Offerynnau Statudol 2002 Rhif 2940 (Cy.281)

      Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Diwygio) 2002


      © Hawlfraint y Goron 2002

      Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines.

      Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Diwygio) 2002, ISBN 0 11091593 8. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited.

      Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2002 Rhif 2940 (Cy.281)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Diwygio) 2002

  Wedi'i wneud 27 Tachwedd 2002 
  Yn dod i rym 31 Mawrth 2003 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 8(1) a (2) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enw a chychwyn
     1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Diwygio) 2002 a daw i rym ar 31 Mawrth 2003.

Diwygio Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998
    
2. Diwygir Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998[3] trwy ychwanegu ar ddiwedd erthygl 3 y geiriau canlynol - 

    " subject to the following modifications of Schedule 1 - 

      (a) omit paragraph 2(3);

      (b)  - 
        (i) in paragraph 4(1)(a), (3) and (4) for "the Secretary of State" substitute "they";

        (ii) for paragraph 4(1)(b) substitute - 

             " shall, as regards any member in whose case they may so determine; pay or make provision for the payment of such sums by way of pension, allowances and gratuities to or in respect of that member as they may determine."; and

        (iii) in paragraph 4(2) for the words "Secretary of State" in the first place they appear substitute "Council", and for the words "the Secretary of State may direct the Council to make to that person a payment of such amount as the Secretary of State may determine" substitute "the Council may make to that person a payment of such amount as they may determine";

      (c) omit paragraph 5(4);

      (d) in paragraph 6(1) and (3) omit the words "with the consent of the Secretary of State" in each place they appear; and

      (e) omit paragraph 11(1).".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]


Dafydd Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Tachwedd 2002



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998 er mwyn addasu cymhwyso Atodlen 1 i Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru ("y Cyngor") er mwyn gwaredu rheolaethau ar y Cyngor sy'n arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol").

Caiff y rheolaethau canlynol eu gwaredu - 

    
  • Y gofyniad i'r Cyngor gael caniatâd y Cynulliad Cenedlaethol cyn y gall arfer pwerau penodedig;

        
  • Pwcircer y Cynulliad Cenedlaethol i benderfynu cyflogau, lwfansau, pensiynau a thaliadau eraill aelodau'r Cyngor;

        
  • Y gofyniad i gael cymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â thâl, lwfansau, amodau a thelerau gweithwyr y Cyngor;

        
  • Y gofyniad i gael caniatâd y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â phensiynau neu arian rhodd gweithwyr y Cyngor;

        
  • Yr hawl i gynrychiolwyr y Cynulliad Cenedlaethol neu gynrychiolydd corff dynodedig i gymryd rhan yng nghyfarfodydd y Cyngor.


    Notes:

    [1] 1998 p.30.back

    [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

    [3] O.S. 1998/2911.back

    [4] 1998 p.38.back



    English version



    ISBN 0 11091593 8


  •  

    Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


    We welcome your comments on this site
    © Crown copyright 2002
    Prepared 13 December 2002