Rheoliadau Erthylu (Diwygio) (Cymru) 2002 © Hawlfraint y Goron 2002 Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines. Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Rheoliadau Erthylu (Diwygio) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090586 5. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited. Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2 o Ddeddf Erthylu 1967 [1]) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso 1. - (1) Enw'r rheoliadau hyn yw Rheoliadau Erthylu (Diwygio) (Cymru)2002, a deuant i rym ar 17 Rhagfyr 2002 (2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau Erthylu 1991[2]. (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Diwygio rheoliad 2 2. Yn lle rheoliad 2 (dehongli) yn y prif Reoliadau rhowch -
Diwygio rheoliad 3
(ii) in a certificate signed and dated by both practitioners jointly or in separate certificates signed and dated by each practitioner stating: -
(b) the full name and address of the pregnant woman; (c) whether or not each practitioner has seen or examined, or seen and examined, the pregnant woman; and (d) that each practitioner is of the opinion formed in good faith that at least one and the same ground mentioned in paragraph (a) to (d) of section 1(1) of the Act is fulfilled.
(b) in the case of a pregnancy terminated in accordance with section 1(4) of the Act, either -
(ii) in a certificate giving the full name and address of the practitioner and containing: -
(b) stating that the practitioner is of the opinion formed in good faith that one of the grounds mentioned in section 1(4) of the Act is fulfilled.".
Diwygio rheoliad 4
(ii) yn lle'r geiriau "in a sealed envelope within 7 days of termination" rhowch y geiriau "or her within 14 days of the termination either in a sealed envelope or by electronic communication transmitted by an electronic communications system solely used for the transfer of confidential information to him or her";
(b) ym mharagraff (2) -
(ii) yn lle'r geiriau "of the Welsh Office, Cathays Park, Cardiff, CF1 3NQ" rhowch y geiraiu "for Wales, National Assembly for Wales, Cathays Park, Cardiff, CF10 3NQ.".
Diwygio rheoliad 5
(ii) yn lle'r geiriau "of that Office" rhowch "for Wales";
(b) ar ôl is-baragraff (a)(ii) ychwaneger -
(c) ar ôl paragraff (h) ychwaneger -
Amnewid 1. Full name and address (including postcode) of the practitioner who terminated the pregnancy and the General Medical Counsel registration number of the practitioner. 2. In non-emergency cases particulars of the practitioners who gave a certificate of opinion pursuant to section 1(1) of the Act and whether they saw or examined, or saw and examined the patient before giving the certificate. 3. Patient's details -
(b) date of birth; (c) in the case of a patient resident in the United Kingdom, her full postcode or, if the postcode is unavailable, her address; (d) in the case of a patient resident outside the United Kingdom, her country of residence; (e) ethnicity (if disclosed by the patient); (f) martial status; and (g) parity.
4.
Name and address of place of termination.
(b) the method of termination used; and (c) in cases where the dates are different, the date of admission to the place of termination and the date of discharge from the place of termination;
8.
In a case where the termination is by non-surgical means -
(b) the date of treatment with prostaglandin; (c) the date the termination is confirmed; (d) in cases where the place of treatment with prostaglandin is different from the place of treatment with antiprogestrone, the name and address at which the prostaglandin was administered; (e) details of other agents used and the date of administration; and (f) the date of discharge if an overnight stay is required.
9.
Number of complete weeks of gestation.
(b) the grounds specified in paragraphs (b) and (c), the main medical condition(s) of the patient; (c) the ground specified in paragraph (d), any foetal abnormalities diagnosed, together with method of diagnosis used, and any other reasons for termination.
11.
The ground(s) certified for terminating the pregnancy contained in the certificate of opinion given pursuant to section 1(4) of the Act and the patient's main medical conditions;
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Erthylu 1991 ("y prif Reoliadau"). Mae Rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 3 o'r prif Reoliadau i ddarparu ar gyfer tystysgrifau barn a roddir yn unol ag adrannnau 1(1) a 1(4) o Ddeddf Erthylu 1967 i gael eu rhoi naill ai yn y ffurf a bennir yn Rhan I a Rhan II o'r Atodlen i'r Rheoliadau hynny neu mewn tystysgrif sy'n cynnwys yr wybodaeth a bennir yn y Rheoliadau hynny. Mae rheoliadau 4 (hysbysiad o derfyniad) a 6 yn amnewid Atodlen 2 newydd i'r prif Reoliadau gan bennu'r wybodaeth sydd i'w hysbysu i'r Prif Swyddog Meddygol o fewn 14 diwrnod o derfyniad beichiogrwydd a darparu bod yr hysbysiad yn cael ei anfon mewn amlen dan sêl neu'n cael ei drosglwyddo fel gohebiaeth electronig sy'n defnyddio system cyfathrebu electronig a ddefnyddir yn unig ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth gyfrinachol i'r Prif Swyddog. Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 5 o'r prif Reoliadau (cyfyngu ar ddatgelu gwybodaeth) i ddarparu ar gyfer hysbysiad o derfyniad beichiogrwydd a'r wybodaeth sy'n cyd-fynd ag ef i gael ei ddatgelu i unigolyn a awdurdodir gan y Prif Swyddog Meddygol sy'n ymwneud â gosod, cynnal neu gefnogi system gyfrifiadurol a ddefnyddir at ddibenion cofnodi, prosesu neu gynnwys hysbysiad neu wybodaeth o'r fath (rheoliad 5(b)) a'i datgelu i fenyw y terfynwyd ei beichiogrwydd, ar ôl iddi gyflwyno i'r Prif Swyddog Meddygol fanylion ysgrifenedig am ei dyddiad geni, dyddiad a lle'r terfyniad a chopi o'r dystysgrif gofrestru a ardystiwyd yn gopi dilys o'r gwreiddiol gan gyfreithiwr neu ymarferydd (rheoliad 5(c)). Notes: [1] 1967 p.87; diwygiwyd adran 2(2) gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Iechyd a Nawdd Cymdeithasol) 1988 (O.S.1988/1843), erthygl 5(4) ac Atodlen 3 a chan Ddeddf yr Alban (Addasdiadau Canlyniadol) (Rhif 1) 1999 (O.S.1999/1042), erthygl 5 ac Atodlen 3. Trosglwyddwyd swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru o dan adran 2 o'r Ddeddf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.199/672), ac Atodlen 1 iddo.back
ISBN 0 11090586 5
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 29 November 2002 |