Offerynnau Statudol 2002 Rhif 3186 (Cy.302)

      Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2002


      © Hawlfraint y Goron 2002

      Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines.

      Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090621 7. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited.

      Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2002 Rhif 3186 (Cy.302)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2002

  Wedi'i wneud 18 Rhagfyr 2002 
  Yn dod i rym 1 Mawrth 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwcircer a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraff 2(3)(b) o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1] sydd wedi'i freinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y mae'n arferadwy yng Nghymru[2].

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2002 a daw i rym ar 1 Mawrth 2003.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dyddiad prisio
    
2. 1 Ebrill 2003 yw'r diwrnod a bennir o dan baragraff 2(3)(b) o Atodlen 6 (Prisio ar gyfer ardrethu annomestig) i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 fel y diwrnod y mae'n rhaid cyfeirio ato i benderfynu gwerthoedd ardrethol hereditamentau annomestig at ddibenion rhestrau ardrethol annomestig lleol a chanolog sydd i'w llunio ar gyfer Cymru ar 1 Ebrill 2005.

Dirymu
    
3. Dirymir Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) 1998[3] i'r graddau y mae'n berthnasol i Gymru.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

18 Rhagfyr 2002



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Yn rhinwedd adrannau 41(2) a 52(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 Rhan III, rhaid i restrau ardrethu annomestig gael eu llunio ar 1 Ebrill ym mhob pumed blwyddyn ar ôl 1990.

At ddibenion llunio rhestr o'r fath mae gwerth ardrethol hereditament annomestig i gael ei benderfynu ar y diwrnod y mae'n rhaid llunio'r rhestr neu ar unrhyw ddiwrnod cyn y diwrnod hwnnw a bennir drwy orchymyn.

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu 1 Ebrill 2003 fel y diwrnod y mae'n rhaid cyfeirio ato i benderfynu gwerth ardrethol hereditament annomestig at ddibenion rhestrau ardrethu annomestig lleol a chanolog sydd i'w llunio ar 1 Ebrill 2005.

Mae erthygl 3 yn dirymu Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) 1998.


Notes:

[1] 1988 p. 41.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1998/93back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090621 7


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2002
Prepared 28 January 2003