Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2002 © Hawlfraint y Goron 2002 Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines. Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2002, ISBN 0 11090602 0. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited. Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan erthygl 20(1) a (2) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 1999[1], ac ar ôl gwneud unrhyw ymgynghori â'r Comisiwn Etholiadol drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol - Enw a chychwyn 1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2002 a daw i rym ar 1 Ionawr 2003. Dehongli 2. Yn y Gorchymyn hwn, oni bai fod y cyd-destun yn mynnu fel arall -
mae unrhyw gyfeiriad at gofrestr etholwyr yn gyfeiriad at y gofrestr (neu gofrestrau) etholwyr a ddefnyddir mewn etholiad Cynulliad ac at y gofrestr (neu gofrestrau) fel y cawsant eu cyhoeddi am y tro cyntaf.
(b) treuliau o'r math a ddisgrifir ym mharagraffau 3(1), 4(1), 5(1), a 6(1) o'r Atodlen, ac (c) treuliau o'r math a ddisgrifir ym mharagraffau 8 i 19 o'r Atodlen.
(2) Pan gynhelir mewn perthynas ag etholaeth Cynulliad etholiad rhanbarthol nas ymleddir (p'un ai mewn etholiad cyffredin ai peidio) ni chaiff y fanyleb o dan baragraff (1) effaith mewn perthynas â -
(b) treuliau o'r math a ddisgrifir ym mharagraffau 3(1), 4(1) a 7(1) o'r Atodlen,
mewn perthynas â'r etholaeth Cynulliad honno yn yr etholiad rhanbarthol.
(b) £85.00 ar gyfer swyddog canlyniadau rhanbarthol mewn etholiad rhanbarthol mewn perthynas â'r gwasanaethau a bennwyd yn Rhan I o'r Atodlen, (c) £1,047.00 ar gyfer swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad etholaeth mewn perthynas â'r treuliau a bennir yn Rhan II o'r Atodlen, ac (ch) £210.00 ar gyfer swyddog canlyniadau rhanbarthol mewn etholiad rhanbarthol mewn perthynas â'r treuliau a bennwyd yn Rhan II o'r Atodlen.
Diddymu Erthygl 3 Gwasanaethau swyddog canlyniadau etholaeth gan gynnwys dyroddi a derbyn papurau pleidleisio drwy'r post 1. - (1) Mae'r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwasanaethau swyddog canlyniadau etholaeth wrth gynnal etholiad Cynulliad a chyflawni dyletswyddau'r person hwnnw mewn cysylltiad â hynny (gan gynnwys dyroddi a derbyn papurau pleidleisio i bersonau sydd â hawl i bleidleisio drwy'r post). (2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) i (5), yr uchafswm y gellir ei adennill mewn etholiad Cynulliad ar gyfer y gwasanaethau a bennwyd yn is-baragraff (1) yw £2,077.00. (3) Mewn etholiad cyffredin mae'r swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) yn cael ei gynyddu ag £1,082.00 pan geir etholiad mewn perthynas ag etholaeth Cynulliad ar gyfer etholiad etholaeth ac etholiad rhanbarthol. (4) Mae'r swm sydd wedi'i grybwyll yn is-baragraff (2) yn cael ei gynyddu â £312.00 pan gaiff y pleidleisio mewn etholiad Cynulliad ei gyfuno â'r pleidleisio mewn etholiad llywodraeth leol o dan erthygl 14(1) neu (2) o Orchymyn 1999. (5) Pan mewn etholiad cyffredin bod person yn swyddog canlyniadau mewn mwy na thri etholiad etholaeth caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei ostwng â £260.00 ar gyfer bob etholiad o'r fath sy'n fwy na thri. Gwasanaethau swyddog canlyniadau rhanbarthol 2. - (1) Mae'r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwasanaethau swyddog canlyniadau rhanbarthol wrth gynnal etholiad rhanbarthol a chyflawni dyletswyddau'r person hwnnw mewn perthynas â hynny. (2) Yr uchafswm y gellir ei adennill mewn etholiad rhanbarthol ar gyfer y gwasanaethau a bennwyd yn is-baragraff (1) yw £1,082.00. Talu swyddogion llywyddu mewn gorsafoedd pleidleisio 3. - (1) Mae'r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer treuliau swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad Cynulliad mewn perthynas â thalu swyddogion llywyddu mewn gorsafoedd pleidleisio. (2) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) i (6), yr uchafswm y gellir ei adennill mewn etholiad Cynulliad ar gyfer y treuliau a bennwyd yn is-baragraff (1) (gan gynnwys treuliau a dynnwyd mewn perthynas â pherson sy'n ysgwyddo dyletswyddau swyddog llywyddu ar y diwrnod pleidleisio o ganlyniad i analluogrwydd y swyddog llywyddu a benodwyd eisoes) mewn perthynas â'r swyddog llywyddu ym mhob gorsaf bleidleisio yw £141.00. (3) Mewn unrhyw etholiad cyffredin caiff y swm a grybwyllwyd yn is-baragraff (2) ei gynyddu ag £37.00 pan geir mewn perthynas ag etholaeth Cynulliad bleidlais mewn etholiad etholaeth ac etholiad rhanbarthol. (4) Pan geir mewn lle pleidleisio mwy nag un orsaf bleidleisio caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu ag £8.00 mewn perthynas ag un swyddog llywyddu yn unig yn y gorsafoedd pleidleisio yn y lle pleidleisio hwnnw. (5) Mewn perthynas â swyddog llywyddu y mae is-baragraff (4) yn gymwys caiff y swm sydd wedi'i grybwyll yn is-baragraff (2) ei gynyddu ag £8.00 pan fo is-baragraff (3) hefyd yn gymwys. (6) Caiff y swm a grybwyllwyd yn is-baragraff (2) ei gynyddu â £37.00 pan gaiff pleidleisio mewn etholiad Cynulliad ei gyfuno â'r pleidleisio mewn etholiad llywodraeth leol o dan erthygl 14(1) neu (2) o Orchymyn 1999. Talu clerciaid pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio 4. - (1) Mae'r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer treuliau swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad Cynulliad mewn perthynas â thalu clerciaid pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio. (2) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) a (4), yr uchafswm y gellir ei adennill mewn etholiad Cynulliad ar gyfer y treuliau a bennwyd yn is-baragraff (1) mewn perthynas â phob clerc pleidleisio yw £84.00. (3) Mewn etholiad cyffredin caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu ag £21.00 pan geir mewn perthynas ag etholaeth Cynulliad bleidleisio mewn etholiad etholaeth ac mewn etholiad rhanbarthol. (4) Caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu ag £21.00 pan fo'r pleidleisio mewn etholiad Cynulliad yn cael ei gyfuno â phleidleisio mewn etholiad llywodraeth leol o dan erthygl 14(1) neu (2) o Orchymyn 1999. Talu personau mewn cysylltiad â dyroddi a derbyn papurau pleidleisio drwy'r post a.y.y.b 5. - (1) Mae'r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer treuliau swyddog canlyniadau mewn etholiad Cynulliad mewn perthynas â thalu personau sydd wedi'u cyflogi mewn cysylltiad â dyroddi a derbyn papurau pleidleisio drwy'r post a'r cyfrif ac unrhyw gymorth clerigol neu gymorth arall at ddibenion yr etholiad. (2) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) i (7), yr uchafswm y gellir ei adennill mewn etholiad Cynulliad ar gyfer y treuliau a nodwyd yn is-baragraff (1) yw £10,000.00. (3) Mewn etholiad cyffredin caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu â £9,000.00 pan mewn perthynas ag etholaeth Cynulliad y ceir pleidleisio mewn etholiad cynulliad ac mewn etholiad rhanbarthol. (4) Caiff y swm a grybwyllwyd yn is-baragraff (2) ei gynyddu am bob 100 pleidleisiwr, neu ffracsiwn o hynny, sydd â hawl i bleidleisio drwy'r post â £46.00 mewn perthynas ag etholiad etholaeth neu etholiad rhanbarthol heblaw am etholiad y mae is-baragraff (5) yn gymwys. (5) Mewn etholiad cyffredin caiff y swm a grybwyllwyd yn is-baragraff (2) ei gynyddu am bob 75 pleidleisiwr, neu ffracsiwn o hynny, sydd â'r hawl i bleidleisio drwy'r post â £46.00 pan geir mewn perthynas ag etholaeth Cynulliad bleidleisio mewn etholiad etholaeth ac mewn etholiad rhanbarthol. (6) Caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu â £468.00 ar gyfer pob ailgyfrif pleidleisiau o dan baragraff 51 neu 52 o Atodlen 5 i Orchymyn 1999. (7) Caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu â £1,350.00 pan gaiff pleidleisio mewn etholiad etholaeth ei gyfuno gyda'r pleidleisio mewn etholiad llywodraeth leol o dan erthygl 14(1) neu (2) o Orchymyn 1999. Talu personau mewn cysylltiad â chymorth clerigol neu gymorth arall at ddibenion etholiad rhanbarthol 6. - (1) Mae'r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer treuliau swyddog canlyniadau rhanbarthol mewn etholiad rhanbarthol mewn perthynas â thalu personau sydd wedi'u cyflogi mewn cysylltiad â chymorth clerigol neu gymorth arall at ddibenion yr etholiad. (2) Yr uchafswm y gellir ei adennill mewn etholiad rhanbarthol ar gyfer y treuliau a nodwyd yn is-baragraff (1) yw £1,082.00. Cyffredinol 7. Treuliau swyddog canlyniadau etholaeth neu swyddog canlyniadau rhanbarthol y cyfeirir atynt ym mharagraffau 8 i 19 yw'r treuliau na phennir unrhyw uchafsymiau i'w hadennill. Treuliau teithio a chynhaliaeth dros nos 8. Treuliau teithio a chynhaliaeth dros nos mewn etholiad Cynulliad -
(b) unrhyw berson pan fo gwasanaethau'r person hwnnw wedi cael eu rhoi at ddefnydd swyddog canlyniadau etholaeth neu swyddog canlyniadau rhanbarthol o dan erthygl 17 o Orchymyn 1999, (c) unrhyw swyddog llywyddu neu glerc pleidleisio, ac (ch) unrhyw gynorthwy-ydd clerigol neu gynorthwy-ydd arall a gyflogir gan y swyddog canlyniadau.
Argraffu a.y.y.b y papurau pleidleisio
(b) y bythau pleidleisio, unrhyw ddodrefn arall sy'n angenrheidiol ar gyfer gorsafoedd pleidleisio ac offerynnau i stampio'r marc swyddogol ar y papurau pleidleisio.
Treuliau darparu offer ysgrifennu a.y.y.b (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) O dan erthygl 20(1) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 1999 (O.S. 1999/450) ("Gorchymyn 1999") mae hawl swyddog canlyniadau mewn etholiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i adennill costau mewn perthynas â gwasanaethau neu dreuliau'r person hwnnw ar gyfer, neu mewn cysylltiad ag etholiad o'r fath yn ddibynnol ar y canlynol, sef -
(b) bod y gwasanaethau yn cael eu darparu'n briodol a bod y treuliau wedi'u tynnu'n briodol, ac (c) bod y taliadau mewn perthynas â hwy yn rhesymol.
Gwneir y Gorchymyn hwn o dan erthygl 20 o Orchymyn 1999 ac mae'n diddymu Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 1999. Mae'n nodi gwasanaethau a threuliau o'r math y cyfeirir atynt uchod. Notes: [1] O.S. 1999/450.back
ISBN 0 11090602 0
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 23 December 2002 |