Offerynnau Statudol 2002 Rhif 3013 (Cy.285)

      Rheoliadau Trefniadau ar gyfer Lleoli Plant (Cyffredinol) ac Adolygu Achosion Plant (Diwygio) (Cymru) 2002


      © Hawlfraint y Goron 2002

      Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines.

      Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Rheoliadau Trefniadau ar gyfer Lleoli Plant (Cyffredinol) ac Adolygu Achosion Plant (Diwygio) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090595 4. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited.

      Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2002 Rhif 3013 (Cy.285)

PLANT A PHERSONAU IFANC

Rheoliadau Trefniadau ar gyfer Lleoli Plant (Cyffredinol) ac Adolygu Achosion Plant (Diwygio) (Cymru) 2002

  Wedi'u gwneud 4 Rhagfyr 2002 
  Yn dod i rym 1 Ionawr 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 23(2)(a) ac (f), 26(1),(2),(5) a (6) a 104(4) o Ddeddf Plant 1989[1], drwy hyn yn gwneud y rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trefniadau ar gyfer Lleoli Plant (Cyffredinol) ac Adolygu Achosion Plant (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2003.

    (2) Mae'r rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.

Diwygio Rheoliadau Trefniadau ar gyfer Lleoli Plant (Cyffredinol) 1991
    
2.  - (1) Caiff Rheoliadau Trefniadau ar gyfer Lleoli Plant (Cyffredinol) 1991[2] eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

    (2) Yn rheoliad 5(1) (hysbysu am drefniadau) - 

    (a) yn lle is-baragraff (b) rhoddir - 

      " (b) the Health Authority for the area in which the child is living and, if it is different, the Health Authority (or, where applicable, Primary Care Trust) for the area in which the child is to be placed;";

    (b) yn is-baragraff (c), ar y diwedd, ychwanegir " and, if it is different, for the area in which the child is to be placed;"; ac

    (c) yn is-bargaraff (d), ar y diwedd, ychwanegir "and, where applicable, any registered medical practitioner with whom the child is to be registered following the placement;".

    (3) Yn lle rheoliad 7 (gofynion iechyd) rhoddir - 

    (4) Yn Atodlen 2 (ystyriaethau iechyd y mae angen i awdurdodau cyfrifol eu ystyried) - 

Diwygio Rheoliadau Adolygu Achosion Plant 1991
    
3.  - (1) Caiff Rheoliadau Adolygu Achosion Plant 1991[3] eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

    (2) Yn lle rheoliad 6 (adolygiadau iechyd), rhoddir - 

    (3) Yn Atodlen 3 (ystyriaethau iechyd y mae angen i awdurdodau cyfrifol eu ystyried) - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4]


D Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

4 Rhagfyr 2002



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r rheoliadau hyn, sy'n gymwys mewn perthynas â Chymru, yn diwygio Rheoliadau Trefniadau ar gyfer Lleoli Plant (Cyffredinol) 1991 a Rheoliadau Adolygu Achosion Plant 1991.

Effaith y diwygiadau fydd ymestyn y dyletswydd sydd ar awdurdod cyfrifol i hysbysu wrth leoli plentyn, fel ei fod yn cynnwys nid yn unig y cyrff a nodwyd yn yr ardal ble mae'r plentyn yn byw, ond y cyrff cyfatebol yn yr ardal lle caiff y plentyn ei osod yn ogystal. Mae hefyd yn darparu i awdurdodau cyfrifol ei gwneud yn ofynnol bod asesiad iechyd yn cael ei gynnal ac yna llunio cynllun iechyd ar gyfer y plentyn ac i sicrhau ei fod yn derbyn gwasanaethau gofal iechyd addas yn ystod y lleoliad.

Caiff Rheoliadau Adolygu Achosion Plant eu diwygio fel eu bod yn cynnwys adolygiad o'r cynllun iechyd fel rhan o'r broses adolygu a sefydlwyd o dan y Rheoliadau yna. Caiff oedran plant iau, y mae'n ofynnol cynnal eu hadolygiad iechyd bob chwe mis, ei ymestyn hyd at bum mlwydd oed.


Notes:

[1] 1989 p.41. Mae'r pwerau wedi'u rhoi i'r Ysgrifennydd Gwladol. Maent yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru drwy rinwedd adran 22(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38), ac erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) a'r cofnod mewn perthynas â Deddf Plant 1989 yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw.back

[2] O.S. 1991/890 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1991/2033, O.S. 1993/3069, O.S. 1995/2015 ac O.S. 1997/649.back

[3] O.S. 1991/895, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1991/2033, O.S. 1993/3069, O.S. 1995/2015 ac O.S. 1997/649.back

[4] 1998 p. 38.back



English version



ISBN 0 11090595 4


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2002
Prepared 16 December 2002