Rheoliadau Addysg (Cynllun Grant Dysgu'r Cynulliad) (Cymru) (Diwygio) 2002 © Hawlfraint y Goron 2002 Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines. Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Rheoliadau Addysg (Cynllun Grant Dysgu'r Cynulliad) (Cymru) (Diwygio) 2002, ISBN 0 11090585 7. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited. Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 484, 489 a 569(4) o Ddeddf Addysg 1996[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yn y Cynulliad Cenedlaethol[2]. Enw, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cynllun Grant Dysgu'r Cynulliad) (Cymru) (Diwygio) 2002 a deuant i rym ar 15 Tachwedd 2002. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag awdurdodau addysg lleol yng Nghymru. Diwygio Rheoliadau 2. Yn Rheoliadau Addysg (Cynllun Grant Dysgu'r Cynulliad) (Cymru) 2002[3], yn lle'r Atodlen rhodder - 1. Gwneud dyfarndaliadau addysg ôl-orfodol o'r enw Grantiau Dysgu'r Cynulliad o dan Reoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Dyfarndaliadau Addysg Ôl-orfodol) (Cymru) 2002[4] i bersonau -
(b) sy'n bodloni amodau cymhwyster eraill (os oes rhai) ar gyfer y Cynllun hwnnw,
at y diben y cyfeirir ato ym mharagraff 2.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Cynllun Grant Dysgu'r Cynulliad) (Cymru) 2002 drwy amnewid Atodlen newydd. Mae'r Atodlen newydd yn ei gwneud yn eglur mai bwriad Cynllun Grant Dysgu'r Cynulliad yw galluogi y rheiny sydd ag adnoddau ariannol cyfyngedig i fynd ar gyrsiau addysg bellach neu addysg uwch drwy ddarparu cymorth ariannol tuag at gost llyfrau, cyfarpar, teithio neu ofal plant yr eir iddo mewn cysylltiad â mynychu cwrs o'r fath. Notes: [1] 1996 p.56; diwygir adrannau 484 a 489 gan adran 140(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a pharagraffau 125 a 126 o Atodlen 30 iddi. I gael ystyr "regulations" gweler adran 579(1).back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] O.S. 2002/1857 (Cy.181).back [4] O.S. 2002/1856 (Cy.180).back
ISBN 0 11090585 7
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 26 November 2002 |