Offerynnau Statudol 2002 Rhif 3182 (Cy.298)

      Rheoliadau Ansawdd Aer (Diwygio) (Cymru) 2002


      © Hawlfraint y Goron 2002

      Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines.

      Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Rheoliadau Ansawdd Aer (Diwygio) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090610 1. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited.

      Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2002 Rhif 3182 (Cy.298)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Ansawdd Aer (Diwygio) (Cymru) 2002

  Wedi'u gwneud 17 Rhagfyr 2002 
  Yn dod i rym 31 Rhagfyr 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 87(1) a (2) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995[1] ac a freiniwyd bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol [2], ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 87(7) o'r Ddeddf honno ag Asiantaeth yr Amgylchedd, unrhyw gyrff neu bersonau y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol eu bod yn cynrychioli buddiannau llywodraeth leol a diwydiant fel y gwêl yn briodol, ac unrhyw gyrff neu bersonau eraill y gwêl yn briodol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ansawdd Aer (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2002.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Amcanion ansawdd aer ar gyfer bensen, carbon monocsid a phlwm
    
2.  - (1) Diwygir yr Atodlen i Reoliadau Ansawdd Aer (Cymru) 2000[3] fel a ganlyn.

    (2) Yn y Tabl yn Rhan I o'r Atodlen - 

    (a) ychwanegwch res arall sy'n ymwneud â bensen, ac

      (i) yn y golofn sy'n dwyn y teitl "Sylwedd/ Lefelau Amcanion Ansawdd Aer" rhowch "Bensen: 5 microgram y metr ciwbig neu lai, o'i fynegi fel cymedr blynyddol";

      (ii) yn y golofn sy'n dwyn y teitl "Y dyddiad erbyn pryd mae'n rhaid cyflawni'r amcan" rhowch "31 Rhagfyr 2010"; a

    (b) yn y rhes sy'n ymwneud â charbon monocsid, a'r golofn sy'n dwyn y teitl "Sylwedd/ Lefelau Amcanion Ansawdd Aer" rhowch "10" yn lle "11.6" a rhowch "dyddiol uchaf" ar ôl "cymedr 8 awr cyfredol".

    (3) Yn Rhan II (Dehongli) o'r Atodlen - 

    (a) yn lle paragraff 2 (sy'n ymwneud â chyfrifo cymedr 8 awr cyfredol) rhowch - 

         " 2.  - (1) Cymedr a gyfrifir ar sail ddyddiol yw cymedr 8 awr cyfredol dyddiol uchaf. Yr uchaf o'r cymedrau 8 awr cyfredol sy'n dod i ben yn ystod y diwrnod hwnnw yw'r cymedr 8 awr cyfredol dyddiol uchaf ar gyfer sylwedd penodol mewn lleoliad penodol ar gyfer diwrnod penodol.

        (2) At ddibenion is-baragraff (1), cymedr a gyfrifir yn ôl yr awr, gan ildio un cymedr 8 awr cyfredol yr awr, yw "cymedr 8 awr cyfredol". Y cymedr 8 awr cyfredol ar gyfer y sylwedd perthnasol yn y lleoliad perthnasol ar gyfer awr benodol yw cymedr y cymedrau yn ôl yr awr ar gyfer y sylwedd yn y lleoliad ar gyfer yr awr honno a'r 7 awr flaenorol."

    (b) ym mharagraff 3 (sy'n ymwneud â chyfrifo cymedr blynyddol yn achos plwm etc.) - 

      (i) dilëwch "ac" yn is-baragraff (1)(b);

      (ii) ar ôl "honno" yn is-baragraff (1)(c) rhowch - 

      " ; ac

      (ch) o ran bensen, naill ai cymedr y lefelau dyddiol ar gyfer y flwyddyn honno neu gymedr y cymedrau yn ôl yr awr ar gyfer y flwyddyn honno"; a

      (iii) yn lle is-baragraff (4) rhowch - 

        " (4) At ddibenion unrhyw gyfrifiad o'r cymedr blynyddol ar gyfer bensen ar sail cymedr y lefelau dyddiol, y lefel ddyddiol ar gyfer bensen mewn lleoliad penodol ar ddiwrnod penodol yw'r lefel lle cofnodir bod bensen yn bresennol yn yr aer yn y lleoliad hwnnw yn ystod y pythefnos y digwydd y diwrnod ar sail sampl barhaus o'r aer a gymerir drwy gydol y pythefnos hwnnw (gan briodoli'r un lefel ddyddiol felly i bob diwrnod yn y pythefnos)."

    (c) ym mharagraff 4 (sy'n ymwneud â chyfrifo cymedr yn ôl yr awr), yn lle'r ail frawddeg rhowch - 

      " Y cymedr yn ôl yr awr ar gyfer sylwedd penodol mewn lleoliad penodol ar gyfer awr benodol yw cymedr y lefelau a gofnodir ar gyfer y sylwedd hwnnw yn y lleoliad hwnnw:

      (a) yn achos bensen, ar fynychder o nid llai nag unwaith yn ystod yr awr; a

      (b) yn achos carbon monocsid, nitrogen deuocsid a sylffwr deuocsid, ar fynychder o nid llai nag unwaith bob 10 eiliad yn ystod yr awr."



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

17 Rhagfyr 2002



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae Rhan IV o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 ("Deddf 1995") yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru adolygu ansawdd yr aer ar y pryd ac ansawdd tebygol yr aer yn y dyfodol yn eu hardaloedd. Ynghyd â'r adolygiadau hyn, rhaid asesu a yw unrhyw safonau neu amcanion ansawdd aer, fel y'u rhagnodir gan reoliadau, yn cael eu cyflawni neu yn debygol o gael eu cyflawni o fewn cyfnod rhagnodedig.

Os nad yw pob un o'r safonau neu'r amcanion ansawdd aer hynny yn cael eu cyflawni, neu yn debyg o gael eu cyflawni o fewn y cyfnod rhagnodedig, o fewn unrhyw ran o ardal cyngor, rhaid i'r cyngor o dan sylw ddynodi'r rhan honno o'i ardal yn ardal rheoli ansawdd aer (gweler adran 83(1) o Ddeddf 1995). Yna rhaid paratoi cynllun gweithredu sy'n ymdrin â'r ardal ddynodedig ac yn nodi sut mae'r cyngor yn bwriadu arfer ei bwerau er mwyn cyflawni'r safonau a'r amcanion ansawdd aer rhagnodedig (gweler adran 84(2) o Ddeddf 1995).

Mae Rheoliadau Ansawdd Aer (Cymru) 2000 ("Rheoliadau 2000") yn gosod yr amcanion ansawdd aer ar gyfer Cymru ac yn rhagnodi'r cyfnodau y mae'n rhaid i'r amcanion hynny cael eu cyflawni o fewn iddynt.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2000. Maent yn cyflwyno ail amcan ansawdd aer ar gyfer bensen, sef 5 microgram y metr ciwbig neu lai, o'i fynegi fel cymedr blynyddol, sef amcan y mae'n rhaid ei gyflawni erbyn 31 Rhagfyr 2010 (rheoliad 2(2)(a)). Maent hefyd yn newid yr amcan ansawdd aer ar gyfer carbon monocsid, y mae'n rhaid ei gyflawni erbyn 31 Rhagfyr 2003, i gymedr 8 awr cyfredol dyddiol uchaf o 10 miligram y metr ciwbig neu lai (rheoliad 2(2)(b)).

Mae diwygiadau hefyd yn cael eu gwneud i Ran II (Dehongli) o'r Atodlen i Reoliadau 2000. Mae'r diwygiadau hynny yn effeithio ar yr amcanion ansawdd aer ar gyfer bensen, carbon monocsid a phlwm: mae ystyr yr ymadrodd "cymedr 8 awr cyfredol dyddiol" yn cael ei esbonio ac mae newidiadau yn cael eu gwneud i ystyr yr ymadroddion "cymedr yn ôl yr awr" a "cymedr blynyddol" (rheoliad 2(3)).


Notes:

[1] 1995 p.25; gweler adran 91(1) i gael y diffiniadau o "prescribed" a "regulations".back

[2] Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru; gweler Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back

[3] O.S. 2000/1940 (Cy. 138).back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090610 1


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2002
Prepared 31 December 2002