Rheoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2002 © Hawlfraint y Goron 2002 Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines. Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Rheoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090612 8. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited. Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 214 o Ddeddf Addysg 2002[1]. Enw, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 19 Rhagfyr 2002. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru. Dehongli 2. - (1) Yn y Rheoliadau hyn -
(2) Yn y rheoliadau hyn mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf 2002 a'r Atodlenni iddi.
(b) caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru arfer unrhyw bwerau a roddwyd iddo gan adrannau 18(1) neu 19(1) o Ddeddf 1998 fel pe bai'r adroddiad wedi'i baratoi ar ôl y dyddiad hwnnw a bod hysbysiad wedi'i roi o dan adran 16A(2)[4] o Ddeddf 1996; (c) caiff awdurdod addysg lleol arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 14(2)(a) neu (b), 16 neu 17 o Ddeddf 1998 fel pe bai'r adroddiad wedi'i baratoi ar ôl y dyddiad hwnnw a bod hysbysiad wedi'i roi o dan adran 16A(2) o Ddeddf 1996.
Addasu darpariaeth sy'n ymwneud ag ariannu ysgolion
(4) Yn ystod cyfnod yr addasiad bydd adran 101 yn effeithiol fel pe bai paragraff (1)(b) wedi'i amnewid gan -
(5) Yn ystod cyfnod yr addasiad bydd adran 108 yn effeithiol fel pe bai'r canlynol wedi'u hepgor -
(b) yn is-adran (4), "(2) or", "the foundation stage or", "educational programme or" a "(or the timetables of any person providing funded nursery education)"; (c) yn is-adran (5) "(2) or"; (ch) yn is-adran (8) "(2)(b) (iii) or" ; (d) yn is-adran (10) "(6) or" ac "or, as the case may be, premises on which the funded nursery education is being provided"; a (dd) yn is-adran (11) "(2)(b)(iii) or" a "(6) or".
(6) Bydd paragraff 6(1) o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg 1996[5] yn effeithiol fel pe bai'r geiriau "section 351(1)" wedi'u hamnewid gan y geiriau "section 78(1) or 99(1) of the Education Act 2002".
(2) Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad y daw adran 122(3)(d) i rym[7] ac yn diweddu ar y diwrnod pan ddaw'r rheoliadau o dan adran 133 i rym, ni fydd adran 122(3)(d) yn gymwys.
Addasiad o ddarpariaeth yn ymwneud â gofal plant (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud addasiadau i ddarpariaethau Deddf Addysg 2002 ("y Ddeddf") wedi'u pennu ar gyfer cyfnod trosiannol er mwyn hwyluso dwyn darpariaethau eraill o'r Ddeddf i rym ar ddyddiad cynharach nag y caiff y darpariaethau eraill hynny o'r Ddeddf eu dwyn i rym. Maent hefyd yn gwneud darpariaethau trosiannol mewn perthynas â'r Ddeddf. Yn benodol - 1. Caiff pwerau ymyrryd mewn ysgolion sy'n peri pryder a ddiwygiwyd gan y Ddeddf eu cymhwyso mewn perthynas ag adroddiadau arolygwyr a wnaed cyn 19 Rhagfyr 2002, sef y dyddiad pan ddygir y darpariaethau newydd i rym (rheoliad 3). 2. Gwneir diwygiad i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 i gywiro croesgyfeiriad anghywir yn y diwygiad a wnaed gan adran 41(2) o'r Ddeddf (rheoliad 4). 3. Addesir Rhan 7 o'r Ddeddf (Y Cwricwlwm yng Nghymru), y dygir rhannau ohoni i rym gan Orchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2002 ("y Gorchymyn Cychwyn"), tra'n disgwyl i ddarpariaethau'r Rhan honno sy'n ymwneud â'r cyfnod sylfaen newydd, ysgolion meithrin a gynhelir ac addysg feithrin gael eu dwyn i rym (rheoliad 5(1) i (5)). Gwneir diwygiad hefyd i Ddeddf Addysg 1996 er mwyn cyfeirio at y darpariaethau cwricwlwm newydd yn y Ddeddf (rheoliad 5(6)). 4. Addesir y diffiniad newydd o "qualified teacher" yn adran 132 o'r Ddeddf (sy'n cyfeirio at "a person who satisfies requirements specified in regulations") a ddygir i rym gan y Gorchymyn Cychwyn tra'n disgwyl i'r rheoliadau o dan yr adran honno ddod i rym (rheoliad 6(1))). 5. Datgymhwysir adran 122(3)(d) o'r Ddeddf (diffiniad o "school teacher" at ddibenion yr adran honno), sy'n cyfeirio at berson sy'n cyflawni gwaith o'r math a bennir gan reoliadau o dan adran 133(1) ac a ddygir i rym gan Orchymyn yr Ysgrifennydd Gwladol (ar gyfer Cymru a Lloegr), tra'n disgwyl i'r rheoliadau hynny ddod i rym (rheoliad 6(2)). 6. Addesir cyfeiriad at gofrestru dros dro gyda'r Cyngor Addysgu Cyffredinol yn adran 134 o'r Ddeddf (gofyniad i gofrestru gyda'r Cyngor Addysgu Cyffredinol) tra'n disgwyl dwyn darpariaethau Atodlen 12 i'r Ddeddf sy'n ymwneud â chofrestru dros dro o'r fath i rym (rheoliad 7(1)). Mewn modd tebyg addesir diwygiad canlyniadol yn Atodlen 21 i'r Ddeddf honno a ddygir i rym gan y Gorchymyn Cychwyn hwnnw sy'n cyfeirio at adran 134 o'r Ddeddf tra'n disgwyl i reoliadau o dan yr adran honno ddod i rym (rheoliad 7(2)). 7. Gwneir diwygiad i Ddeddf yr Heddlu 1997 er mwyn cyfeirio'n gywir at Ddeddf Plant 1989 (rheoliad 8). Notes: [1] 2002 p. 32.back [4] Mewnosodwyd gan adran 54.back [7] Mae adran 122(3)(d) yn dod i rym ar ddyddiad a benodir gan yr Ysgrifennydd Gwladol - gweler adran 216(2). Ni phenodwyd dyddiad hyd yn hyn.back [8] Mewnosodwyd gan adran 11 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998.back [9] 1997 p.50. Diwygir yr adran hon hefyd gan baragraff 7 o Atodlen 13 i Ddeddf 2002.back
ISBN 0 11090612 8
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 31 December 2002 |