Goron 2002 Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines. Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Tor-faen (Newidiadau Etholiadol) 2002, ISBN 0 11090644 6. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited. Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.
Yn unol ag adrannau 58(1) a 64 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972[1] cyflwynodd Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru gynigion yn Rhagfyr 1999 ar gyfer trefniadau etholiadol y dyfodol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Tor-faen. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi cytuno â'r cynigion (gyda rhai addasiadau) yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 58(2) a 67(4) a (5) o'r Ddeddf. Enwi, cychwyn a dehongli 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Tor-faen (Newidiadau Etholiadol) 2002. (2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym:
(b) at bob diben arall, ar 6 Mai 2004.
(3) Yn y Gorchymyn hwn -
Adrannau etholiadol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) O dan adran 64(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i hamnewidwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994) yr oedd yn ofynnol i Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru adolygu'r trefniadau etholiadol cyn gynted â phosibl ar ôl yr etholiadau cyntaf i'r awdurdodau unedol ym Mai 1995. Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi eiu heffaith (gyda rhai addasiadau) i'r cynigion a wnaed yn adroddiad Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru yn Hydref 1999 ar gyfer Bwrdeistref Sirol Tor-faen. Er bod y Gorchymyn yn diddymu'r holl adrannau etholiadol presennol yn y Fwrdeistref Sirol ac yn eu disodli ag adrannau etholiadol newydd, yn ymarferol bydd y mwyafrif yn aros yr un fath. Nid oes unrhyw newid i adrannau Abersychan, Blaenafon, Bryn-wern, Coed Efa, Gogledd Croesyceiliog, De Croesyceiliog, Cwmynysgoi, Fairwater, Greenmeadow, Llantarnam, Gogledd Llanyrafon, De Llanyrafon, Pant-eg, Pontnewydd, Pontnewynydd, Pont-y-p l, Snatchwood, St Cadocs a Phen-y-garn, Llanfihangel Llantarnam, Trefddyn, Two Locks, Cwmbrân, Waunfelin.Er hynny bydd adrannau presennol New Inn Isaf a New Inn Uchaf yn cael eu cyfuno i ffurfio etholaeth adran etholiadol New Inn. Bydd yn cynnwys Cymuned New Inn ac yn cael ei chynrychioli gan dri chynghorydd. Notes: [1] 1972 p.70.back [2] Cafodd y Gorchymyn hwn ei wneud ar 19 Rhagfyr 1994 gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref.back
ISBN 0 11090644 6
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 18 February 2003 |