Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2002 © Hawlfraint y Goron 2002 Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines. Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2002, ISBN 0 11 090611 X. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited. Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 29 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[1] ac is-adran (2) o adran 2 o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2], a chan ei fod wedi'i ddynodi at ddibenion yr is-adran honno gan Erthygl 2 o Orchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) 2000[3] mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud ag asesu a rheoli ansawdd aer amgylchynol a chydymffurfio â gwerthoedd terfyn, gwerthoedd targed, ac amcanion, ansawdd aer, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2002. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru. Diffiniadau 2. Yn y Rheoliadau hyn -
Cyfrifoldeb dros weithredu Cyfarwyddeb Fframwaith Aer
(b) asesu ansawdd aer amgylchynol; (c) cymeradwyo dyfeisiadau mesur (dulliau, cyfarpar, rhwydweithiau a labordai); (ch) sicrhau cywirdeb mesur drwy ddyfeisiadau mesur a gwirio bod y dyfeisiadau hynny yn parhau'n gywir, yn benodol drwy reoli ansawdd yn fewnol a gyflawnir yn unol â safonau sicrwydd ansawdd cymwysadwy, gan gynnwys safonau Ewropeaidd; (d) dadansoddi dulliau asesu; a (dd) cydlynu rhaglenni sicrwydd ansawdd ledled y Gymuned Ewropeaidd yng Nghymru, ac eithrio i'r graddau y mae'r cydlynu hwnnw yn golygu cyfathrebu â'r Gymuned Ewropeaidd.
Dyletswydd i sicrhau bod ansawdd aer amgylchynol yn cael ei gwella
(b) mewn unrhyw achos arall, o'r dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
(2) Rhaid i'r mesurau a gymerir -
r a phridd;(b) peidio â thorri deddfwriaeth y Gymuned ar ddiogelu diogelwch ac iechyd gweithwyr wrth eu gwaith; ac (c) peidio â dwyn unrhyw effeithiau negyddol arwyddocaol ar yr amgylchedd yn yr Aelod-wladwriaethau eraill.
Asesu ansawdd aer amgylchynol
(b) drwy gyfuniad o fesuriadau a thechnegau modelu; neu (c) drwy ddefnyddio technegau modelu neu dechnegau amcangyfrif gwrthrychol yn unig.
(2) Rhaid i fesuriadau gael eu defnyddio i asesu ansawdd yr aer amgylchynol mewn perthynas â llygryn perthnasol mewn parth -
(b) os yw lefelau'r llygryn yn y parth rhwng y gwerthoedd terfyn perthnasol a'r trothwyon asesu uchaf; neu (c) os yw lefelau'r llygryn hwnnw yn y parth yn uwch na gwerthoedd terfyn y llygryn hwnnw.
(3) Gellir defnyddio cyfuniad o fesuriadau a thechnegau modelu i asesu ansawdd yr aer amgylchynol mewn unrhyw barth mewn perthynas â llygryn perthnasol os yw lefelau'r llygryn hwnnw dros gyfnod cynrychioliadol yn is na'r trothwyon asesu uchaf perthnasol.
(b) mai sylffwr deuocsid neu nitrogen deuocsid yw'r llygryn sy'n cael ei asesu.
(5) Rhaid penderfynu ar y trothwyon asesu uchaf ac isaf ar gyfer y llygrynnau perthnasol yn unol ag Atodlen 2.
(b) os PM10 yw'r llygryn perthnasol, gellir dynodi'r parth -
(ii) o dan yr is-baragraff hwn[7] os bydd crynodiadau o PM10 yn yr aer amgylchynol oherwydd ail?ddal gronynnau ar ôl i ffyrdd gael eu trin â thywod yn y gaeaf yn sylweddol uwch na'r lefelau cefndir arferol o ffynonellau naturiol.
Adolygu dosbarthiadau
(b) rhaid i nifer y mesuriadau fod yn ddigon mawr i ganiatáu darganfod lefelau'r llygryn hwnnw yn gywir.
(3) Bydd Atodlen 3 yn effeithiol er mwyn penderfynu ar leoliad y pwyntiau samplu ar gyfer y llygrynnau perthnasol.
(b) samplu a dadansoddi plwm; (c) samplu a mesur PM10; (ch) samplu a dadansoddi bensen; a (d) dadansoddi carbon monocsid
yn Atodlen 6, a rhaid i'r dulliau hyn gael eu defnyddio oni bai bod dulliau eraill yn cael eu defnyddio y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu bod modd dangos eu bod yn rhoi canlyniadau cyfwerth.
(b) na'r gwerth terfyn plws y goddefiant a ddangosir yn Atodlen 1, mewn unrhyw achos arall.
(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio rhestr o barthau lle mae lefelau un neu ragor o'r llygrynnau perthnasol rhwng y gwerth terfyn a'r gwerth terfyn plws unrhyw oddefiant.
(b) ym mhob achos arall, bob dydd o leiaf.
(3) Rhaid i'r wybodaeth am grynodiadau amgylchynol plwm cael ei diweddaru bob tri mis.
(b) ym mhob achos arall, bob tri mis o leiaf.
(5) Rhaid i'r wybodaeth am grynodiadau amgylchynol carbon monocsid, fel gwerth cyfartalog cyfredol dros wyth awr, gael ei diweddaru -
(b) ym mhob achos arall, bob dydd o leiaf.
(6) Rhaid i'r wybodaeth y trefnir ei bod ar gael o dan baragraff (1) gynnwys -
(b) asesiad byr o'r enghreifftiau hynny lle'r aed yn uwch na'r gwerthoedd a'r trothwyon a'r effeithiau a gawsant ar iechyd.
(7) Pan eir yn uwch na throthwy rhybuddio, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod y camau angenrheidiol yn cael eu cymryd i roi gwybod i'r cyhoedd, a rhaid i'r wybodaeth y trefnir ei bod ar gael gynnwys o leiaf yr wybodaeth a bennir ym mharagraffau 1.3 o Ran I a 2.3 o Ran II o Atodlen 1.
(b) diddymir rheoliad 6 (gwerth terfyn ar gyfer nitrogen deuocsid yn yr atmosffer) gydag effaith o 1 Ionawr 2010 ymlaen.
(3) Tan 1 Ionawr 2005, os caiff y dulliau a ragnodir gan y Rheoliadau hyn ar gyfer asesu mater gronynnol mewn daliant eu defnyddio er mwyn dangos cydymffurfedd ag Atodiad IV i Gyfarwyddeb 80/779/EEC dyddiedig 15 Gorffennaf 1980 ynghylch gwerthoedd terfyn ansawdd aer a gwerthoedd bras ar gyfer cyfanswm y gronynnau mewn daliant[11], rhaid i'r data a gesglir fel hyn gael ei luosi â ffactor o 1.2.
(b) yr oedd cam o'r fath wedi'i gymryd gan y Cynulliad Cenedlaethol cyn i'r Rheoliadau hyn ddirymu'r Rheoliadau hynny; ac (c) y mae'r ddarpariaeth dan sylw yn cael ei hailddeddfu gan y Rheoliadau hyn,
mae'r cam i'w drin, at ddibenion y Rheoliadau hyn, fel pe bai wedi'i gymryd o dan y Rheoliadau hyn. 1.1 Gwerthoedd terfyn ar gyfer sylffwr deuocsid
1.2 Trothwy rhybuddio ar gyfer sylffwr deuocsid 500 µg/m3 wedi'i fesur dros dair awr o'r bron mewn mannau sy'n gynrychioliadol o ansawdd yr aer dros o leiaf 100 km2 neu barth neu grynhoad cyfan, p'un bynnag yw'r lleiaf. 1.3 Isafswm y manylion y mae'n rhaid trefnu eu bod ar gael i'r cyhoedd pan eir yn uwch na'r trothwy rhybuddio ar gyfer sylffwr deuocsid Dylai'r manylion y mae'n rhaid trefnu eu bod ar gael i'r cyhoedd gynnwys o leiaf : - dyddiad, awr a lle y digwyddiad a'r rhesymau drosto, os ydynt yn hysbys; - unrhyw ragolygon ar gyfer:
- yr ardal ddaearyddol o dan sylw, - parhad y digwyddiad; - y math o boblogaeth a allai fod yn sensitif i'r digwyddiad; - rhagofalon sydd i'w cymryd gan y boblogaeth sensitif o dan sylw.
2.1 Gwerthoedd terfyn ar gyfer nitrogen deuocsid ac ocsidau nitrogen
2.2 Trothwy rhybuddio ar gyfer nitrogen deuocsid 400 µg/m3 wedi'i fesur dros dair awr o'r bron mewn lleoliadau sy'n gynrychioliadol o ansawdd yr aer dros o leiaf 100 km2 neu barth neu grynhoad cyfan, p'un bynnag yw'r lleiaf. 2.3 Isafswm y manylion y mae'n rhaid trefnu eu bod ar gael i'r cyhoedd pan eir yn uwch na'r trothwy rhybuddio ar gyfer nitrogen deuocsid Dylai'r manylion y mae'n rhaid trefnu eu bod ar gael i'r cyhoedd gynnwys o leiaf: - dyddiad, awr a lle y digwyddiad a'r rhesymau drosto, os ydynt yn hysbys; - unrhyw ragolygon ar gyfer:
- yr ardal ddaearyddol o dan sylw, - parhad y digwyddiad; - y math o boblogaeth a allai fod yn sensitif i'r digwyddiad; - y rhagofalon sydd i'w cymryd gan y boblogaeth sensitif o dan sylw.
Detholir crynodiad mwyafswm cymedr o 8-awr yn ddyddiol drwy archwilio cyfartaleddau cyfredol 8-awr, wedi'u cyfrifo o ddata fesul awr a'u diweddaru bob awr. Priodolir pob 8-awr gyfartalog a gyfrifir felly i'r diwrnod pan ddaw i ben, h.y. y cyfnod cyfrifo cyntaf ar gyfer unrhyw ddiwrnod fydd y cyfnod o 17:00 ar y diwrnod blaenorol hyd at 01:00 ar y diwrnod hwnnw; y cyfnod cyfrifo olaf ar gyfer unrhyw ddiwrnod fydd y cyfnod o 16:00 hyd at 24:00 ar y diwrnod hwnnw. Bydd y trothwyon asesu uchaf ac isaf canlynol yn gymwys:
(b) NITROGEN DEUOCSID (NO2) AC OCSIDAU NITROGEN (NOx)
(c) MATER GRONYNNOL[14] (PM10)
(d) PLWM (Pb)
(e) BENSEN (C6H6)
(f) CARBON MONOCSID (CO)
Rhaid crynhoi gormodeddau sy'n uwch na'r trothwyon asesu uchaf ac isaf ar sail crynodiadau yn ystod y pum mlynedd blaenorol os oes data digonol ar gael. Bernir yr aed yn uwch na'r trothwy asesu os bu gormodedd yn ystod o leiaf tair blwyddyn wahanol allan o'r pum mlynedd flaenorol. Os oes llai na phum mlynedd o ddata ar gael, gall ymgyrchoedd mesur byr eu parhad yn ystod y cyfnod hwnnw yn y flwyddyn ac yn y mannau sy'n debyg o fod yn nodweddiadol o'r lefelau llygredd uchaf gael eu cyfuno â chanlyniadau a geir o'r wybodaeth o restrau allyriannau a gwaith modelu er mwyn canfod gormodeddau sy'n uwch na'r trothwyon asesu uchaf ac isaf. Caiff yr ystyriaethau canlynol eu cymhwyso at fesuriadau sefydlog.
Dylai pwyntiau samplu a gyferir at ddiogelu iechyd pobl gael eu lleoli:
(ii) i ddarparu data am lefelau mewn ardaloedd eraill yn y parthau a'r crynoadau sy'n gynrychioliadol o ddatguddiad y boblogaeth gyffredinol.
Yn gyffredinol dylai pwyntiau samplu gael eu lleoli i osgoi mesur micro-amgylcheddau bach iawn yn y cyffiniau. Fel canllaw, dylai pwynt samplu gael ei leoli i fod yn gynrychioliadol o ansawdd yr aer mewn ardal amgylchynol heb fod yn llai na 200 m2 ar safleoedd sy'n ymwneud â thraffig ac o sawl cilometr sgwâr ar safleoedd â chefndir trefol.
Dylid bodloni'r canllawiau canlynol cyn belled ag y bo'n ymarferol: - dylai'r llif o amgylch profiedydd samplu y fewnfa fod yn ddigyfyngiad heb unrhyw rwystrau sy'n effeithio ar lif yr aer yng nghyffiniau'r samplwr (rai metrau i ffwrdd fel rheol o adeiladau, balconïau, coed, a rhwystrau eraill ac o leiaf 0.5m o'r adeilad agosaf yn achos pwyntiau samplu sy'n cynrychioli ansawdd yr aer ar linell yr adeiladau); - yn gyffredinol, dylai pwynt samplu'r fewnfa fod rhwng 1.5 m (y parth anadlu) a 4 m uwchlaw'r ddaear. Gall fod angen safleoedd uwch (hyd at 8 m) o dan rai amgylchiadau. Gall safle uwch fod yn briodol hefyd os yw'r orsaf yn cynrychioli ardal fawr; - ni ddylai profiedydd y fewnfa gael ei leoli yng nghyffiniau ffynonellau er mwyn osgoi mewnlifiad uniongyrchol o allyriannau sydd heb eu cymysgu â'r aer amgylchynol; - dylai allfa wacáu y samplwr gael ei lleoli er mwyn osgoi ailgylchu'r aer o'r allfa i fewnfa'r samplwr; - lleoli samplwr sy'n anelu at draffig: - ar gyfer pob llygryn, dylai'r pwyntiau samplu hyn fod o leiaf 25 m o ymyl cyffyrdd pwysig ac o leiaf 4 m o ganol y lôn draffig agosaf, - ar gyfer nitrogen deuocsid a carbon monocsid ni ddylai'r mewnfeydd fod yn fwy na 5 m o ymyl y cwrbyn, - ar gyfer mater gronynnol beulsen a phlwm, dylid lleoli'r mewnfeydd i fod yn gynrychioliadol o ansawdd yr aer yn ymyl llinell yr adeiladau. Gall y ffactorau canlynol gael eu cymryd i ystyriaeth hefyd: - ffynonellau sy'n ymyrryd; - diogelwch; - hygyrchedd; - a oes p er trydan a chysylltiadau ffôn ar gael;- gwelededd y safle mewn perthynas â'i amgylchoedd; - diogelwch y cyhoedd a'r gweithredwyr; - a yw'n ddymunol cyd-leoli pwyntiau samplu gwahanol lygrynnau; - gofynion cynllunio. Dylai'r gweithdrefnau ar gyfer dewis safleoedd gael eu dogfennu'n llawn adeg y dosbarthu drwy gyfrwng megis ffotograffau pwynt-cwmpawd o'r ardal amgylchynol a map manwl. Dylid adolygu'r safleoedd yn rheolaidd, gan ailadrodd y gwaith dogfennu, i sicrhau bod y meini prawf dewis yn aros yn ddilys dros amser.
(b) Ffynonellau pwynt I asesu llygredd yng nghyffiniau ffynonellau pwynt, dylid cyfrifo nifer y pwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog gan gymryd i ystyriaeth ddwyseddau allyriannau, patrymau dosbarthiad tebygol y llygredd yn yr aer amgylchynol a datguddiad posibl y boblogaeth.
Mewn parthau ar ynysoedd, dylid cyfrifo nifer y pwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog gan gymryd i ystyriaeth batrymau dosbarthiad tebygol y llygredd yn yr aer amgylchynol a datguddiad posibl yr ecosystemau neu'r llystyfiant. Mae'r amcanion ansawdd-data canlynol ar gyfer y cywirdeb y mae ei angen ar gyfer dulliau asesu, yr isafsymiau amser a'r gwaith cofnodi data yn sgil mesur yn cael eu nodi er mwyn arwain rhaglenni sicrwydd ansawdd.
Diffinnir cywirdeb y gwaith mesur fel y mae wedi'i nodi yn y "Guide to the Expression of Uncertainty of Measurements" (ISO 1993)[15] neu ISO 5725-1 "Accuracy (trueness and precision) of measurement methods and results" (ISO 1994)[16]. Mae'r canrannau yn y tabl yn cael eu rhoi ar gyfer mesuriadau unigol wedi'u cyfartaleddu, dros y cyfnod a ystyrir, gan y gwerth terfyn, i gael cyfwng hyder o 95% (bias + dwy waith y gwyriad safonol). Dylai'r cywirdeb ar gyfer mesuriadau di-dor gael ei ddehongli fel pe bai'n gymwysadwy yng nghyffiniau'r gwerth terfyn priodol. Mae'r cywirdeb ar gyfer modelu ac amcangyfrif gwrthrychol wedi'i ddiffinio fel yr uchafswm amrywiadau ar y lefelau crynodiadau a gyfrifir ac a fesurir, dros y cyfnod a ystyrir gan y gwerth terfyn, heb gymryd amseriad y digwyddiadau i ystyriaeth. Nid yw'r gofynion ar gyfer isafsymiau cofnodi data ac isafsymiau amser yn cynnwys colli data wrth i'r offer gael eu calibradu neu eu cynnal-a-chadw fel rhan o'r drefn. Gall y Cynulliad Cenedlaethol ganiatáu gwneud mesuriadau ar hap yn lle mesuriadau di-dor ar gyfer mater gronynnol a phlwm drwy ddulliau y dangoswyd bod eu cywirdeb o fewn y cyfwng hyder 95% mewn perthynas â monitro di-dor wedi bod o fewn 10%. Rhaid i samplu ar hap gael ei gynnal yn gyson dros y flwyddyn. Mae'r amcanion ansawdd-data canlynol ar gyfer yr ansicrwydd a ganiateir ar gyfer dulliau asesu, yr isafsymiau amser a'r gwaith cofnodi data yn sgil mesur yn cael eu nodi er mwyn arwain rhaglenni sicrwydd ansawdd.
Caiff ansicrwydd (mewn cyfwng hyder o 95%) y dulliau asesu eu gwerthuso yn unol â'r "Guide to the Expression of Uncertainty of Measurements" (ISO 1993)[17] neu fethodoleg ISO 5725:1994[18]. Mae'r canrannau ar gyfer ansicrwydd yn y tabl uchod yn cael eu rhoi ar gyfer mesuriadau unigol wedi'u cyfartaleddu dros y cyfnod a ystyrir gan y gwerth terfyn, i gael cyfwng hyder o 95%. Dylai'r ansicrwydd ar gyfer y mesuriadau sefydlog gael ei ddehongli fel pe bai'n gymwysadwy yng nghyffiniau'r gwerth terfyn priodol. Mae'r ansicrwydd ar gyfer modelu ac amcangyfrif gwrthrychol wedi'i ddiffinio fel yr uchafswm amrywiadau ar y lefelau crynodiadau a gyfrifir ac a fesurir, dros y cyfnod a ystyrir, gan y gwerth terfyn, heb gymryd amseriad y digwyddiadau i ystyriaeth. Nid yw'r gofynion ar gyfer isafsymiau cofnodi data ac isafsymiau amser yn cynnwys colli data wrth i'r offer gael eu calibradu neu eu cynnal-a-chadw fel rhan o'r drefn. Gall y Cynulliad Cenedlaethol ganiatáu gwneud mesuriadau ar hap yn lle mesuriadau di-dor ar gyfer bensen os yw'r ansicrwydd, gan gynnwys yr ansicrwydd oherwydd samplu ar hap, yn cyrraedd yr amcan ansawdd o 25%. Rhaid i samplu ar hap gael ei gynnal yn gyson dros y flwyddyn. Dylai'r wybodaeth ganlynol gael ei llunio ar gyfer parthau neu grynoadau y defnyddir ffynonellau heblaw mesuriadau ynddynt i gydategu'r wybodaeth o fesuriadau neu fel yr unig ddull o asesu ansawdd yr aer: - disgrifiad o'r gweithgareddau asesu a wnaed; - y dulliau penodol a ddefnyddiwyd, gan gyfeirio at ddisgrifiadau o'r dull; - y ffynonellau data a gwybodaeth; - disgrifiad o'r canlyniadau, gan gynnwys y cywirdebau ac, yn benodol, hyd a lled unrhyw ardal neu, os yw'n berthnasol, hyd y ffordd yn y parth neu'r crynhoad lle mae'r crynodiadau'n uwch na'r gwerth(oedd) terfyn neu, yn ôl fel y digwydd, y gwerth(oedd) terfyn plws goddefiant/goddefiannau cymwysadwy a hyd a lled unrhyw ardal lle mae'r crynodiadau'n uwch na'r trothwy asesu uchaf neu'r trothwy asesu isaf; - ar gyfer gwerthoedd terfyn sy'n anelu at ddiogelu iechyd pobl, y boblogaeth a allai gael ei datguddio i grynodiadau sydd yn uwch na'r gwerth terfyn. Os oes modd rhaid llunio mapiau sy'n dangos dosbarthiadau'r crynodiadau ym mhob parth a chrynhoad. ISO/FDIS 10498 (Safon ar ffurf drafft) Ambient air - determination of sulphur dioxide - ultraviolet fluorescence method[19]. ISO 7996: 1985 Ambient air - determination of the mass concentrations of nitrogen oxides - chemiluminescence method.[20] Y dull cyfeirio ar gyfer samplu plwm fydd y dull a ddisgrifir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb 82/884/EEC[21] nes yr amser pryd y mae'n rhaid cyrraedd y gwerth terfyn yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn, pryd y bydd y dull cyfeirio yr un fath ag ar gyfer PM10 sydd wedi'i nodi yn Rhan IV o'r Atodlen hon. ISO 9855: 1993 Ambient air - Determination of the particulate lead content of aerosols collected in filters. Atomic absorption spectroscopy method[22]. Y dull cyfeirio ar gyfer samplu a mesur PM10 fydd y dull a ddisgrifir yn EN 12341 "Air Quality - Field Test Procedure to Demonstrate Reference Equivalence of Sampling Methods for the PM10 fraction of particulate matter"[23]. Mae'r egwyddor fesur wedi'i seilio ar gasglu'r gyfran PM10 o fater gronynnol amgylchynol ar hidlwr a darganfod y màs grafimetrig. Y dull cyfeirio ar gyfer samplu bensen fydd samplu pwmpio ar getrisen sorbent a ddilynir gan benderfyniad cromatograffig nwy. Y dull cyfeirio ar gyfer mesur bensen fydd dull wedi'i seilio ar y dull sbectrometrig anwasgarol is-goch (NDIR). 1. Lleoli llygredd gormodol - rhanbarth - dinas (map) - gorsaf fesur (map, cyfesurynnau daearyddol). 2. Gwybodaeth gyffredinol - y math o barth (dinas, ardal ddiwydiannol neu wledig) - amcangyfrif o'r ardal lygredig (km2) ac o'r poblogaethau sydd wedi'u datguddio i'r llygredd - data defnyddiol am yr hinsawdd - data perthnasol am y dopograffeg - digon o wybodaeth am y math o dargedau y mae angen eu diogelu yn y parth. 3. Yr awdurdodau cyfrifol Enwau a chyfeiriadau'r personau sy'n gyfrifol am ddatblygu cynlluniau gwella a'u rhoi ar waith. 4. Natur y llygredd a'i asesu - y crynodiadau a welwyd dros y blynyddoedd blaenorol (cyn gweithredu'r mesurau gwella) - y crynodiadau a fesurwyd ers dechrau'r project - y technegau a ddefnyddiwyd ar gyfer yr asesu. 5. Tarddiad y llygredd - rhestr o'r prif ffynonellau allyrru sy'n gyfrifol am y llygredd (map) - cyfanswm yr allyriannau o'r ffynonellau hyn (tunelli y flwyddyn) - gwybodaeth am lygredd sydd wedi'i fewnforio o ranbarthau eraill. 6. Dadansoddiad o'r sefyllfa - manylion y ffactorau hynny sy'n gyfrifol am y gormodedd (trafnidiaeth, gan gynnwys trafnidiaeth ar draws ffiniau, ei ffurfiant) - manylion y mesurau posibl ar gyfer gwella ansawdd yr aer. 7. Manylion y mesurau neu'r projectau ar gyfer gwelliannau a oedd yn bodoli cyn 21 Tachwedd 1996 - mesurau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol, rhyngwladol - yr effeithiau a welwyd yn sgil y mesurau hynny. 8. Manylion y mesurau neu'r projectau hynny a fabwysiadwyd gyda golwg ar leihau llygredd ar ôl 21 Tachwedd 1996 - rhestr a disgrifiad o'r holl fesurau a nodwyd yn y project - amserlen ar gyfer gweithredu - amcangyfrif o'r gwelliant y bwriedir ei gael yn ansawdd yr aer ac o'r amser y disgwylir y bydd ei angen i gyrraedd yr amcanion hynny. 9. Manylion y mesurau neu'r projectau sydd wedi'u cynllunio neu sy'n cael eu hymchwilio at y tymor hir. 10. Rhestr o'r cyhoeddiadau, y dogfennau, y gwaith, etc. a ddefnyddiwyd i gydategu'r wybodaeth y gofynnwyd amdani yn yr Atodlen hon. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r rheoliadau hyn yn gweithredu, yng Nghymru, Gyfarwyddeb y Cyngor 96/62/EC ynghylch asesu a rheoli ansawdd aer amgylchynol, Cyfarwyddeb y Cyngor 99/30/EC ynghylch gwerthoedd terfyn ar gyfer sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid ac ocsidau nitrogen, mater gronynnol a phlwm mewn aer amgylchynd, a Chyfarwyddeb y Cyngor 2000/69/EC ynghylch gwerthoedd terfyn ar gyfer bensen a charbon monocsid mewn aer amgylchynol. Maent yn disodli Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2683) (Cy. 224), a oedd yn rhoi Cyfarwyddebau'r Cyngor 96/62/EC a 99/30/EC ar waith yn effeithiol o 19 Gorffennaf 2001 ymlaen. Mae rheoliad 3 yn dynodi Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") fel yr awdurdod cymwys ar gyfer gweithredu Erthygl 3 (gweithredu a chyfrifoldebau) o Gyfarwyddeb y Cyngor 96/62/EC. Mae rheoliad 4 yn gosod dyletswydd ar y Cynulliad Cenedlaethol i gymryd y mesurau sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau na fydd ym mhob parth yng Nghymru grynodiadau o sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid ac ocsidau nitrogen, mater gronynnol, plwm, bensen a charbon monocsid ("y llygrynnau perthnasol") yn uwch na'r gwerthoedd terfyn. Nodir gwerthoedd terfyn pob llygryn, ac erbyn pa bryd y mae'n rhaid eu cyrraedd, yn Atodlen 1. Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod yr aer amgylchynol yn cael ei asesu ar gyfer pob parth. Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol ddosbarthu pob parth mewn perthynas â phob un o'r llygrynnau perthnasol. Mae'n darparu, ynghyd ag Atodlen 2, ar gyfer pennu'r trothwyon asesu uchaf ac isaf ar gyfer pob llygryn perthnasol. Mae rheoliad 6 hefyd yn nodi'r gofynion ar gyfer mesur ansawdd aer, neu ei asesu fel arall, yn dibynnu ar lefelau'r llygredd mewn perthynas â'r trothwyon hyn. Mae hefyd yn darparu ar gyfer dynodi parthau nad yw'n ofynnol cael rhaglenni gweithredu ar eu cyfer mewn amgylchiadau penodol, er bod sylffwr deuocsid neu ronynnau yn y parthau hynny yn uwch na'r gwerthoedd terfyn. Mae rheoliad 7 yn gosod dyletswydd ar y Cynulliad Cenedlaethol i adolygu dosbarthiad y parthau bob pum mlynedd neu os ceir newidiadau arwyddocaol sy'n effeithio ar lefelau unrhyw un o'r llygrynnau perthnasol. Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod dulliau penodedig yn cael eu defnyddio i asesu ansawdd yr aer ar gyfer pob llygryn ym mhob parth. Mae Atodlen 3 yn nodi sut y mae'n rhaid pennu'r pwyntiau samplu ar gyfer y llygrynnau perthnasol. Mae Atodlen 4 yn nodi'r meini prawf ar gyfer isafswm nifer y pwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog i asesu cydymffurfedd â'r gwerthoedd terfyn mewn parthau lle nad oes unrhyw ffynhonnell wybodaeth arall, ac â gwerthoedd terfyn ar gyfer diogelu ecosystemau neu lystyfiant mewn parthau penodol eraill. Yn Atodlen 5 gwneir darpariaeth ar gyfer amcanion ansawdd data ar gyfer cywirdeb angenrheidiol y dulliau asesu, ac ar gyfer llunio canlyniadau'r asesiadau ansawdd aer. Mae Atodlen 6 yn rhagnodi'r dulliau cyfeirio ar gyfer dadansoddi'r llygrynnau perthnasol, eu samplu neu eu mesur. Mae rheoliad 8(7) yn gosod dyletswydd ar y Cynulliad Cenedlaethol i sicrhau bod gorsafoedd mesur yn cyflenwi data ar grynodiadau mater gronynnol PM2.5. Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio cynlluniau gweithredu sy'n nodi mesurau sydd i'w cymryd yn y tymor byr os oes risg o fynd yn uwch na'r gwerthoedd terfyn ar gyfer unrhyw un o'r llygrynnau perthnasol, neu'r trothwyon rhybuddio ar gyfer sylffwr deuocsid neu nitrogen deuocsid. Nodir trothwyon rhybuddio sylffwr deuocsid a nitrogen deuocsid ym mharagraff 1.2 o Ran I a pharagraff 2.2 o Ran II o Atodlen 1, yn y drefn honNo. Mae rheoliad 10 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio rhestrau o barthau lle mae lefelau un neu ragor o'r llygrynnau perthnasol yn uwch na'r gwerth terfyn, neu rhwng y gwerth terfyn ac unrhyw oddefiant a ddangosir yn Atodlen 1. Ar gyfer parthau o'r fath, mae rheoliad 10 yn gosod dyletswydd ar y Cynulliad Cenedlaethol i lunio cynllun neu raglen, y mae'n rhaid iddynt gynnwys o leiaf yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 7 (gan gynnwys lleoliad a tharddiad y llygredd, yr awdurdodau cyfrifol a'r mesurau a gymerwyd i fynd i'r afael â'r llygredd). Mae rheoliad 11 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol restru parthau lle mae lefelau'r llygrynnau perthnasol o dan y gwerthoedd terfyn, a hynny er mwyn sicrhau bod lefelau'r llygrynnau hyn yn cael eu cadw o dan y gwerthoedd terfyn, ac er mwyn ymdrechu i gadw'r ansawdd aer amgylchynol orau sy'n gydnaws â datblygu cynaliadwy. Mae rheoliad 12 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau y trefnir bod yr wybodaeth ddiweddaraf am grynodiadau amgylchynol pob un o'r llygrynnau perthnasol ar gael i'r cyhoedd, a hynny fel rhan o'r drefn. Mae'n rhagnodi amlder a chynnwys yr wybodaeth hon. Os eir yn uwch na'r trothwyon rhybuddio ar gyfer sylffwr deuocsid neu nitrogen deuocsid, rhaid darparu gwybodaeth bellach, a nodir ym mharagraffau 1.3 o Ran I a 2.3 o Ran II o Atodlen 1. Mae'r wybodaeth hon yn cynnwys manylion lle ac amser y digwyddiad, rhagolygon, a'r rhagofalon sydd i'w cymryd gan boblogaethau sensitif. Mae rheoliad 13 yn diddymu Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2001. Mae hefyd, ar gyfer Cymru, ac ar y dyddiadau a bennir, yn diddymu rhannau o Reoliadau Safonau Ansawdd Aer 1989; cafodd rhannau eraill o'r rheoliadau hynny eu diddymu gan Reoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2001. Yr oedd Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer 1989, fel y'u diwygiwyd gan O.S. 1995/3146, yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 80/779/EEC ynghylch gwerthoedd terfyn ansawdd aer a chanllawiau ar gyfer sylffwr deuocsid a gronynnau mewn daliant; Cyfarwyddeb y Cyngor 82/884/EEC ynghylch gwerth terfyn ar gyfer plwm yn yr aer; a Chyfarwyddeb y Cyngor 85/203/EEC ynghylch safonau ansawdd aer ar gyfer nitrogen deuocsid. Mae'r Cyfarwyddebau hyn wedi'u diddymu, gyda darpariaethau trosiannol hyd at 2005 a 2010, gan Gyfarwyddeb y Cyngor 99/30/EC. Lle y cymerodd y Cynulliad Cenedlaethol gam o dan Reoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2001, o dan ddarpariaeth o'r Rheoliadau hynny sydd wedi ei hailddeddfu gan y Rheoliadau hyn, mae i'w drin fel cam sydd wedi ei gymryd o dan y Rheoliadau hyn. Er enghraifft, mae'r dosbarthu parthau o ran llygrynnau perthnasol a wnaed o dan reoliad 5 o Reoliadau 2001 i'w drin fel pe bai wedi'i wneud o dan reoliad 6 o'r Rheoliadau hyn. Mae'r ddyletswydd i adolygu'r dosbarthiad hwnnw bob 5 mlynedd felly yn gymwys drwy gyfeirio at ddyddiad y dosbarthu gwreiddiol. Mae nifer o ddarpariaethau yn y ddeddfwriaeth sydd eisoes yn bodoli yn rhoi pwerau i gyrff cyhoeddus sy'n berthnasol ar gyfer cyrraedd y gwerthoedd terfyn ar gyfer sylffwr deuocsid, nitrogen deuocsid ac ocsidau nitrogen, mater gronynnol, plwm, bensen a charbon monocsid yn yr aer amgylchynol. Dyma'r mwyaf nodedig ohonynt - 1. Darpariaethau sy'n rhoi p er i'r awdurdodau lleol -
(b) ar gyfer rheoli allyriannau mwg o dan Ddeddf Aer Glân 1993 (p.11); (c) ar gyfer cymryd materion ansawdd aer i ystyriaeth wrth wneud cynlluniau ar gyfer cynllunio defnyddio tir a thrafnidiaeth; (ch) ar gyfer rheoli twf traffig ac ar gyfer rheoli traffig, o dan Ddeddf Lleihau Traffig Ffyrdd 1997 (p.54), Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (p.27) a Deddf Traffig Ffyrdd 1991 (p.40).
2.
Rheoli allyriannau diwydiannol -
(b) gan Asiantaeth yr Amgylchedd a'r awdurdodau lleol drwy ddefnyddio "integrated pollution prevention and control" o dan Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 (p.24) a Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (Cymru a Lloegr) 2000 (O.S. 2000/1973).
3.
Rheoli allyriannau trafnidiaeth Notes: [1] 1998 p.38.back [4] OJ Rhif L296, 21.11.96, t. 55.back [5] Gweler rheoliad 10(8).back [6] Gweler rheoliad 10(10).back [7] Gweler rheoliad 10(11).back [8] Gosododd rheoliad 9(3) o Reoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2001 ddyletswydd gyfatebol i baratoi cynllun neu raglen ar gyfer cyrraedd y gwerthoedd terfyn perthnasol, o ran y llygrynnau hyn, erbyn dyddiadau cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.back [9] O.S. 2001/2683 (Cy. 224).back [10] O.S. 1989/317, a ddiwygiwyd gan O.S. 1995/3146 ac a ddiddymwyd yn rhannol, mewn perthynas â Chymru, gan O.S. 2001/2683 (Cy. 224).back [11] OJ L229, 30.8.1980, t.30.back [13] Mae'r ffigurau ar gyfer Goddefiannau ar gyfer pob un o'r llygrynnau perthnasol a roddir yn yr Atodlen hon wedi'u cyfrifo o'r rhai a roddir yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 99/30/EC ac Atodiadau I a II o Gyfarwyddeb 2000/69/EC.back [14] Mae'r trothwyon asesu uchaf ac isaf ar gyfer PM10 wedi'u seilio ar y gwerthoedd terfyn dangosol ar gyfer 1 Ionawr 2010, a gaiff eu hadolygu yng ngoleuni gwybodaeth bellach am yr effeithiau ar iechyd a'r amgylchedd, ymarferoldeb technegol a phrofiad wrth gymhwyso gwerthoedd terfyn presennol "Cyfnod 1". Gweler Erthygl 10 o Gyfarwyddeb 99/30/EC.back [15] Gellir prynu copïau o'r cyhoeddiad hwn gan y Corff Safonau Rhyngwladol oddi wrth Adran Werthiannau Sefydliad Safonau Prydain "BSI" naill ai dros y ffôn ar 020 8996 9001 neu drwy'r post oddi wrth y BSI, Standards House, 389 Chiswick High Road, Llundain W4 4AL.back [16] Gellir prynu copïau o'r cyhoeddiad hwn gan y Corff Safonau Rhyngwladol oddi wrth Adran Werthiannau Sefydliad Safonau Prydain "BSI" fel yn nhroednodyn (a) uchod.back [17] Gellir prynu copïau o'r cyhoeddiad hwn gan y Corff Safonau Rhyngwladol oddi wrth Adran Werthiannau Sefydliad Safonau Prydain "BSI" naill ai dros y ffôn ar 020 8996 9001 neu drwy'r post oddi wrth y BSI, Standards House, 389 Chiswick High Road, Llundain W4 4AL.back [18] Gellir prynu copïau o'r cyhoeddiad hwn gan y Corff Safonau Rhyngwladol oddi wrth Adran Werthiannau Sefydliad Safonau Prydain "BSI" fel yn nhroednodyn (a) uchodback [19] Gellir prynu copïau o'r cyhoeddiad hwn gan y Corff Safonau Rhyngwladol oddi wrth Adran Werthiannau Sefydliad Safonau Prydain "BSI" naill ai dros y ffôn ar 020 8996 9001 neu drwy'r post oddi wrth y BSI, Standards House, 389 Chiswick High Road, Llundain W4 4AL.back [20] Gellir prynu copïau o'r cyhoeddiad hwn gan y Corff Safonau Rhyngwladol oddi wrth Adran Werthiannau Sefydliad Safonau Prydain "BSI" fel yn nhroednodyn (a) uchod.back [21] OJ L378, 31.12.1982, p.15.back [22] Gellir prynu copiau o'r cyhoeddiad hwn gan y Corff Safonau Rhyngwladol oddi wrth Adran Werthiannau Sefydliad Safonau Prydain "BSI" naill ai dros y ffôn ar 020 8996 9001 neu drwy'r post oddi wrth y BSI, Standards House, 389 Chiswick High Road, Llundain W4 4AL.back [23] Cyhoeddiad y "CEN", Sefydliad Safonau Ewrop, cyfeirnod BSEN 12341, sydd ar gael oddi wrth Sefydliad Safonau Prydain "BSI" fel ar gyfer troednodyn (b) uchod.back
ISBN 0 11 090611 X
| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 2 January 2003 |