Offerynnau Statudol 2002 Rhif 2780 (Cy.264)

      Rheoliadau Ffioedd Ymchwiliadau (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2002


      © Hawlfraint y Goron 2002

      Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines.

      Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Rheoliadau Ffioedd Ymchwiliadau (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090580 6. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited.

      Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2002 Rhif 2780 (Cy.264)

TRIBIWNLYSOEDD AC YMCHWILIADAU, CYMRU

Rheoliadau Ffioedd Ymchwiliadau (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2002

  Wedi'u gwneud 8 Tachwedd 2002 
  Yn dod i rym 29 Tachwedd 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 42(4) o Ddeddf Tai a Chynllunio 1986[1] i unrhyw Weinidog a awdurdodwyd, o dan y darpariaethau statudol hynny a bennir yn adran 42(1) o'r Ddeddf honno neu yn rhinwedd y darpariaethau hynny neu y mae'r adran honno yn cael ei chymhwyso iddynt[2], i adennill y costau a dynnwyd gan y Gweinidog mewn perthynas ag ymchwiliad, sef pwerau sy'n arferadwy bellach gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru[3] mewn perthynas â Chymru, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ffioedd Ymchwiliadau (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 29 Tachwedd 2002.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Yr ymchwiliadau y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt
    
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ymchwiliadau y mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru hawl i adennill ei gostau mewn perthynas â hwy o dan y darpariaethau canlynol neu yn rhinwedd y darpariaethau hynny, sef - 

    (a) adran 250(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972[4] (darpariaethau cyffredinol ynglycircn â chostau ymchwiliadau),

    (b) adran 129(1)(d) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984[5] (costau ymchwiliad o dan y Ddeddf honno),

    (c) adran 69(5) o Ddeddf Traenio Tir 1991[6] (costau ymchwiliad o dan y Ddeddf honno),

os yw'r ymchwiliad yn agor ar y dyddiad y mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym neu ar ôl hynny.

Y swm dyddiol safonol
     3. Y swm dyddiol safonol a ragnodir o dan adran 42(4) o Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 ar gyfer ymchwiliadau y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt yw - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
7])


Rhodri Morgan
Prif Weinidog y Cynulliad Cenedlaethol

8 Tachwedd 2002



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn gymwys os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i awdurdodi o dan ddarpariaethau penodedig neu yn rhinwedd y darpariaethau hynny i adennill ei gostau mewn cysylltiad â chynnal ymchwiliad o dan rai deddfiadau, sef:

    (a) Deddf Llywodraeth Leol 1972;

    (b) Deddf Rheoleiddio Traffig 1984; ac

    (c) Deddf Traenio Tir 1991.

Maent yn pennu swm safonol y gellir ei godi am bob diwrnod y mae'r ymchwiliad yn eistedd neu y mae'r person sydd wedi'i benodi i'w gynnal wrthi'n gwneud gwaith arall mewn cysylltiad ag ef. £566 yw'r swm os yw'r ymchwiliad yn agor ar y diwrnod y mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym (29 Tachwedd 2002) neu ar ôl hynny ond cyn 1 Ebrill 2003 a £645 os yw'r ymchwiliad yn agor ar 1 Ebrill 2003 neu ar ôl hynny.


Notes:

[1] 1986 p.63. Diddymwyd adran 42(1)(b) gan Ran I o Atodlen 3 i Ddeddf Cydgrynhoi Dwcirc r (Darpariaethau Ôl-ddilynol) 1991 (p.60) a diddymwyd adran 42(1)(d) gan Ran II o Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42).back

[2] Mae adran 69(7) o Ddeddf Traenio Tir 1991 yn darparu y bydd adran 42 o Ddeddf Cynllunio a Thai 1986 yn gymwys os bydd y naill neu'r llall o "the Ministers" wedi'i awdurdodi'n briodol i adennill y costau a dynnwyd gan y Gweinidog hwnnw fel y mae'n gymwys os yw Gweinidog wedi'i awdurdodi felly yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad a bennir yn adran 42(1) o Ddeddf 1986. Mae adran 69(5) o Ddeddf 1991 yn awdurdodi'r naill neu'r llall o "the Ministers", h.y. yr Ysgrifennydd Gwladol neu'r Gweinidog dros Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (gweler adran 72(1) o Ddeddf 1991 i gael y diffiniad o "the Ministers") i adennill y costau a dynnwyd gan y Gweinidog hwnnw mewn perthynas ag ymchwiliad a gynhaliwyd gan y Gweinidog hwnnw. Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Erthygl 2 o Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O dan ddarpariaethau Erthygl 2 ac Atodlen 1 i o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253 (Cy.5)) mae pwerau Gweinidog o dan adran 42 o Ddeddf Cynllunio a Thai 1986 yn arferadwy, mewn perthynas â Chymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ar y cyd ag unrhyw un o Weinidogion y Goron y maent yn arferadwy ganddo.back

[4] 1972 p.70.back

[5] 1984 p.27.back

[6] 1991 p.59.back

[7] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090580 6


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2002
Prepared 22 November 2002