Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2002 © Hawlfraint y Goron 2002 Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines. Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2002, ISBN 0 11090600 4. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited. Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 140(4) a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1] a pharagraffau 4, 5 a 6 o Atodlen 8 iddi, sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cnedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2]: Enwi, cychwyn a dehongli 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2002 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2002. (2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "Rheoliadau 1992" yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992[3]. Diwygio Rheoliadau 1992 2. Yngl n â'r blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2003, diwygir Atodlenni 2 a 4 i Reoliadau 1992 fel a ganlyn: -
(b) yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992 rhoddir yr Atodlen a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) O dan Ran II o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 mae'n ofynnol i awdurdodau bilio yng Nghymru dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r rheolau ar gyfer cyfrifo'r symiau hynny wedi'u cynnwys yn Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 drwy roi lluosydd newydd ym mharagraff 2(12) o Atodlen 2 (rhagdybiaethau yngl n â'r swm gros), ac Atodlen 4 newydd (ffigurau poblogaeth oedolion).Notes: [1] 1988 p.41.back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672back [3] O.S. 1992/3238, a ddiwygiwyd gan O.S. 1993/1505, 1993/3077, 1994/547, 1994/1742, 1994/3125, 1995/3235, 1996/619, 1996/3018, 1997/3003, 1998/2962, 1999/3439, 2000/3382 (Cy.220) a 2001/3910 (Cy.322).back
ISBN 0 11090600 4
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 20 December 2002 |