Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Diwygio) (Cymru) 2002 © Hawlfraint y Goron 2002 Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines. Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Diwygio) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090594 6. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited. Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 18(1) a (2), 19(1), (2), (4), (5) a (6), 20(1) a (2), 105(2) a 106(1) a (2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[1]: - Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 20 Rhagfyr 2002. (2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Diwygio) (Cymru) 2002[2]. (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys yng Nghymru yn unig. Diwygio'r prif Reoliadau 2. Yn lle paragraff (1) o reoliad 12 o'r prif Reoliadau (aelodau cyd-bwyllgorau) rhowch -
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2002, a wnaed o dan Ran II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, gwnaed darpariaeth sy'n galluogi awdurdod lleol yng Nghymru sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth i wneud trefniadau ar gyfer cyflawni ei swyddogaethau gweithrediaeth gan bwyllgorau ardal, gweithrediaeth awdurdod lleol arall neu ar y cyd ag un neu fwy o awdurdodau lleol eraill drwy gyd-bwyllgor. Mae Rheoliad 12(1) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2002 yn darparu mai dim ond aelod o'r weithrediaeth y gellir ei benodi i gyd-bwyllgor sy'n arfer swyddogaethau gweithrediaeth. Er mwyn sicrhau y caniateir i weithrediaethau awdurdod lleol benodi naill ai aelodau o'r awdurdod lleol nad ydynt yn aelodau gweithrediaeth neu swyddogion yr awdurdod i wasanaethu ar gyd-bwyllgorau ar eu rhan, diwygir rheoliad 12(1) yn unol â hynny. Notes: [1] 2000 p.22.back [2] O.S. 2002/802 (Cy.87).back
ISBN 0 11090594 6
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 13 December 2002 |