Offerynnau Statudol 2002 Rhif 2939 (Cy.280)

      Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2002


      © Hawlfraint y Goron 2002

      Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines.

      Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090591 1. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited.

      Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2002 Rhif 2939 (Cy.280)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2002

  Wedi'u gwneud 27 Tachwedd 2002 
  Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)

Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(f), 17(1), 26(3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae'r Cynulliad Cenedlaethol ac yntau wedi parchu, yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol o dan erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor[3] sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn ogystal â sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop a gosod gweithdrefnau ar gyfer materion sy'n ymwneud â diogelwch bwyd ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddedddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2002 ac maent yn gymwys i Gymru yn unig.

    (2) Daw rheoliadau 1, 5 a 10, a rheoliad 2 a rheoliadau 6 i 9 i'r graddau y maent yn ymwneud â rheoliad 5, i rym ar 31 Rhagfyr 2002.

    (3) Daw gweddill y Rheoliadau hyn i rym - 

    (a) ar 31 Rhagfyr 2002 mewn perthynas â bwyd L-tryptoffan; a

    (b) mewn unrhyw achos arall ar 1 Ebrill 2004.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn - 

    ystyr "Cyfarwyddeb 2001/15" ("Directive 2001/15") yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2001/15/EC[6] (fel y'i cywiriwyd[7])) ar sylweddau y gellir eu hychwanegu at ddibenion maethol penodol mewn bwydydd at ddefnydd maethol neilltuol;

    ystyr "defnydd maethol neilltuol" ("particular nutritional use") yw bodloni gofynion maethol neilltuol - 

    (a) rhai categorïau o bobl y mae eu prosesau treulio, neu eu metaboledd yn afreolus, neu

    (b) rhai categorïau o bobl y mae eu cyflwr seicolegol yn golygu ei bod o fudd iddynt fwyta, a hynny dan reolaeth, unrhyw sylwedd mewn bwyd, neu

    (c) babanod neu bobl ifanc sydd mewn iechyd da; ac

    ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

    mae "gwerthu" ("sell") yn cynnwys meddu gyda'r bwriad o werthu a chynnig, amlygu neu hysbysebu gyda'r bwriad o werthu.

    (2) Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yng Nghyfarwyddeb 89/398 neu 2001/15 yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt yn y Gyfarwyddeb dan sylw.

Cyfyngiadau ar werthu
     3.  - (1) Ni chaiff unrhyw berson werthu unrhyw fwyd DMN dynodedig sy'n fwyd y mae sylwedd sy'n dod o fewn un o'r categorïau a grybwyllwyd ym mharagraff (2) wedi cael ei ychwanegu ato at ddiben maethol penodol oni bai bod y sylwedd hwnnw - 

    (2) At ddibenion paragraff (1), y categorïau yw - 

    (3) Y meini prawf perthnasol ar burdeb at ddibenion paragraff (1)(b) yw - 

    (4) Ni chaiff unrhyw berson werthu unrhyw fwyd DMN dynodedig y defnyddiwyd unrhyw sylwedd at ddiben maethol penodol wrth ei gynhyrchu oni bai bod y bwyd hwnnw - 

fel y caiff ei sefydlu gan ddata gwyddonol a dderbynnir yn gyffredinol.

Gwirio rheoliad 3(4)
    
4. Bydd gweithgynhyrchydd neu, fel y digwydd, mewnforiwr bwyd DMN dynodedig y defnyddiwyd sylwedd at ddiben maethol penodol wrth ei gynhyrchu yn cyflenwi'r canlynol i'r Asiantaeth Safonau Bwyd os gwneir cais am hynny - 

Gofyniad i hysbysu
    
5.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff gweithgynhyrchydd, neu pan fo hynny'n briodol, mewnforiwr unrhyw fwyd hysbysadwy werthu unrhyw fwyd o'r fath oni bai bod y gweithgynhyrchydd, neu pan fo hynny'n briodol, y mewnforiwr, o leiaf 3 mis cyn gosod bwyd o'r math hwnnw ar y farchnad yng Nghymru am y tro cyntaf, wedi hysbysu'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn ysgrifenedig drwy anfon model o'r label sydd i'w ddefnyddio ar gyfer y bwyd hwnnw a manylion am gyfansoddiad y bwyd.

    (2) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys os yw'r gweithgynhyrchydd neu, pan fo hynny'n briodol, y mewnforiwr eisoes wedi hysbysu'r Asiantaeth Safonau Bwyd cyn gosod bwyd o'r math penodol hwnnw ar y farchnad mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig am y tro cyntaf yn unol â darpariaeth gyfatebol sy'n cael effaith yNo.

    (3) Yn y rheoliad hwn ystyr "bwyd hysbysadwy" ("notifiable food") yw unrhyw fwyd L-tryptoffan

Gorfodi
    
6. Bydd pob awdurdod bwyd yn gorfodi ac yn gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal.

Tramgwyddau a chosbau
    
7. Os bydd unrhyw berson - 

bydd y person hwnnw yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Amddiffyniad mewn perthynas ag allforion
    
8. Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn bydd yn amddiffyniad i'r person sy'n cael ei gyhuddo brofi bod y bwyd yr honnir bod y tramgwydd wedi'i gyflawni mewn perthynas ag ef wedi cael ei fwriadu i'w allforio i wlad (ac eithrio Aelod-wladwriaeth) sydd â deddfwriaeth sy'n gyffelyb i'r Rheoliadau hyn a bod y bwyd hwnnw yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth honNo.

Cymhwyso amrywiol ddarpariaethau'r Ddeddf
    
9. Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni at ddibenion y Rheoliadau hyn fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn - 

Diwygio Rheoliadau Tryptoffan mewn Bwyd 1990
    
10.  - (1) Caiff Rheoliadau Tryptoffan mewn Bwyd 1990[8] eu diwygio (i'r graddau y maent yn ymestyn i Gymru) yn unol â pharagraff (2).

    (2) Yn rheoliad 2 (gwaharddiad ar werthu, etc. bwyd sy'n cynnwys tryptoffan) - 

    (a) ym mharagraffau (1) a (2) yn lle'r geiriau "Subject to paragraph (4)" rhoddir y geiriau "Subject to paragraphs (4) and (4A)";

    (b) ym mharagraff (3) mewnosodir ar y dechrau y geiriau "Subject to paragraph (4A) of this regulation,";

    (c) ar ôl paragraff (4) mewnosodir y paragraff canlynol - 

        " (4A) Paragraphs (1) to (3) of this regulation shall not apply in respect of - 

      (a) laevorotatory tryptophan added to any infant formula or follow-on formula;

      (b) laevorotatory tryptophan added to any processed cereal-based food or baby food; or

      (c) laevorotatory tryptophan, its sodium, potassium, calcium or magnesium salts or its hydrochloride, added to any designated PNU food for a specific nutritional purpose in compliance with Commission Directive 2001/15/EC[9] (as corrected[10]) on substances that may be added for specific nutritional purposes in foods for particular nutritional uses.";

    (ch) ym mharagraff (7) - 

      (i) ar ôl y diffiniad o "appropriate medical certificate" mewnosodir y diffiniad canlynol - 

      " "designated PNU food" has the meaning assigned to it by the Food for Particular Nutritional Uses (Addition of Substances for Particular Nutritional Purposes) (Wales) Regulations 2002;";

      (ii) ar ôl y diffiniad o "hospital" hepgorir y gair "and" a mewnosodir y diffiniadau canlynol - 

      " "infant formula" and "follow-on formula" have the meaning assigned to them by the Infant Formula and Follow-on Formula Regulations 1995[11];

      "processed cereal-based food" and "baby food" have the meaning assigned to them by the Processed Cereal-based Foods and Baby Foods for Infants and Young Children Regulations 1997[12]; and".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[13]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Tachwedd 2002



ATODLEN 1
Rheoliad 3(1)(a)


SYLWEDDAU Y GELLIR EU HYCHWANEGU AT DDIBENION MAETHOL PENODOL MEWN BWYDYDD DMN DYNODEDIG


Categori 1. Fitaminau
VITAMIN A:

     -  retinol

     -  retinyl acetate

     -  retinyl palmitate

     -  beta-carotene

VITAMIN D :

     -  cholecalciferol

     -  ergocalciferol

VITAMIN E :

     -  D-alpha-tocopherol

     -  DL-alpha-tocopherol

     -  D-alpha-tocopheryl acetate

     -  DL-alpha-tocopheryl acetate

     -  D-alpha-tocopheryl acid succinate

VITAMIN K :

     -  phylloquinone (phytomenadione)

VITAMIN B1 :

     -  thiamin hydrochloride

     -  thiamin mononitrate

VITAMIN B2 :

     -  riboflavin

     -  riboflavin 5'-phosphate, sodium

NIACIN :

     -  nicotinic acid

     -  nicotinamide

PANTOTHENIC ACID :

     -  D-pantothenate, calcium

     -  D-pantothenate, sodium

     -  dexpanthenol

VITAMIN B6 :

     -  pyridoxine hydrochloride

     -  pyridoxine 5'-phosphate

     -  pyridoxine dipalmitate

FOLIC ACID :

     -  pteroylmonoglutamic acid

VITAMIN B12 :

     -  cyanocobalamin

     -  hydroxocobalamin

BIOTIN :

     -  D-biotin

VITAMIN C :

     -  L-ascorbic acid

     -  sodium-L-ascorbate

     -  calcium-L-ascorbate

     -  potassium-L-ascorbate

     -  L-ascorbyl 6-palmitate

Categori 2. Mwynau
CALCIUM :

     -  carbonate

     -  chloride

     -  salts of citric acid

     -  gluconate

     -  glycerophosphate

     -  lactate

     -  salts of orthophosphoric acid

     -  hydroxide

     -  oxide

MAGNESIUM :

     -  acetate

     -  carbonate

     -  chloride

     -  salts of citric acid

     -  gluconate

     -  glycerophosphate

     -  salts of orthophosphoric acid

     -  lactate

     -  hydroxide

     -  oxide

     -  sulphate

IRON :

     -  ferrous carbonate

     -  ferrous citrate

     -  ferric ammonium citrate

     -  ferrous gluconate

     -  ferrous fumarate

     -  ferric sodium diphosphate

     -  ferrous lactate

     -  ferrous sulphate

     -  ferric diphosphate (ferric pyrophosphate)

     -  ferric saccharate

     -  elemental iron (carbonyl + electrolytic + hydrogen reduced)

COPPER :

     -  cupric carbonate

     -  cupric citrate

     -  cupric gluconate

     -  cupric sulphate

     -  copper lysine complex

IODINE :

     -  potassium iodide

     -  potassium iodate

     -  sodium iodide

     -  sodium iodate

ZINC :

     -  acetate

     -  chloride

     -  citrate

     -  gluconate

     -  lactate

     -  oxide

     -  carbonate

     -  sulphate

MANGANESE :

     -  carbonate

     -  chloride

     -  citrate

     -  gluconate

     -  glycerophosphate

     -  sulphate

SODIUM :

     -  bicarbonate

     -  carbonate

     -  chloride

     -  citrate

     -  gluconate

     -  lactate

     -  hydroxide

     -  salts of orthophosphoric acid

POTASSIUM :

     -  bicarbonate

     -  carbonate

     -  chloride

     -  citrate

     -  gluconate

     -  glycerophosphate

     -  lactate

     -  hydroxide

     -  salts of orthophosphoric acid

SELENIUM :

     -  sodium selenate

     -  sodium hydrogen selentine

     -  sodium selenite

CHROMIUM (III) and their hexahydrates :

     -  chloride

     -  sulphate

MOLYBDENUM (VI) :

     -  ammonium molybdate

     -  sodium molybdate

FLUORINE :

     -  potassium fluoride

     -  sodium fluoride

Categori 3. Asidau amino


     -  L-alanine

     -  L-arginine

     -  L-cysteine

     -  Cystine

     -  L-histidine

     -  L-glutamic acid

     -  L-glutamine

     -  L-isoleucine

     -  L-leucine

     -  L-lysine

     -  L-lysine acetate

     -  L-methionine

     -  L-ornithine

     -  L-phenylalanine

     -  L-threonine

     -  L-tryptophan

     -  L-tyrosine

     -  L-valine

Ar gyfer asidau amino, i'r graddau y bo hynny'n gymwys caniateir defnyddio hefyd eu halwynau sodiwm, potasiwm, calsiwm a magnesiwm yn ogystal â'u hydrocloridau

Categori 4. Carnitin a thawrin


     -  L-carnitine

     -  L-carnitine hydrochloride

     -  taurine

Categori 5. Niwcleotidau


     -  adenosine 5'-phosphoric acid (AMP)

     -  sodium salts of AMP

     -  cytidine 5'-monophosphoric acid (CMP)

     -  sodium salts of CMP

     -  guanosine 5'-phosphoric acid (GMP)

     -  sodium salts of GMP

     -  insosine 5'-phosphoric acid (IMP)

     -  sodium salts of IMP

     -  uridine 5'-phosphoric acid (UMP)

     -  sodium salts of UMP

Categori 6. Colin ac inositol


     -  choline

     -  choline chloride

     -  choline bitartrate

     -  choline citrate

     -  inositol



ATODLEN 2
Rheoliad 3(1)(a)


SYLWEDDAU YCHWANEGOL Y GELLIR EU HYCHWANEGU AT DDIBENION MAETHOL PENODOL MEWN BWYDYDD AT DDIBENION MEDDYGOL ARBENNIG


Categori 3. Asidau amino


     -  L-aspartic acid

     -  L-citrulline

     -  glycine

     -  L-proline



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn yn rhan o'r Rheoliadau)


     1. Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu yng Nghymru Gyfarwyddeb y Cyngor 2001/15/EC ar sylweddau y gellir eu hychwanegu at ddibenion maethol penodol mewn bwydydd at ddefnydd maethol neilltuol.

     2. Mae'r Rheoliadau hyn yn ymwneud â bwyd ar gyfer y rhan fwyaf o ddefnyddiau maethol neilltuol (ceir diffiniad o "bwyd DMN dynodedig" yn rheoliad 2(1) sy'n eithrio fformwlâu babanod, fformwlâu dilyn ymlaen, bwydydd seiliedig ar rawn a broseswyd a bwydydd babanod a fwriadwyd ar gyfer babanod a phlant ifanc) pan fo sylwedd sy'n dod o fewn un o'r categorïau canlynol wedi cael ei ychwanegu at y bwyd hwnnw at ddiben maethol penodol: fitaminau, mwynau; asidau amino; carnitin a thawrin; niwcelotidau, colin ac inositol. Mae'r Rheoliadau yn gwahardd gwerthu bwydydd o'r fath oni bai bod y sylwedd wedi'i restru o dan y categori perthnasol yn Atodlen 1 neu, yn achos bwydydd at ddibenion meddygol arbennig, wedi'i restru o dan y categori perthnasol yn naill ai Atodlen 1 neu 2. Rhaid bodloni meini prawf perthnasol sy'n ymwneud â phurdeb ar gyfer y sylwedd. (Rheoliad 3(1) i (3)).

     3. Mae'r Rheoliadau hefyd yn gosod cyfyngiadau cyffredinol ar werthu bwydydd DMN dynodedig y defnyddiwyd unrhyw sylweddau at ddibenion maethol penodol wrth eu cyhyrchu (rheoliad 3(4)); ac yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r gweithgynhyrchydd neu'r mewnforiwr gyflewni gwybodaeth i'r Asiantaeth Safonau Bwyd os gwneir cais am hynny er mwyn gwirio bod y safonau hynny wedi'u bodloni (rheoliad 4). Mae'r Rheoliadau yn gwahardd y gweithgynhyrchydd neu'r mewnforiwr rhag gwerthu bwydydd DMN dynodedig penodol y mae L-tryptoffan wedi cael ei ychwanegu atynt at ddiben maethol penodol, oni bai bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cael ei hysbysu ymlaen llaw cyn bod bwyd o'r math neilltuol hwnnw yn cael ei farchnata am y tro cyntaf (rheoliad 5).

     4. Mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chyfrifoldebau ar gyfer gorfodi (rheoliad 6); creu tramgwyddau a chosbau (rheoliad 7) ac yn cymhwyso rhai o ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 9). Mae'r Rheoliadau hefyd yn cynnig amddiffyniad mewn perthynas ag allforion, yn unol ag Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/397/EEC (OJ Rhif L186, 30.6.89, t.23) ar reolaeth swyddogol bwydydd (rheoliad 8).

     5. Mae'r Rheoliadau hefyd yn datgymhwyso'r gwaharddiadau yn Rheoliadau Tryptoffan mewn Bwyd 1990 (o safbwynt eu cymhwyso mewn perthynas â Chymru) i'r graddau y maent yn gwrthdaro â Chyfarwyddeb 2001/15/EC, Erthygl 5 o Gyfarwyddeb y Comisiwn 91/321/EEC (OJ Rhif L175, 4.7.91, t.35) ar fformwlâu babanod a fformwlâu dilyn ymlaen ac Erthygl 5 o Gyfarwyddeb y Comisiwn 96/5/EC (OJ Rhif L49, 28.2.96, t.17) ar fwydydd seiliedig ar rawn a broseswyd a bwydydd babanod ar gyfer babanod a phlant ifanc (rheoliad 10).

     6. Paratowyd arfarniad Rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House, Caerdydd CF10 1EN.


Notes:

[1] 1990 p.16.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau the Secretary of State o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back

[4] OJ Rhif L186, 30.6.89, t.27.back

[5] OJ Rhif L172, 8.7.1999, t.38.back

[6] OJ Rhif L52, 22.2.2001, t.19.back

[7] OJ Rhif L253, 21.9.2001, t.34.back

[8] O.S. 1990/1728, y mae diwygiad iddo nad yw'n berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[9] OJ Rhif L52, 22.2.2001, t.19.back

[10] OJ Rhif L253, 21.9.2001, t.34.back

[11] O.S. 1995/77, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[12] O.S. 1997/2042, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[13] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090591 1


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2002
Prepared 16 December 2002