Offerynnau Statudol 2002 Rhif 3160 (Cy.295)

      Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Diwygio) (Cymru) 2002


      © Hawlfraint y Goron 2002

      Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines.

      Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Diwygio) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090608 X. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited.

      Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2002 Rhif 3160 (Cy.295)

AER GLÂN, CYMRU

Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Diwygio) (Cymru) 2002

  Wedi'u gwneud 17 Rhagfyr 2002 
  Yn dod i rym 31 Rhagfyr 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 20(6) a 63(1) o Ddeddf Aer Glân 1993[1], ac sy'n arferadwy yn awr gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Diwygio) (Cymru) 2002 a byddant yn dod i rym ar 31 Rhagfyr 2002.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Tanwyddau Awdurdodedig at ddibenion Deddf Aer Glân 1993
    
2.  - (1) Diwygir Atodlen 1 i Reoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2001[3] fel a ganlyn.

    (2) Ym mharagraff 3(a) - 

    (a) yn lle "85" rhoddir "95"; a

    (b) ar ôl "rhwymwr triagl ac asid ffosfforig" mewnosodir "neu rwymwr organig".

    (3) Ym mharagraff 5(a), dileir "a lleithder (sef gweddill y pwysau)".

    (4) Ar ôl paragraff 10, mewnosodir - 

     "10A. Brics glo Dragonglow, a weithgynhyrchir gan Tower Colliery Limited yn Aberdâr, Rhondda Cynon Taf - 

    (a) sy'n cynnwys llwch y twcircr (sef rhyw 95 y cant o gyfanswm y pwysau) a rhwymwr wedi ei seilio ar resin (sef gweddill y pwysau);

    (b) a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a chaledu oer;

    (c) sydd yn frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd ac sy'n pwyso 100 gram ar gyfartaledd; ac

    (ch) nad ydynt yn cynnwys mwy nag 1 y cant o sylffwr o gyfanswm y pwysau.

     10B. Brics glo Dragonbrite, a weithgynhyrchir gan Tower Colliery Limited yn Aberdâr, Rhondda Cynon Taf - 

    (5) Ym mharagraffau 14, 27, 28 a 30, yn lle "Shildon, County Durham" rhoddir "Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln".

    (6) Ym mharagraff 14(a) a 28(a) ar ôl "rhwymwr organig", ac ym mharagraff 27(a) ar ôl "rhwymwr organig sy'n caledu pan fo'n oer", mewnosodir "neu rwymwr triagl ac asid ffosfforig".

Eithriadau
    
3. Er gwaethaf y diwygiadau a wnaed gan reoliad 2(5) uchod, tanwyddau awdurdodedig o hyd fydd brics glo Homefire, brics glo Supertherm, brics glo Supertherm II a brics glo Thermac a weithgynhyrchwyd gan Coal Products Limited yn Shildon, County Durham cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

17 Rhagfyr 2002



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Pan fo mwg yn cael ei ollwng o simnai mewn ardal rheoli mwg a bod y simnai honno naill ai - 

    (a) yn simnai adeilad; neu

    (b) yn simnai sydd yn gwasanaethu ffwrnais bwyler sefydlog neu beiriannau diwydiannol (heb fod yn simnai adeilad)

mae adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 yn darparu bod meddiannydd yr adeilad, neu, yn ôl y digwydd, y person sy'n meddu ar y bwyler neu'r peiriannau, yn euog o dramgwydd. Mae'n amddiffyniad os gellir dangos mai drwy ddefnyddio tanwydd awdurdodedig yn unig yr achoswyd y gollyngiad honedig.

Mae'r Rheoliadau hyn, sydd yn gymwys i Gymru, yn diwygio ymhellach Reoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/3762 (Cy.311)) ("Rheoliadau 2001"), a gafodd eu diwygio o'r blaen gan Reoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Diwygio) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/3996 (Cy. 327)), fel bod brics glo Dragonglow a Dragonbrite sy'n bodloni'r amodau a bennir yn rheoliad 2(3) yn danwydd awdurdodedig.

Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud diwygiadau amrywiol i Reoliadau 2001, ac yn adlewyrchu'r newidiadau canlynol - 

    (a) mae'r gweithgynhyrchwr wedi ychwanegu rhwymwr arall at frics glo Homefire, brics glo Supertherm, a brics glo Supertherm II; a

    (b) mae brics glo Homefire, brics glo Supertherm, brics glo Supertherm II a brics glo Thermac erbyn hyn yn cael eu gweithgynhyrchu mewn lleoliad gwahanol.


Notes:

[1] 1993 p.11.back

[2] Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru: gweler Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back

[3] O.S. 2001/3762 (Cy. 311), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/3996 (Cy. 327).back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090608 X


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2002
Prepared 27 December 2002