Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Costau Ymchwiliadau etc.) (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2002 © Hawlfraint y Goron 2002 Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines. Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Costau Ymchwiliadau etc.) (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090581 4. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited. Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 303A(5) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[1] ("y Ddeddf") ac sydd bellach yn arferadwy, mewn perthynas â Chymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Costau Ymchwiliadau etc.) (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2003. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru. Personau ac ymchwiliadau y mae'r Rheoliadau yn gymwys iddynt 2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw berson sy'n cael ei benodi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gynnal, neu fel un o'r personau sydd i gynnal, ymchwiliad cymwys, yn unol ag ystyr y term hwnnw yn adran 303A(1) o'r Ddeddf, sy'n agor ar neu ar ôl y dyddiad y mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym. Y swm dyddiol safonol 3. Y swm dyddiol safonol a ragnodir o dan adran 303A(5) o'r Ddeddf yw:
(b) £618, os yw'r dyddiad y mae'r ymchwiliad cymwys yn agor ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn gymwys pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i awdurdodi i adennill y costau y mae wedi'u hysgwyddo mewn cysylltiad ag ymholiadau neu wrandawiadau eraill sy'n ymwneud â chynlluniau datblygu unedol, cynlluniau lleol neu barthau cynllunio syml. Mae'r Rheoliadau yn pennu swm dyddiol safonol y gellir ei godi am bob diwrnod y mae'r person sydd wedi'i benodi i gynnal yr ymchwiliad neu'r gwrandawiad arall wrthi'n cynnal yr ymchwiliad neu'r gwrandawiad hwnnw neu os yw wrthi fel arall yn gwneud gwaith sy'n gysylltiedig ag ef.
Notes: [1] 1990 p.8. Mewnosodwyd adran 303A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 gan adran 1 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref (Costau Ymchwiliadau etc.) 1995 (p.49). Gweler adran 336(1) o Ddeddf 1990 i gael y diffiniad o "prescribed".back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adran a enwyd, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2; gweler y cofnod yn Atodlen 1 ar gyfer Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.back
ISBN 0 11090581 4
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 22 November 2002 |