Gorchymyn Deddf Consesiynau Teithio (yr Hawl i'w Cael) 2002 (Cychwyn) (Cymru) 2002 © Hawlfraint y Goron 2002 Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines. Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Gorchymyn Deddf Consesiynau Teithio (yr Hawl i'w Cael) 2002 (Cychwyn) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090596 2. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited. Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(1)[1] o Ddeddf Consesiynau Teithio (yr Hawl i'w Cael) 2002[2] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi 1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Consesiynau Teithio (yr Hawl i'w Cael) 2002 (Cychwyn) (Cymru) 2002. Darpariaethau s'yn dod i rym mewn perthynas â Chymru 2. Y dyddiad a benwyd i adran 1 o Ddeddf Consesiynau Teithio (yr Hawl i'w Cael) 2002 ddod i rym mewn perthynas â Chymru yw 1 Ebrill 2003. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3] D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 4 Rhagfyr 2002 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn dod â holl ddarpariaethau creiddiol Deddf Consesiynau Teithio (yr Hawl i'w Cael) 2002 ("Deddf 2002") i rym ar 1 Ebrill 2003 mewn perthynas â Chymru. Mae adran 1(1) ac 1(3) o Ddeddf 2002 yn gwneud yn gyfartal, yn 60 mlwydd oed, yr oedrannau pryd bydd gan ddynion a menywod yr hawl i gonsesiynau teithio ar wasanaethau bysiau lleol o dan adran 146 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 neu o dan gynlluniau a wnaed o dan adran 93 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985. Mae'r oedrannau hyn eisioes wedi'u gwneud yn gyfartal, mewn perthynas â Chymru, gan Erthyglau 2, 3 a 5 o Orchymyn Consesiynau Teithio (Estyn yr Hawl i'w Cael) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/3765 (Cy.313) ("Gorchymyn 2001") a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2002. Bydd Erthygl 5 o Orchymyn 2001 yn cael ei disodli gan, ac yn peidio â chael effaith oherwydd, dyfodiad Deddf 2002 i rym, ar 1 Ebrill 2003, fel canlyniad i'r Gorchymyn hwn. Mae'r darpariaethau y mae'r Gorchymyn hwn yn eu cychwyn mewn perthynas â Chymru hefyd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2003, mewn perthynas â Lloegr, o dan Orchymyn Deddf Consesiynau Teithio (yr Hawl i'w Cael) 2002 (Cychwyn) (Lloegr) 2002 (O.S. 2002/673 (C.17)). Notes: [1] Gweler adran 3(2) i weld ystyr "the appropriate Minister".back
ISBN 0 11090596 2
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 16 December 2002 |