Rheoliadau Cafa-cafa mewn Bwyd (Cymru) 2002 © Hawlfraint y Goron 2002 Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines. Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Rheoliadau Cafa-cafa mewn Bwyd (Cymru) 2002, ISBN 0 11090606 3. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited. Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(a), (e) ac (f), 18(1)(c), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], ac wedi parchu yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor[3] ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Teitl, cychwyn a chymhwyso 1. Ar gyfer y Rheoliadau hyn -
(b) deuant i rym ar 9 Ionawr2003; (c) byddant yn gymwys i Gymru yn unig.
Dehongli
Gwaharddiad ar werthu etc. bwyd sydd wedi'i wneud o Cafa-cafa neu sy'n ei gynnwys
(b) feddu ar gyfer gwerthu neu gynnig, amlygu neu hysbysebu ar gyfer gwerthu, neu (c) fewnforio i Gymru o'r tu allan I'r Deyrnas Unedig neu gludo i Gymru o unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig unrhyw fwyd sy'n cynnwys Cafa-cafa.
Cosb a gorfodi
(b) adran 3 (rhagdybiaeth fod bwyd wedi'i fwriadu i gael ei fwyta gan bobl); (c) adran 20 (tramgwyddau o ganlyniad i fai person arall); (ch) adran 21 (amddiffyiniad o ddiwydrwydd dyladwy) fel y mae'n gymwys at ddibenion adrannau 8, 14 neu 15 o'r Ddeddf; (d) adran 22 (amddiffyniad o gyhoeddi yng nghwrs busnes); (dd) adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol); (e) adran 33(1) (rhwystro etc swyddogion); (f) adran 33(2), gyda'r addasiad bod y cyfeiriad at "any such requirement as is mentioned in subsection 1(b) above" yn cael ei ystyried fel cyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r fath ag a grybywllir yn adran 33(1)(b) fel y caiff ei chymhwyso gan is-baragraff (e); (ff) adran 35(1) (cosbi am dramgwyddau), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y caiff ei chymhwyso gan is-baragraff (e); (g) adran 35(2) a (3), i'r graddau y maent yn ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y caiff ei chymhwyso gan is-baragraff (f); (ng) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); (h) adran 58(1) (sy'n ymwneud â dyfroedd tiriogaethol).
(2) Bydd adran 8(3) o'r Ddeddf (sy'n gwneud rhagdybiaethau yn achos sypiau etc. o fwyd) yn gymwys i fwyd y mae'n dramgwydd ei werthu o dan y Rheoliadau hyn fel y mae'n gymwys i fwyd nad yw'n cydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn gwahardd gwerthu, meddu gyda'r bwriad o werthu, amlygu neu hysbysebu ar gyfer gwerthu, a mewnofrio i Gymru o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig neu gludo i Gymru o unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, unrhyw fwyd sy'n deillio o, neu sy'n cynnwys Cafa-cafa (sef planhigyn neu ran o blanhigyn, neu ddarn o blanhigyn o'r fath, sy'n perthyn i'r rhwyogaeth Piper methysticum) (rheoliad 3). Gellir trin unrhyw fwyd o'r fath fel bwyd sy'n anaddas i'w fwyta gan bobl a gall fod yn agored i gael ei atafaelu a'i ddinistrio (rheoliad 5(3)). Hysbyswyd drafft o'r Rheoliadau i'r Comisiwn Ewropeaidd yn unol ag Erthygl 8 o Gyfarwyddeb Senedd Ewrop a'r Cyngor 98/34/EC sy'n gosod gweithdrefn ar gyfer darparu gwybodaeth ym maes safonau a rheoliadau technegol a rheolau gwasanaethau y Gymdeithas Wybodaeth (OJ Rhif L204, 21.7.1998, t.37), fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb Senedd Ewrop a'r Cyngor 98/48/EC (OJ Rhif L217, 5.8.1998, t.18). Paratowyd Arfarniad Effaith Rheoliadol a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru a gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EW. Notes: [1] 1990 p.16.back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau yr Ysgrifennydd Gwladol i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), fel y caiff ei ddarllen gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999.back [3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1; sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith fwyd, yn sefydlu'r Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd ac yn gosod gweithdrefnau mewn materion sy'n ywmneud â diogelwch bwyd.back
ISBN 0 11090606 3
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 27 December 2002 |