Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflenni a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2002 © Hawlfraint y Goron 2002 Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines. Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflenni a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090583 0. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited. Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 2(2) a (4), a 146(1) a (2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996[1] fel y'u hestynnwyd gan adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993[2], yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflenni a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 13 Tachwedd 2002. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig ac nid ydynt yn effeithiol mewn perthynas â cheisiadau grant sy'n cael eu gwneud cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym. Diwygiadau 2. - (1) Mae'r ffurflen (Saesneg ei hiaith) a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) 1996[3] yn cael ei diwygio fel a nodir yn y testun Saesneg o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn. (2) Mae'r ffurflen (Gymraeg ei hiaith) a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Ffurflen a Manylion Cymraeg) 1998[4] yn cael ei diwygio fel a nodir yn y testun Cymraeg o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]. D.Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 12 Tachwedd 2002 1. Ar ddiwedd cwestiwn 3.1, ychwanegwch -
2.
Yng nghwestiwn 3.29 mewnosodwch y canlynol yn y lle priodol -
£ Nodyn 84C"; (b) "Lwfans ceisio gwaith drwy gais ar y cyd: £ £ Nodyn 48"; (c) "Lwfans mam weddw: £ £ Nodyn 84D"; (d) "Lwfans rhiant gweddw: £ £ Nodyn 84D".
3.
Ar ôl cwestiwn 3.34B, mewnosodwch -
4.
Ym mharagraffau (a) a (b) o'r Awdurdodiad ar ddiwedd Rhan 3 o'r ffurflen, ar ôl "lwfans ceisio gwaith ar sail incwm" mewnosodwch "neu lwfans ceisio gwaith drwy gais ar y cyd".
(b) ar ôl "Rhan 3", yn yr ail le y mae'n digwydd, mewnosodwch "os yw'r cwpl yn cael lwfans ceisio gwaith drwy gais ar y cyd, caiff dau aelod y cwpl lenwi'r awdurdodiad ar ddiwedd Rhan 3.".
6.
Yn y rhestr ym mharagraff cyntaf nodyn 83 yn lle "neu yn Newis Tasglu Amgylchedd y Fargen Newydd lle yr ydych chi yn hunangyflogedig o dan Ddewis Cyflogaeth y Fargen Newydd a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973;" rhowch ",yn Newis Tasglu Amgylchedd y Fargen Newydd lle yr ydych chi yn hunangyflogedig o dan Ddewis Cyflogaeth y Fargen Newydd, rhaglen y Cyfnod Gweithgaredd Dwys neu'r Cyfnod Gweithgaredd Dwys ar gyfer y rhai dros 50 a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973 neu gymhorthdal i gefnogi eich hunangyflogaeth".
84D.
Telir lwfans mam weddw o dan adran 37 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 a thelir lwfans rhiant gweddw o dan adran 39A o'r Ddeddf honNo. ".
8.
Ar ôl nodyn 90E, mewnosodwch -
9.
Ar ddiwedd nodyn 93, ychwanegwch: (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r Ffurflenni (dwyieithog) sydd i'w defnyddio gan berchen-feddianwyr a thenantiaid wrth wneud cais am grantiau adnewyddu tai o dan Bennod I o Ran I o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996. Mae'r ffurflen Gymraeg sy'n cael ei diwygio wedi'i nodi yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion a Ragnodir) (Ffurflen a Manylion Cymraeg) 1998 (O.S. 1998/1113 fel y'i diwygiwyd). Mae'r ffurflen Saesneg sy'n cael ei diwygio wedi'i nodi yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion a Ragnodir) 1996 (O.S. 1996/2891 fel y'i diwygiwyd). Mae'r diwygiadau yn dilyn y diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 2002 (O.S. 2798) (Cy.266)i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 (O.S. 1996/2890). Notes: [1] 1996 p.53. Mae Swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol wedi'u trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn. I gael y diffiniad o "prescribed" gweler adran 101.back [3] O.S. 1996/2891, a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/3199, 1997/978, 1998/809, 1999/1607, 1999/3470 (Cy.56), 2000/1735 (Cy.119), 2001/2071 (Cy.143) a 2001/4006 (Cy.332).back [4] O.S. 1998/1113 a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/2316, 1999/3470 (Cy.56), 2000/1735 (Cy.119), 2001/2071 (Cy.143) a 2001/4006 (Cy.332).back
ISBN 0 11090583 0
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 26 November 2002 |