Rheoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) (Diwygio) (Cymru) 2002 © Hawlfraint y Goron 2002 Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines. Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Rheoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) (Diwygio) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090584 9. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited. Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 132(3) a (4), a 146(1) a (2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996[1] fel y'u hestynnwyd gan adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993[2], yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 13 Tachwedd 2002. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig ac nid ydynt yn effeithiol mewn perthynas â cheisiadau grant sy'n cael eu gwneud cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym. Diwygiadau 2. - (1) Mae'r ffurflen (Saesneg) a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) 1997[3] yn cael ei diwygio yn unol â thestun Saesneg yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn. (2) Mae'r ffurflen (Gymraeg) a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) (Ffurflen Gais Gymraeg) 1999[4]) yn cael ei diwygio yn unol â thestun Cymraeg yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]. D.Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 12 Tachwedd 2002 1. Ar ddiwedd cwestiwn 4.1, ychwanegwch -
2.
Yng nghwestiwn 4.29 mewnosodwch y canlynol yn y lle priodol -
£ Nodyn 44C"; (b) "Lwfans ceisio gwaith drwy gais ar y cyd: £ £ Nodyn 8"; (c) "Lwfans mam weddw: £ £ Nodyn 44D"; (d) "Lwfans rhiant gweddw: £ £ Nodyn 44D".
3.
Ar ôl cwestiwn 4.34B, mewnosodwch -
4.
Ym mharagraffau (a) a (b) o'r Awdurdodiad ar ddiwedd Rhan 4 o'r ffurflen, ar ôl "lwfans ceisio gwaith ar sail incwm" mewnosodwch "neu lwfans ceisio gwaith drwy gais ar y cyd".
(b) ar ôl "Rhan 4", yn yr ail le y mae'n digwydd, mewnosodwch "os yw'r cwpl yn cael lwfans ceisio gwaith drwy gais ar y cyd, caiff dau aelod y cwpl lenwi'r awdurdodiad ar ddiwedd Rhan 4.".
6.
Yn y rhestr ym mharagraff cyntaf nodyn 43 yn lle "neu yn Newis Tasglu Amgylchedd y Fargen Newydd lle yr ydych chi yn hunangyflogedig o dan Ddewis Cyflogaeth y Fargen Newydd a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973;" rhowch ",Dewis Tasglu Amgylchedd y Fargen Newydd lle yr ydych chi yn hunangyflogedig o dan Ddewis Cyflogaeth y Fargen Newydd, rhaglen y Cyfnod Gweithgaredd Dwys neu'r Cyfnod Gweithgaredd Dwys ar gyfer y rhai dros 50 a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973 neu fel cymhorthdal i gefnogi eich hunangyflogaeth".
44D. Telir lwfans mam weddw o dan adran 37 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 a thelir lwfans rhiant gweddw o dan adran 39A o'r Ddeddf honNo. ".
8.
Ar ôl nodyn 50E, mewnosodwch -
9.
Ar ddiwedd nodyn 53, ychwanegwch:
10.
Yn nodyn 55A yn lle "Rhan 3" rhowch "Rhan 4. Os yw cwpl yn cael lwfans ceisio gwaith drwy gais ar y cyd, caiff dau aelod y cwpl lenwi'r awdurdodiad ar ddiwedd Rhan 4.". (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r ffurflenni (dwyieithog), sydd i'w defnyddio i wneud cais am grant adleoli sy'n daladwy o dan adrannau 131 i 140 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996. Mae'r ffurflen Gymraeg sy'n cael ei diwygio wedi'i nodi yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) (Ffurflen Gais Gymraeg) 1999 (O.S. 1999/2315 fel y'i diwygiwyd). Mae'r ffurflen Saesneg sy'n cael ei diwygio wedi'i nodi yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) 1997 (O.S. 1997/2847 fel y'i diwygiwyd). Mae'r diwygiadau yn dilyn y diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 2002 (O.S.2798) (Cy.266) i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 (O.S. 1996/2890). Notes: [1] 1996 p.53. Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol wedi'u trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. I gael y diffiniad o "prescribed" gweler adran 140(1).back [3] O.S. 1997/2847, a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/810, 1999/1541, 1999/2625, 2000/720, 2001/2072 (Cy.144) a 2001/4008 (Cy.334).back [4] O.S. 1999/2315, a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/3469 (Cy.55), 2000/1710 (Cy.116), 2001/2072 (Cy.144) a 2001/4008 (Cy.334).back
ISBN 0 11090584 9
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 26 November 2002 |