Offerynnau Statudol 2002 Rhif 3146 (Cy.292)

      Gorchymyn Ombwdsmon Gweinyddiaeth Cymru (Awdurdodaeth) 2002


      © Hawlfraint y Goron 2002

      Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines.

      Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Gorchymyn Ombwdsmon Gweinyddiaeth Cymru (Awdurdodaeth) 2002, ISBN 0 11090605 5. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited.

      Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2002 Rhif 3146 (Cy.292)

Y GYFRAITH GYFANSODDIADOL, CYMRU

Gorchymyn Ombwdsmon Gweinyddiaeth Cymru (Awdurdodaeth) 2002

  Wedi'i wneud 17 Rhagfyr 2002 
  Yn dod i rym 31 Rhagfyr 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan baragraffau 14(3) a 15(2) o Atodlen 9 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[1]:

     1. Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ombwdsmon Gweinyddiaeth Cymru (Awdurdodaeth) 2002 a daw i rym ar 31 Rhagfyr 2002.

    
2. Bydd gan Atodlen 9 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 effaith yn ddarostyngedig i'r diwygiadau canlynol:

    (a) Ym mharagraff 14(2) o'r Atodlen a enwyd ar ôl "the Forestry Commissioners," mewnosodir - 

      " (da) the Higher Education Funding Council for Wales,

      (db) the National Council for Education and Training for Wales,",

    (b) Ym mharagraff 15(1) o'r Atodlen a enwyd, ar ôl nodyn 2 ychwanegir - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

17 Rhagfyr 2002



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae paragraff 14(1) o Atodlen 9 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 yn darparu mai'r cyrff sy'n ddarostyngedig i ymchwiliad gan Ombwdsmon Gweinyddiaeth Cymru (yr Ombwdsmon) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad) a'r cyrff a restrir ym mharagraff 14(2) o'r Atodlen honNo.

Mae paragraff 14(3) o'r Atodlen honno yn darparu y gall y Cynulliad drwy orchymyn ddiwygio paragraff 14(2) drwy ychwanegu neu ddileu unrhyw gorff neu drwy newid disgrifiad unrhyw gorff.

Mae'r Gorchymyn hwn yn ychwanegu Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (gweler Rhan 2 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 mewn perthynas ag ef) a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (gweler Rhan 2 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 mewn perthynas ag ef) at y cyrff a restrir yn y paragraff 14(2) a enwyd.

Mae paragraff 15(1) o'r Atodlen honno yn cynnwys nodiadau sy'n cyfyngu ar gwmpas swyddogaethau ymchwilio yr Ombwdsmon mewn perthynas â rhai o'r cyrff y cyfeirir atynt ym mharagraff 14(2) neu'r cyfan ohonynt.

Mae paragraff 15(2) yn darparu y gall y Cynulliad drwy orchymyn ddiwygio paragraff 15(1) drwy ychwanegu, hepgor neu ddiwygio unrhyw nodyn.

Mae'r Gorchymyn hwn yn ychwanegu Nodyn i baragraff 15(1). Mae'r Nodyn hwnnw yn darparu na all yr Ombwdsmon ymchwilio i unrhyw gwcirc yn yn erbyn Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant pan fo'r gwcirc yn yn ymwneud â gweithred a gymerwyd yn wreiddiol gan Gyngor Cyllido Addysg Bellach Cymru ac sydd ond yn cael ei thrin fel pe bai wedi'i chymryd gan Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant drwy rinwedd paragraff 11 neu 12 o Atodlen 10 i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000.


Notes:

[1] 1998 p.38; diwygiwyd paragraff 14(2) o Atodlen 9 gan adran 6 (3) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p. 14) a chan adran 73(1) a (3) (a) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p. 21).back

[2] 2000 p.21.back



English version



ISBN 0 11090605 5


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2002
Prepared 24 December 2002