Offerynnau Statudol 2002 Rhif 3272 (Cy.310)

      Gorchymyn Ceredigion a Sir Benfro (Llandudoch) 2002


      © Hawlfraint y Goron 2002

      Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines.

      Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Gorchymyn Ceredigion a Sir Benfro (Llandudoch) 2002, ISBN 0 11090627 6. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited.

      Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2002 Rhif 3272 (Cy.310)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Ceredigion a Sir Benfro (Llandudoch) 2002

  Wedi'i wneud 6 Rhagfyr 2002 
  Yn dod i rym yn unol ag Erthygl 1(2)

Mae Comisiwn Ffiniau Llwyodraeth Leol i Gymru wedi cyflwyno adroddiad dyddiedig Rhagfyr 2001 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972[1] ar ei adolygiad ar ran o'r ffin rhwng Sir Ceredigion a Sir Benfro yn ardal Cymuned Llandudoch ynghyd â'r cynigion y mae wedi eu llunio amdani;

     a chan bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi penderfynu rhoi effaith i'r cynigion hyn gydag addasiadau y mae eu heffaith yn cynnwys trosglwyddo ardal o dir sy'n gyffiniol â'r eiddo "Parc y Ffrier" o Sir Ceredigion i Sir Benfro;

     a bod mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu gwneud;

     yn awr mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac a freiniwyd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2] yn gwneud y Gorchymyn canlynol: - 

Enwi a chychwyn
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ceredigion a Sir Benfro (Llandudoch) 2002.

    (2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2003, sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau, ond at ddibenion pob achos sy'n arwain at etholiad neu'n ymwneud ag etholiad sydd i'w gynnal ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw daw'r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff ei wneud.

Dehongli
    
2. Yn y Gorchymyn hwn - 

    ystyr "Ceredigion" yw Sir Ceredigion.

    ystyr "map ffiniau A" ("boundary map A") yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio "Map A Gorchymyn Ceredigion a Sir Benfro (Llandudoch) 2002" ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;

    ystyr "map ffiniau B" ("boundary map B") yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio "Map B Gorchymyn Ceredigion a Sir Benfro (Llandudoch) 2002" ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;

    ystyr "Sir Benfro" ("Pembrokeshire") yw Sir Benfro.

Newidiadau i Ardaloedd Cymunedau
     3. Bydd y rhannau o Geredigion a farciwyd A ar fap ffiniau A ac a farciwyd B ar fap ffiniau B yn cael eu gwahanu oddi wrth y sir honno a byddant yn ffurfio rhan o Sir Benfro. Gan hynny bydd cymuned Llandudoch yn ffurfio rhan o Sir Benfro.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru


E. Hart
Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau

6 Rhagfyr 2002












NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn, a wnaed yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn rhoi effaith gydag addasiadau i gynigion gan Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru. Effaith y cynigion hynny fydd bod yr ardaloedd yng nghymuned Llandudoch yn Sir Ceredigion (a ddangoswyd â llinellau croes duon ac a farciwyd A ar fap ffiniau A ac a ddangoswyd â llinellau croes duon ac a farciwyd B ar fap ffiniau B, y cyfeirir atynt yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn) yn cael eu trosglwyddo o Sir Ceredigion i Sir Benfro ar ôl i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.

Cafodd printiau o'r mapiau ffiniau eu hadneuo a gellir eu harchwilio yn ystod oriau swyddfa arferol yn swyddfeydd Cyngor Sir Ceredigion ym Mhenmorfa, Aberaeron, Ceredigion; Cyngor Sir Penfro yn Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro a swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd (Yr Is-adran Moderneiddio Llywodraeth Leol).

Mae Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (fel y'u diwygiwyd) y cyfeirir atynt yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol ac atodol ynghylch effaith gorchmynion megis y gorchymyn hwn a'u gweithredu.


Notes:

[1] 1972 (p.70).back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1976/246. fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol (Diwygio) 1978 (O.S. 1978/247).back



English version



ISBN 0 11090627 6


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2002
Prepared 5 February 2003