Offerynnau Statudol 2002 Rhif 2532 (Cy.248)(C.81)

      Gorchymyn Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (Cychwyn) (Cymru) 2002


      © Hawlfraint y Goron 2002

      Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines.

      Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Gorchymyn Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (Cychwyn) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090576 8. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited.

      Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2002 Rhif 2532 (Cy.248)(C.81)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (Cychwyn) (Cymru) 2002

  Wedi'i wneud 7 Hydref 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 38(1), 42(3) a (4)(c), (d) ac (e)(iii) a (iv) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002[1] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: - 

Enwi, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (Cychwyn) (Cymru) 2002.

    (2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr "y Ddeddf "("the Act") yw Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002.

    (3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Y diwrnod penodedig
    
2. 10 Hydref 2002 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau'r Ddeddf a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2]


Jane E. Hutt
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

7 Hydref 2002



YR ATODLEN
Erthygl 2


DARPARIAETHAU'R DDEDDF SY'N DOD I RYM AR 10 HYDREF 2002


Darpariaethau'r Ddeddf Y Pwnc
Adran 6 Byrddau Iechyd Lleol
Adran 9 Cyllido Byrddau Iechyd Lleol
Adran 10 Gwariant cyrff GIG
Adran 23 Cydweithio â'r gwasanaeth carchardai
Adran 24 Strategaethau Iechyd a Llesiant yng Nghymru
Adran 37 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 8 ac Atodlen 9 a bennir isod: -  Mân ddiwygiadau canlyniadol a diddymiadau
Yn Atodlen 8 - 

Paragraff 1;

Paragraff 2;

Paragraff 3;

Paragraff 4(1),(2)(b) ac (c);

Paragraff 8;

Paragraff 9;

Paragraff 10;

Paragraff 11;

Paragraff 18;

Paragraff 19;

Paragraff 20;

Paragraff 21;

Paragraff 22;

Paragraff 23;

Paragraff 24;

Paragraff 25;

Paragraff 26;

Paragraff 27;

Paragraff 30;

Paragraff 31;

Paragraff 32;

Paragraff 33;

Paragraff 34;

Paragraff 36;

Paragraff 37.

    
Yn Atodlen 9, i'r graddau y mae'n ymwneud â Chymru, diddymu: -      
Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (C.49):

Yn adran 22(1A), y gair "or" ar ddiwedd paragraff (c); adran 28(A)(1), y gair "and" ar ddiwedd paragraff (a); adran 29B(3), y gair "or" ar ddiwedd paragraff (b); yn adran 33(1A)(b), y geiriau "for areas in Wales"; yn adran 44(2), y geiriau "with the approval of the Health Authority"; adran 51(3), y gair ("and") ar ddiwedd paragraff (bb); adran 97(6)(bb) ac (c) ac (8); adran 125, y gair "and" ar ddiwedd paragraff (bb); adran 126(4A), y gair "or" ar ddiwedd paragraff (b) ac yn Atodlen 12A, ym mharagraff 4(2) y gair "or" ar ddiwedd paragraff (a), ym mharagraff 5(1) y gair "and" ar ddiwedd paragraff (a), ym mharagraff 5(2) y gair "or" ar ddiwedd paragraff (a) ac ym mharagraff 7(3) "or Primary Care Trust".

    
Deddf Comisiynwyr y Gwasanaeth Iechyd 1993 (C.46):

Yn adran 2, yn is-adran (2)(a), y geiriau "whose areas are in Wales".

    
Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38):

Yn Atodlen 5, ym mharagraff 20, y geiriau "for an area in, or consisting of, Wales" ac yn Atodlen 17 ym mharagraff 12, y geiriau "for an area in, or consisting of, Wales".

    
Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p.49):

Yn adran 97D(1) (b), y geiriau "apart from subsection (5A)".

    
Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19):

Yn adran 12(4), y geiriau ar ôl paragraff (b).

    
Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19):

Yn atodlen 10, paragraff 11(4).

    
Deddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p. 17):

Adran 1 ac yn Atodlen 1, paragraffau 32(b), 53 a 107(12)(b).

    
Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p.46):

Yn Atodlen 2, paragraffau 71(3), 73 a 75.

    
Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38):

Adran 148.

    
Deddf Iechyd 1999 (p. 8):

Yn Atodlen 4, paragraffau 5, 31(2) a 35.

    
Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p.15):

Adrannau 1(4) a (5), 3(3) (4) a 43(5) ac yn Atodlen 5, paragraff 5(12)(b).

    



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol yng Ngorchymyn Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 mewn perthynas â Chymru.

Mae'r Gorchymyn yn darparu ar gyfer cychwyn darpariaethau sy'n gwneud y canlynol: - 

    (a). galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i sefydlu Byrddau Iechyd Lleol ac i roi swyddogaethau i'r Byrddau a fydd newydd eu sefydlu (adran 6);

    (b). sefydlu mecanwaith ar gyfer cyllido Byrddau Iechyd Lleol a gosod dyletswyddau ariannol penodol mewn perthynas â therfynau gwariant ac adnoddau ar y Byrddau (adran 9);

    (c). galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau mewn perthynas â statws, cyfansoddiad, aelodaeth a swyddogaethau atodol Byrddau Iechyd Lleol (Atodlen 4) ac yn gwneud newidiadau technegol a chanlyniadol i ddeddfwriaeth sy'n bodoli eisoes (Atodlen 5);

    (ch). cadw'r trefniadau presennol ar gyfer cyllido cyrff GIG yng Nghymru nes y bydd Awdurdodau Iechyd Cymru yn cael eu diddymu, yn darparu ar gyfer diffinio gwariant Rhan 1 a Rhan 2 Byrddau Iechyd Lleol i adlewyrchu'r hyn sy'n gymwysadwy i'r Awdurdodau Iechyd a chaniatáu dosrannu'r gydnabyddiaeth y gellir ei phriodoli i gostau cyffuriau rhwng Byrddau Iechyd Lleol (adran 10);

    (d). gofyn am gydweithio rhwng cyrff GIG a'r gwasanaeth carchardai gyda golwg ar sicrhau a chynnal iechyd carcharorion (adran 23);

    (dd). gosod dyletswydd ar bob awdurdod lleol a phob Bwrdd Iechyd Lleol y mae unrhyw ran o'u tir o fewn ardal yr awdurdod lleol i lunio a gweithredu ar y cyd strategaeth ar gyfer iechyd a llesiant aelodau o'r cyhoedd yn ardal yr awdurdod lleol (adran 24);

    (e). cychwyn mân ddiwygiadau a diddymiadau canyniadol (adran 37).


Notes:

[1] 2002 p.17.back

[2] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090576 8


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2002
Prepared 17 October 2002