Offerynnau Statudol 2002 Rhif 3226 (Cy.306)

      Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2002


      © Hawlfraint y Goron 2002

      Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines.

      Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2002, ISBN 0 11090617 9. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited.

      Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2002 Rhif 3226 (Cy.306)

IECHYD PLANHIGION, CYMRU

Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2002

  Wedi'u gwneud 23 Rhagfyr 2002 
  Yn dod i rym 24 Rhagfyr 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi ei ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2002; maent yn gymwys i Gymru, a deuant i rym ar 24 Rhagfyr 2002.

Diwygio Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft 1998
    
2.  - (1) Diwygir Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft 1998[3] fel y maent yn gymwys i Gymru yn unol â pharagraff (2) isod.

    (2) Yn yr Atodlen, yn y golofn â'r pennawd "Instrument", ar ôl "Commission Decision 2001/664/EC", ychwanegir "Commission Decision 2002/903/EC"[4]), ac yn y golofn â'r pennawd "Reference", ar ôl "OJ No. L233, 31.8.01, p. 49", ychwanegir "OJ No. L312, 15.11.02, p. 28".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]


Rhodri Morgan
Prif Weinidog Cynulliad Cenedlaethol Cymru

23 Rhagfyr 2002



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu yng Nghymru Penderfyniad y Comisiwn 2002/903/EC (OJ Rhif L312, 15.11.02, t. 28) sy'n diwygio Penderfyniad y Comisiwn 96/301/EC ("y prif Benderfyniad") (OJ Rhif L115, 9.5.1996, t.47) sy'n awdurdodi Aelod-wladwriaethau, dros dro, i gymryd camau brys yn erbyn lledaenu Pseudomonas solanacearum (Smith) Smith mewn cysylltiad â'r Aifft. Maent yn gwneud hynny drwy ychwanegu Penderfyniad y Comisiwn 2002/903/EC at y rhestr o offerynnau sy'n diwygio'r prif Benderfyniad sydd wedi ei gynnwys yn yr Atodlen i Reoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft 1998 (OS 1998/201) (rheoliad 2). Mae penderfyniad 2002/903/EC yn adnewyddu'r gyfundrefn y gellir mewnforio tatws o dani i diriogaeth y Gymuned Ewropeaidd ar gyfer tymor 2002/2003.

Cyfeirir bellach at Pseudomonas solanacearum (Smith) Smith fel Ralstonia solanacearum Smith (Yabuuchi) et al. (gweler Cyfarwyddeb y Cyngor 98/57/EC (OJ Rhif L235, 21.9.1998)).

Nid yw Arfarniad Rheoliadol wedi ei wneud ynglycircn ag ymestyn y rheolaethau hyn i dymor 2002/2003.


Notes:

[1] O.S. 1999/2788.back

[2] 1972 p. 68.back

[3] O.S. 1998/201, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/3167, O.S. 2000/350 (Cy.8), O.S. 2001/2356 (Cy.194) ac O.S. 2002/120 (Cy.14).back

[4] OJ Rhif L312, 15.11.02, t. 28.back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090617 9


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2002
Prepared 17 January 2003