Gorchymyn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro (Clynderwen, Cilymaenllwyd a Henllanfallteg) 2002 © Hawlfraint y Goron 2002 Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines. Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Gorchymyn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro (Clynderwen, Cilymaenllwyd a Henllanfallteg) 2002, ISBN 0 11090642 X. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited. Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.
Mae Comisiwn Ffiniau Llwyodraeth Leol Cymru wedi cyflwyno adroddiad dyddiedig Rhagfyr 2001 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 54(1) a 58(1) o Deddf Llywodraeth Leol 1972[1] ar ei adolygiad ar y rhan o'r ffin rhwng Siroedd Caerfyrddin a Phenfro yn ardal cymunedau Clynderwen a Gorllewin Llandysilio ynghyd â'r cynigion y mae wedi eu llunio amdani; a chan fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi penderfynu rhoi eu heffaith i'r cynigion hyn gydag addasiadau ac effaith yr addasiadau yw cynnwys trosglwyddo'r tir a'r eiddo a elwir "Troed y Rhiw"; a bod mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu gwneud; yn awr mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac a freiniwyd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: - Enwi a chychwyn 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro (Clynderwen, Cilymaenllwyd a Henllanfallteg) 2002. (2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2003 sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau hyn, ac eithrio'r ffaith y bydd y Gorchymyn hwn at ddibenion pob achos rhagarweiniol neu achos sy'n ymwneud ag etholiad sydd i'w gynnal ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw yn dod i rym drannoeth y diwrnod y caiff ei wneud. Dehongli 2. Yn y Gorchymyn hwn -
Newidiadau i Ardaloedd Cymunedau ![]() ![]() ![]() ![]() ![]() (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn, a wnaed yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn rhoi eu heffaith gydag addasiadau i gynigion gan Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru. Effaith y cynigion addasedig hynny ar ôl i'r Gorchymyn hwn ddod i rym yw'r canlynol:
(ii) bydd yr ardal sy'n rhan o gymuned Cilymaenllwyd yn Sir Gaerfyrddin (gan gynnwys tir ac eiddo a elwir "Troed y Rhiw") (ac a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau B y cyfeirir ato yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn) yn dod yn rhan o gymuned Clynderwen yn Sir Benfro; (iii) bydd yr ardal sy'n rhan o gymuned Clynderwen (ac a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau C y cyfeirir ato yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn) yn dod yn rhan o Gymuned Cilymaenllwyd yn Sir Gaerfyrddin; (iv) bydd yr ardal sy'n rhan o gymuned Henllanfallteg yn Sir Gaerfyrddin (a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau Ch y cyfeirir ato yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn) yn dod yn rhan o Gymuned Clynderwen yn Sir Benfro; (v) bydd yr ardal sy'n rhan o gymuned Clynderwen yn Sir Gaerfyrddin yng nghyffiniau Fferm Pen-deri (a ddangosir â llinellau du ar fap ffiniau D y cyfeirir ato yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn) ac nad yw'n cynnwys unrhyw anheddau yn dod yn rhan o gymuned Henllanfallteg yn Sir Benfro fel y bydd y ffin yn yr ardal honno yn dilyn canol Afon Daulan.
Mae printiau o'r mapiau ffiniau wedi'u hadneuo a gellir eu harchwilio yn ystod oriau swyddfa arferol yn swyddfeydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin, swyddfeydd Cyngor Sir Penfro yn Neuadd y Sir, Hwlffordd a swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd (Yr Is-adran Moderneiddio Llywodraeth Leol). Notes: [1] 1972 (p.70).back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] O.S. 1976/246, fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol (Diwygio) 1978 (O.S. 1978/1247).back
ISBN 0 11090642 X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 18 February 2003 |