Offerynnau Statudol 2002 Rhif 3185 (Cy.301) (C.107)

      Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2002


      © Hawlfraint y Goron 2002

      Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines.

      Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090613 6. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited.

      Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2002 Rhif 3185 (Cy.301) (C.107)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2002

  Wedi'i wneud 18 Rhagfyr 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwcircer a roddwyd iddo gan adran 216(3), (4)(b) a (5) o Ddeddf Addysg 2002[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enw, Cymhwyso a Dehongli
     1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2002.

    
2. Mae'r Gorchymyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig ac eithrio mewn perthynas â

    Rhan 7,

    adrannau 191 i 196 ac Atodlen 18,

    paragraffau 5(1) i (4), (6) a 6 i 8 o Atodlen 17 ac adran 189 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau hynny,

    Rhan 2 o Atodlen 22 ac adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r Rhan honNo.

     3. Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at Rannau, adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at Rannau ac adrannau o Ddeddf Addysg 2002 a'r Atodlenni iddi.

Dyddiau penodedig
    
4. 19 Rhagfyr 2002 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.

    
5. 31 Mawrth 2003 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan II o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.

    
6. 1 Medi 2003 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn Rhan III o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.

Darpariaethau trosiannol ac arbedion
    
7. Er gwaethaf y ffaith bod adran 49 yn dod i rym, a heb ragfarn i adran 16(1)(c) o Ddeddf Dehongli 1978[2], mae adrannau 86(3)(b) a 91 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[3] (trefniadau arbennig i gadw cymeriad crefyddol ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir) i barhau i gael effaith mewn perthynas â threfniadau derbyn ysgol a gynhelir ar gyfer unrhyw flwyddyn ysgol cyn 2004 i 2005.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

18 Rhagfyr 2002



YR ATODLEN
Erthyglau 4, 5 a 6



RHAN I

DARPARIAETHAU YN DOD I RYM AR 19 RHAGFYR 2002

DARPARIAETH Y PWNC
Adran 49 Diddymu pwcircer i wneud trefniadau arbennig penodol er mwyn cadw cymeriad crefyddol
Adrannau 54, 55, 56 Ysgolion sy'n peri pryder
Adran 75 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 10 isod Sefydlu ysgolion etc: newidiadau i'r gweithdrefnau presennol
Adrannau 97, 98, 99(1), 100 ac eithrio is-adrannau (1)(b), (2)(b) a (5), 101 ac eithrio is-adran (3)(b), 103, 105 i 107, 108 ac eithrio is-adrannau (1)(a), (2) a (6), 109, 111 i 118 Y Cwricwlwm yng Nghymru
Adran 131 Gwerthuso athrawon ysgol
Adrannau 132, 133, 134 (1), (4) a (5), 135 Cymwysterau athrawon ysgol
Adran 141 Athrawon  -  iechyd a ffitrwydd
Adran 145 Cymwysterau athrawon  -  cyffredinol
Adran 148 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 12 isod Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru
Adran 151(2) Swyddogaethau gofal plant Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Adran 152 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 13 isod Rheoleiddio gwarchod plant a gofal dydd
Adran 179(1), (4), (5) a (6) Hawl mynediad mewn perthynas ag arolygiadau
Adran 180 Arolygiadau AALlau: hawliau mynediad, etc
Adran 188 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 16 isod Arolygiadau ysgolion
Adran 189 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 17 isod Diwygiadau i Ran 5 o Ddeddf Addysg 1997
Adrannau 191 i 194 Darpariaeth ranbarthol o addysg i blant ag anghenion addysgol arbennig
Adran 196 Cyhoeddi a darparu deunyddiau
Adran 215(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 21 isod Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 22 isod Diddymiadau
Atodlen 5 Ysgolion sy'n peri pryder
Atodlen 10,

Paragraffau 1, 6, 11 a 15

Sefydlu ysgolion etc: newidiadau i'r gweithdrefnau presennol
Atodlen 12,

Paragraffau 1, 2, 4(1) a (3), 6 a 7

Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru
Atodlen 13,

Paragraffau1 i 3, 5, 6, 7(1) a (3), 8

Rheoleiddio gwarchod plant a gofal dydd
Atodlen 16,

Paragraffau 4 i 9

Arolygiadau ysgolion
Atodlen 17,

Paragraffau 5 (1)  -  (4), (6), 6 i 8

Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru
Atodlen 21, Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Paragraff 8,     
Paragraff 11,     
Paragraff 13,     
Paragraff 16,     
Paragraff 19,     
Paragraffau 20 a 21,     
Paragraffau 31, 32 a 33,     
Paragraff 45,     
Paragraff 46 (ac eithrio is-baragraff (6)),     
Paragraff 47 (ac eithrio is-baragraff (3))     
Paragraff 48,     
Paragraff 51,     
Paragraff 53,     
Paragraff 57 (ac eithrio is-baragraff (a)),     
Paragraff 59 (ac eithrio is-baragraff (a)),     
Paragraff 66,     
Paragraff 70,     
Paragraff 74,     
Paragraff 76 (ac eithrio is-baragraff (b)),     
Paragraff 78,     
Paragraff 81,     
Paragraff 85 (ac eithrio is-baragraff (b)),     
Paragraffau 87 ac 88,     
Paragraffau 95 a 96,     
Paragraff 98(1) a (2) (ac eithrio is-baragraffau (b) a (c)),     
Paragraff 99(1) a (3) (ac eithrio is-baragraff (a)),     
Paragraffau 104 a 105,     
Paragraffau 108 a 109,     
Paragraff 113 (ac eithrio is-baragraffau (a) i (d), (f) a (g)),     
Paragraff 114,     
Paragraff 117,     
Paragraff 118 (1), (2), (3) (ac eithrio is-baragraff (b)), (4) (ac eithrio is-baragraff (a)(ii)) a (5),     
Paragraff 126 (1), (2) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r diwygiadau i baragraffau 21 a 29 o Atodlen 7 i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000[5], a (3) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r diwygiad i baragraff 39 o Atodlen 7 i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000.     
Yn Atodlen 22, Rhan 2, diddymu -  Diddymiadau
Deddf Addysg 1997[6], yn adran 29, yn is-adran (2), paragraff (f), a'r gair "and" yn union o'i flaen,     
yn adran 32(3), y geiriau "or approved" a'r geiriau "and subject to such conditions";     
Yn Atodlen 22, Rhan 3, diddymu -      
Deddf Addysg (Rhif 2) 1986[7], adran 49;     
Deddf Plant 1989[8]), yn adran 79M(1), y gair "or" ar ddiwedd paragraff (a), yn adran 79U, is-adran (5) ac yn is-adran (9), y diffiniad o "authorised inspector";     
Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992[9], yn adran 23(4), paragraff (b) a'r gair "and" yn union o'i flaen, adrannau 39 i 42, adran 60;     
Deddf Addysg 1996[10], adrannau 350  -  369, adran 408(4) (a), yn adran 409(1) y geiriau "with the approval of the Secretary of State and";     
Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996[11], yn adran 6(3) y gair "and" ar ddiwedd paragraff (a), yn adran 16(3) y gair "and" o flaen paragraff (d);     
Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[12]), adran 1(8), yn adran 3 y geiriau "within the meaning of section 218(2) of the Education Reform Act 1988";     
Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[13], adran 16(4) a (13), yn adran 22(1), ym mharagraff (b) y geiriau "under section 28 or 31" ac ym mharagraff (c) y geiriau "under section 28", adrannau 86(3)(b) a 91, yn Atodlen 6, ym mharagraff 10(6), y geiriau "or (5)", yn Atodlen 28, paragraff 4(1);     
Deddf Dysgu a Medrau 2000[14]), adrannau 130 i 132 a 148(2), yn Atodlen 9, paragraffau 26, 30, 35, 59(6)(b).     



RHAN II

DARPARIAETHAU YN DOD I RYM AR 31 MAWRTH 2003

DARPARIAETH Y PWNC
Adrannau 14 i 17 a 18(2) Cymorth ariannol ar gyfer addysg a gofal plant
Adrannau 142 i 144 Athrawon  -  camymddwyn
Adran 146 i'r graddau y mae'n ymwneud â diddymu adrannau 218(2B), (6), (6ZA), (6A), (6B), (7) a 218A o Ddeddf Diwygio Addysg 1998[15] Diddymu adrannau 218 a 218A o Ddeddf Diwygio Addysg 1998
Adran 148 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 12 isod Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru
Adran 149 Dyletswyddau AALl mewn perthynas â gofal plant
Adran 150 Partneriaethau a chynlluniau datblygu'r blynyddoedd cynnar a gofal plant
Adran 195 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 18 isod Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru
Adran 200 Dileu taliadau sy'n ymwneud â thripiau preswyl
Adran 201(1) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud ag is-adran (1)(c) o adran 512 newydd o Ddeddf Addysg 1996, (2) a (3) Swyddogaethau AALl ynghylch prydau bwyd ysgolion, llaeth, etc.
Adran 215(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 21 isod Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 22 isod Diddymiadau
Atodlen 12,

Paragraff 12(1) a (2)

Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru
Atodlen 18,

Paragraffau 1, 4, 5 a 7, Paragraff 8 i'r graddau y mae'n mewnosod is-adran newydd (2) yn adran 28H o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995, Paragraffau 13 i 15

Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru
Atodlen 21, Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Paragraff 9,     
Paragraff 49,     
Paragraff 54,     
Paragraff 71 i'r graddau y mae'n ymwneud ag adran 49(2) a (3) o Ddeddf Addysg 1997     
Paragraff 72,     
Paragraff 73,     
Paragraff 75,     
Paragraff 76 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym,     
Paragraff 77,     
Paragraff 83,     
Paragraff 85 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym,     
Paragraff 86,     
Paragraff 120,     
Paragraff 121,     
Paragraff 122 ac eithrio is-baragraff (b),     
Paragraff 123,     
Paragraff 128.     
Yn Atodlen 22, Rhan 3, diddymu -  Diddymiadau
Deddf Diwygio Addysg 1988[16], adrannau 218(2B), (6), (6ZA), (6A), (6B), (7) a 218A;     
Deddf Plant 1989[17], yn adran 19, is-adrannau (1) a (2) ac yn is-adran (4) y geiriau "the two authorities, or in Scotland,";     
Deddf Addysg 1997[18], adran 49(2) a (3);     
Deddf yr Heddlu 1997[19], yn adran 113, yn is-adran (3A), paragraff (a) (ii) a (iii) ac yn is-adran (3B), paragraff (c) a'r geiriau o "and the reference" hyd at y diwedd, adran 115(6A) (a) (ii) (a) (iii);     
Deddf Addysgu ac Uwch 1998, yn Atodlen 2, paragraff 1(5);     
Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, adran 115, yn adran 119(5), y gair "and" ar ddiwedd paragraff (a), yn adran 120(2)(a), y geiriau "of proposals" ac "and", yn adran 121, yn is-adran (1), y geiriau "the authority's statement of proposals" ac yn is-adran (9) y geiriau "early years development";     
Deddf Amddiffyn Plant 1999[20], adran 5, yn adran 7, is-adran (1) (a)(ii) a (iii), y gair "and" yn union o flaen is-adran (2)(c) ac is-adran (4), yn adran 9(2), y gair "or" ar ddiwedd paragraff (d), yn adran 12(2) y diffiniad o "the 1988 Act";     
Deddf Mewnfudo a Llochesu 1999[21], yn Atodlen 14, paragraff 117;     
Deddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000[22], adran 35(5), yn Atodlen 7, paragraff 83.     



RHAN III

DARPARIAETHAU YN DOD I RYM AR 1 MEDI 2003

DARPARIAETH Y PWNC
Adran 195 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 18 isod Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru
Adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 22 isod Diddymiadau
Atodlen 18, Paragraffau 2, 3, 6, 8 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym), 9 i 12 a 16 i 18 Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru
Yn Atodlen 22, Rhan 2, diddymu -  Diddymiadau
Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995[23], adran 28J(4);     
Deddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001[24], adran 42(2), yn Atodlen 8, paragraff 2.     



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym yng Nghymru ar 19 Rhagfyr 2002 y darpariaethau hynny yn Neddf Addysg 2002 a bennir yn Rhan I o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn. Mae hefyd yn dwyn i rym ar 31 Mawrth 2003 y darpariaethau hynny a bennir yn Rhan II o'r Atodlen, ac ar 1 Medi 2003 y darpariaethau hynny a bennir yn Rhan III o'r Atodlen. Mae'r Gorchymyn hefyd yn gwneud darpariaethau trosiannol mewn perthynas â threfniadau derbyn.

Dyma fydd effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan I o'r Atodlen - 

Mae adran 49 yn diddymu adran 91 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 sy'n caniatáu i ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir sydd â chymeriad crefyddol iddi wneud trefniadau arbennig yn ei threfniadau derbyn er mwyn cadw'i chymeriad crefyddol.

Mae adrannau 54 i 56 ac Atodlen 5 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas ag ysgolion sy'n peri pryder. Mae adran 54 yn mewnosod adran 16A newydd o Ddeddf Arolygiadau Ysgolion 1996 sy'n ei gwneud yn ofynnol i Brif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru i hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") os yw arolygydd o'r farn fod gan ysgol wendidau difrifol neu fod angen mesurau arbennig arni. Mae adran 55 yn diwygio adran 15 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ("Deddf 1998") sy'n nodi'r achosion pan gaiff AALl ddefnyddio'u pwerau ymyrryd. Mae'r diwygiadau'n darparu bod adran 15 o Ddeddf 1998 yn gymwys i ysgolion sydd â gwendidau difrifol neu sydd angen mesurau arbennig ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol gael ei hysbysu o dan adran 16A o Ddeddf Arolygiadau Ysgolion 1996. Mae adran 56 yn diwygio adrannau 18 a 19 o Ddeddf 1998 er mwyn darparu bod pwerau'r Cynulliad Cenedlaethol i benodi llywodraethwyr ychwanegol a chyfarwyddo AALl i gau ysgol yn gymwys i ysgolion sydd â gwendidau difrifol yn ogystal â'r rhai sydd angen mesurau arbennig. Mae Atodlen 5 yn gwneud diwygiadau i Ddeddf 1998 o ganlyniad i adrannau 55 a 56.

Mae adran 75 ac Atodlen 10, paragraffau 1,6,11 a 15 yn diwygio Atodlen 6 i Ddeddf 1998 ac Atodlen 7 i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000, er mwyn darparu nad yw cynigion i sefydlu, newid neu gau ysgolion, neu gynigion sy'n ymwneud â chweched dosbarth annigonol, a gymeradwyir yn amodol gan y Cynulliad Cenedlaethol i gael eu trin fel rhai gwrthodedig os nad yw'r amod yn cael ei fodloni, ond eu bod i gael eu hystyried o'r newydd.

Mae adrannau 97, 98, 99(1), 100 (ac eithrio is-adrannau (1)(b), (2)(b) a (5)), 101 (ac eithrio is-adran (3)(b)), 103, 105 i 107, 108 (ac eithrio is-adrannau (1)(a), (2) a (6)), 109, 111 i 118 yn ailddeddfu darpariaethau yn Neddf Addysg 1996 mewn perthynas â'r Cwricwlwm Cenedlaethol, sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer Cwricwlwm Cenedlaethol ar wahân ar gyfer Cymru. Dygir y darpariaethau i rym ac eithrio mewn perthynas â'r cyfnod sylfaen newydd a ysgolion meithrin a gynhelir.

Mae adran 131 yn ailddeddfu a diweddaru adran 49 o Ddeddf Addysg (Rhif 2) 1986, ac mae'n galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i werthuso perfformiad athrawon.

Mae adrannau 132, 133, 134(1), (4) a (5), 135, 141 a 145 yn ymwneud â chymwysterau athrawon. Mae adran 132 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau i benderfynu pwy sydd yn athro neu athrawes gymwysedig ac yn ei gwneud yn ofynnol ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru ("y Cyngor"). Mae adran 133 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i nodi mewn rheoliadau y gwaith na all ond athrawon cymwysedig neu bersonau penodedig eraill ei gyflawni. Mae adran 134(1), (4) a (5) yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol bod athrawon cymwysedig yn cofrestru gyda'r Cyngor cyn cyflawni gwaith penodedig. Mae adran 135 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i benaethiaid fod yn athrawon cymwysedig ac yn ei gwneud yn ofynnol i benaethiaid a benodir ar ôl y dyddiad cychwyn ddal cymhwyster penodedig. Mae adran 141 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i athrawon fodloni amodau mewn perthynas â'u hiechyd a'u gallu corfforol. Mae adran 145 yn gwneud darpariaeth gyffredinol mewn perthynas â phennu cymwysterau neu gyrsiau.

Mae adran 148 ac Atodlen 12, paragraffau 2, 4(1), (3), 6 a 7 yn diwygio Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 mewn perthynas â'r Cyngor. Mae'r diwygiadau yn darparu - 

     -  ar gyfer estyn swyddogaethau ymgynghorol y Cyngor;

     -  bod y Cyngor i roi sylw i'w wariant ar ei holl swyddogaethau pan fydd yn gosod lefel ei ffioedd; a

     -  bod y Cyngor yn gallu ymgymryd â gweithgareddau i hybu statws y proffesiwn addysgu.

Mae adran 151(2) yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud gorchymyn yn pennu swyddogaethau ychwanegol y mae angen amdanynt i'w alluogi i weithredu cynllun gofal plant o dan Ddeddf Credydau Treth 2002.

Mae adran 152 ac Atodlen 13, paragraffau 1 i 3, 5, 6, 7(1) a (3) a 8 yn diwygio Deddf Plant 1989, Rhan 10A ac Atodlen 9A, sy'n gwneud darpariaeth mewn perthynas â gwarchod plant a gofal dydd. Mae'r diwygiadau'n ymwneud â chanlyniadau methu â chydsynio i wirio addasrwydd person; effaith atal cofrestriad; y pwcircer i ragnodi dyfarniadau ychwanegol a all fod yn destun apêl; hawliau mynediad i arolygwyr awdurdodedig; y pwcircer i wneud rheoliadau sy'n hepgor datgymhwyso ar gyfer cofrestru. Gwneir diwygiadau canlyniadol hefyd i Ddeddf yr Heddlu 1997 mewn perthynas â thystysgrifau record droseddol a thystysgrifau record droseddol manwl.

Mae adran 179(1), (4), (5) a (6) yn diwygio Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 i estyn hawl mynediad arolygydd i unrhyw dir neu adeilad y trefnodd ysgol i addysg gael ei darparu yno ar gyfer disgyblion 14 - 16 oed.

Mae adran 180 yn diwygio Deddf Addysg 1997 er mwyn estyn hawl mynediad arolygydd i gyflawni arolygiadau o dan adran 38 o'r Ddeddf, i dir neu adeiladau lle darperir addysg yn unol â threfniadau AALl i addysgu plant heblaw mewn ysgol.

Mae adran 188 ac Atodlen 16, paragraffau 4 i 9 yn diwygio Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996 er mwyn

     -  galluogi'r Prif Arolygydd ddefnyddio aelod o'r Arolygiaeth yn hytrach nag arolygydd cofrestredig i gyflawni arolygiad o dan adran 10 o'r Ddeddf honno, os yw o'r farn ei bod yn hwylus i wneud hynny;

     -  galluogi aelodau o'r Arolygiaeth weithredu fel aelodau o dimau sy'n cynorthwyo arolygwyr cofrestredig mewn arolygiadau ysgolion;

     -  galluogi rheoliadau i bennu personau ychwanegol y mae'n rhaid anfon copïau o adroddiadau arolygiadau ysgolion atynt;

     -  ei gwneud yn ofynnol bod copi o gynllun gweithredu'r ysgol yn cael ei anfon at y Prif Arolygydd dim ond os oes angen mesurau arbennig ar ysgol neu os oes ganddi wendidau difrifol.

Mae adran 189 ac Atodlen 17, paragraffau 5(1)  -  (4), (6) a 6 i 8 yn diwygio Rhan 5 o Ddeddf Addysg 1997 er mwyn

     -  estyn swyddogaethau Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru ("ACCAC") mewn perthynas â'r cwricwlwm ac asesu i blant o dan oedran ysgol gorfodol;

     -  galluogi ACCAC i gymryd i ystyriaeth yr angen i sicrhau nad yw nifer y cymwysterau achrededig mewn meysydd pwnc tebyg neu sy'n gwasanaethu swyddogaethau tebyg yn ormodol;

     -  galluogi ACCAC i osod amodau ar ôl iddo achredu cymwysterau;

     -  estyn hawliau mynediad ac arolygu ACCAC mewn cysylltiad â'i bwcirc er i gyfyngu ar faint y ffioedd y gall cyrff dyfarnu eu codi;

     -  rhoi pwcircer i ACCAC gyfarwyddo'r cyrff dyfarnu sydd wedi methu, neu sy'n debygol o fethu, cydymffurfio ag amodau achredu.

Mae adrannau 191 i 194 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â darpariaeth ranbarthol ar gyfer anghenion addysgol arbennig. Mae adran 191 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i gyfarwyddo AALlau i ystyried a allent wneud y ddarpariaeth ar gyfer anghenion addysgol arbennig yn fwy effeithiol drwy ddarpariaeth ranbarthol. Mae adran 192 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i gyfarwyddo AALl neu gorff llywodraethu i wneud cynigion mewn cysylltiad â sefydlu ysgol ranbarthol sy'n darparu ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig, neu mewn cysylltiad â'r trefniadau i ddarparu addysg neu nwyddau a gwasanaethau ar sail ranbarthol. Mae adran 193 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud cynigion i sicrhau darpariaeth ranbarthol. Mae adran 194 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Addysg 1996.

Mae adran 196 yn ei gwneud yn ofynnol i AALl gyhoeddi gwybodaeth a roddir iddo gan y Cynulliad Cenedlaethol, neu ddarparu gwybodaeth o'r fath i bersonau penodedig.

Mae adran 215 ac Atodlenni 21 a 22 yn gwneud mân ddiwygiadau, diwygiadau canlyniadol a diddymiadau.

Dyma fydd effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan II o'r Atodlen - 

Mae adrannau 14 i 17 a 18(2) yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i roi cymorth ariannol i unrhyw berson at ddibenion addysgol, at ddibenion sy'n berthnasol i addysg ac at ddibenion sy'n berthnasol i ofal plant.

Mae adrannau 142 i 144 a 146 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chamymddwyn. Mae adran 142 yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol, yn gyfamserol â'r Ysgrifennydd Gwladol, i wneud cyfarwyddiadau yn gwahardd person rhag gweithio mewn ysgolion, sefydliadau addysg bellach neu awdurdodau addysg lleol ar sail camymddwyn, iechyd, anaddasrwydd i weithio gyda phlant, neu mewn perthynas ag ysgolion annibynnol, ar sail anghymwysedd proffesiynol. Mae adran 143 yn gosod dyletswyddau ar gyrff, megis asiantaethau cyflenwi, i drefnu nad yw person sy'n ddarostyngedig i gyfarwyddyd yn cyflawni gwaith a fyddai'n groes iddo. Mae adran 144 yn darparu bod hawliau apêl yn erbyn gwneud y cyfarwyddiadau hynny. Cychwynnir adran 146 ond er mwyn diddymu darpariaethau yn adrannau 218 a 218A o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 sy'n ymwneud â chamymddwyn.

Mae adran 148 ac Atodlen 12, paragraff 12(1) a (2) yn diwygio Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 er mwyn galluogi'r Cyngor i glymu amodau wrth y gorchmynion atal y mae'n eu gwneud mewn achosion disgyblu.

Mae adrannau 149 a 150 yn diwygio adrannau 118 i 121 o Ddeddf 1998 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i'r AALl weithredu adolygiadau blynyddol ar ddarparu gofal plant, sefydlu gwasanaeth gwybodaeth ar ofal plant, ac er mwyn cynnwys gofal plant yn y cynlluniau a phartneriaethau datblygu'r blynyddoedd cynnar.

Mae adran 195 ac Atodlen 18, paragraffau 1, 4, 5, 7, 8, 13 i 15 yn diwygio Deddf Addysg 1996 er mwyn darparu ar gyfer Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru. Cychwynnir y darpariaethau hyn yn Ebrill 2003 at ddibenion sefydlu'r Tribiwnlys newydd yn unig, ond nid er mwyn rhoi unrhyw swyddogaethau i'r Tribiwnlys.

Mae adran 200 yn diwygio adran 457 o Ddeddf Addysg 1996 er mwyn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i ragnodi budd-daliadau neu gredydau treth mewn perthynas â dileu taliadau sy'n ymwneud â thripiau preswyl.

Mae adran 201 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chiniawau ysgol. Mae'n amnewid adrannau 512, 512ZA a 512ZB newydd yn Neddf Addysg 1996 ac yn gwneud diwygiadau canlyniadol eraill. Mae'r darpariaethau newydd yn nodi pwerau'r AALl i ddarparu prydau bwyd, llaeth a lluniaeth arall mewn ysgolion, yn cyflwyno pwcircer newydd i'r Cynulliad Cenedlaethol bennu gofynion sydd i'w bodloni cyn bod angen i AALl ddarparu ciniawau ysgol ac yn ei gwneud yn ofynnol i AALl godi tâl am brydau bwyd, llaeth a lluniaeth ac eithrio onid oes hawl gan berson i brydau bwyd di-dâl.

Mae adran 215 ac Atodlenni 21 a 22 yn gwneud mân ddiwygiadau, diwygiadau canlyniadol a diddymiadau.

Dyma fydd effaith y darpariaethau a bennir yn Rhan III o'r Atodlen - 

Mae adran 195 ac Atodlen 18, paragraffau 2, 3, 6, 8, 9 i 12 a 16 i 18 yn darparu ar gyfer sefydlu Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru ar wahân, fel y bydd yn gallu gwrando ar apelau anghenion addysgol arbennig o fis Medi 2003 ymlaen. Bydd y Tribiwnlys hefyd yn gwrando ar hawliadau ar wahaniaethu ar sail anabledd.

Mae adran 215(2) ac Atodlen 22 yn darparu ar gyfer diddymiadau.


Notes:

[1] 2002 p.32.back

[2] 1978 p.30.back

[3] 1998 p.31.back

[4] 1998 p.38.back

[5] 2000 p.21.back

[6] 1997 p.44.back

[7] 1986 p.61.back

[8] 1989 p.41.back

[9] 1992 p.13.back

[10] 1996 p.56.back

[11] 1996 p.57.back

[12] 1998 p.30.back

[13] 1998 p.31.back

[14] 2000 p. 21.back

[15] 1988 p.40.back

[16] 1988 p.40.back

[17] 1989 p.41.back

[18] 1997 p.44.back

[19] 1997 p.50.back

[20] 1999 p.14.back

[21] 1999 p.33.back

[22] 2000 p.43.back

[23] 1995 p.50.back

[24] 2001 p.10.back



English version



ISBN 0 11090613 6


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2002
Prepared 2 January 2003