Rheoliadau Cynlluniau Partneriaethau Ansawdd (Cyfleusterau sy'n Bodoli Eisioes) (Cymru) 2002 © Hawlfraint y Goron 2002 Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines. Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Rheoliadau Cynlluniau Partneriaethau Ansawdd (Cyfleusterau sy'n Bodoli Eisioes) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090597 0. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited. Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 119 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Partneriaethau Ansawdd (Cyfleusterau sy'n Bodoli Eisioes) (Cymru) 2002 ac maent yn dod i rym ar 20 Rhagfyr 2002. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn -
Pennu cyfleusterau sy'n bodoli eisioes
(b) lle bo dau neu fwy o awdurdodau yn bwriadu gwneud y cynllun, naill ai i'r awdurdod a bennir yn yr hysbysiad at y diben hwnnw neu (os na chafodd unrhyw awdurdod ei bennu felly) i unrhyw un ohonynt.
(2) Gellir tynnu'n ôl unrhyw wrthwynebiad a wnaed at ddibenion rheoliad 3(2) trwy hysbysiad ysgrifenedig neu drwy gyfathrebu electronig sy'n cael ei gyflwyno i'r awdurdod y cyflwynwyd y gwrthwynebiad iddo.
(b) specify the date by which an objection to the specifying of an existing facility must be made, such date to be not less than 42 days from the date on which the notice is published."
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth, mewn perthynas â Chymru, ar gyfer cyfleusterau sy'n bodoli eisioes ac y mae'n bosibl eu bod yn rhan o gynllun partneriaeth ansawdd. Mae cynlluniau partneriaeth ansawdd yn cael eu cyflwyno gan Ran II o Ddeddf Trafnidiaeth 2000. O dan Reoliad 3, ni chaiff cyfleusterau sy'n bodoli eisioes fod yn rhan o gynllun partneriaeth ansawdd os oeddent wedi'u darparu'n gyntaf fwy na deng mlynedd cyn i hysbysiad o'r cynllun arfaethedig gael ei roi. Os cafodd cyfleuster sy'n bodoli eisioes ei ddarparu'n gyntaf mwy na phum mlynedd ond llai na deng mlynedd cyn i hysbysiad o'r cynllun arfaethedig gael ei roi, caiff fod yn rhan o gynllun partneriaeth ansawdd ar yr amod nad oes unrhyw wrthwynebiad, sydd heb ei dynnu'n ôl, wedi'i wneud gan berson sy'n dibynnu ar y cyfleuster hwnnw wrth ddarparu gwasanaeth lleol. Mae Rheoliad 4 yn darparu bod rhaid i wrthwynebiad at ddibenion rheoliad 3(2) fod yn ysgrifenedig neu drwy gyfathrebu electronig a bod yn rhaid iddo gael ei gyflwyno i'r awdurdod priodol o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad a roddir o dan adran 115(1). Mae rheoliad 5 yn darparu bod yn rhaid i awdurdod, pan fydd yn rhoi hysbysiad o gynllun arfaethedig, bennu'r dyddiad y mae'n credu y darparwyd pob cyfleuster perthnasol gyntaf, a'r dyddiad erbyn pryd y bydd yn rhaid i unrhyw wrthwynebiad gael ei wneud, ac ni chaniateir i'r dyddiad hwnnw fod yn llai na 42 diwrnod ar ôl y dyddiad y cyhoeddwyd yr hysbysiad. Notes: [1] 2000 p.38.back
ISBN 0 11090597 0
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 16 December 2002 |