Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002 © Hawlfraint y Goron 2002 Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines. Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002, ISBN 0 11090571 7. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited. Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, gan weithredu ar y cyd wrth arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1, 8 a 83(2) o Ddeddf Iechyd Anifeilaid 1981[1] yn gwneud y Gorchymyn canlynol - Teitl, cymhwyso, cychwyn a darfod 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002 ac mae'n gymwys i Gymru yn unig. (2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 6 Medi 2002 a bydd ei effaith yn darfod ar 1 Chwefror 2003. Dehongli 2. - (1) Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall -
p meddiannaeth unigol" ("sole occupancy group") yr ystyr a roddir iddo yng Ngorchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002[2];
(2) Bydd yn ffordd ddigonol o gydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn sy'n ei gwneud yn ofynnol i wneud cais, dyroddi trwydded, hysbysiad, awdurdod neu awdurdodiad, adneuo dogfen neu anfon neu roi dogfen, neu sy'n caniatáu gwneud hynny, os cyflawnir hyn drwy gyfrwng gwasanaeth trosglwyddo ffacsimili. Cofnodion a hysbysiadau daliadau 3. - (1) Rhaid i berchennog unrhyw fochyn ar ddaliad neu berson sydd â gofal drosto i hysbysu'n ysgrifenedig y Swyddog Milfeddygol Rhanbarthol ar gyfer yr ardal lle mae'r daliad o'r canlynol -
(b) enw a chyfeiriad perchennog neu feddiannydd y daliad; (c) rhif adnabod y daliad (os yw'n hysbys i'r person sy'n rhoi'r hysbysiad); ac (ch) rhywogaeth unrhyw anifail sy'n cael ei gadw ar y daliad.
(2) Yn achos daliad a sefydlwyd ar ôl i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, rhaid cydymffurfio â'r ddyletswydd a osodir gan baragraff (1) o fewn un mis o sefydlu'r daliad.
(b) o uchafswm y moch sy'n bresennol fel arfer ar y daliad (a hynny'n cael ei ddiwygio o leiaf bob blwyddyn).
(2) Yn achos unrhyw berson sy'n gwerthu unrhyw fochyn (p'un ai drwy arwerthiant neu drwy gytundeb preifat) ar safle sy'n cael ei ddefnyddio fel marchnad ar gyfer moch drwy arwerthiant, rhaid iddo wneud cofnod ysgrifenedig (yn ychwanegol at y cofnodion sy'n ofynnol o dan baragraff (1) uchod) o enw a chyfeiriad gwerthwr a phrynwr pob lot foch, a rhif y gorlan neu'r corlannau lle'r oedd pob lot yn cael ei chadw, a chadw'r cofnod hwnnw yn ei feddiant.
(b) cael ei gadw yn ei feddiant gan berchennog neu geidwad y mochyn neu berchennog y daliad neu'r person sydd â'r gofal drosto am gyfnod o dair blynedd o ddiwedd y flwyddyn y gwnaed y cofnod diwethaf ynddi.
(4) Os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd ar unrhyw adeg resymol, rhaid i unrhyw berson sydd â gofal am y tro dros unrhyw gofnod y mae'n ofynnol ei gadw o dan yr erthygl hon ddangos y cofnod hwnnw a chaniatáu i gopi gael ei wneud ohoNo.
(b) at gymryd darnau neu gopïau o'r cofnod yn gyfeiriadau at eu cymryd ar ffurf ysgrifenedig.
Marciau adnabod 5. - (1) Ni chaiff neb symud mochyn gyda golwg ar ei symud i le y tu allan i Brydain Fawr oni bai ei fod yn cael ei farcio, cyn i'r symudiad ddechrau, â marc adnabod (y mae'n rhaid iddo fod yn ddarllenadwy drwy gydol oes y mochyn y mae'n cael ei ddodi arno) ar ffurf tag clust neu dat .(2) Rhaid i'r marc adnabod y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1) -
(b) rhaid iddo gynnwys rhif gwahaniaethol a neilltuwyd i'r mochyn gan ei berchennog neu geidwad, ac yn achos tag clust, rhaid dodi'r llythyren "P" o flaen y rhif hwnnw.
(3) Ni fydd yn gyfreithlon symud mochyn o ddaliad (ac eithrio gyda golwg ar ei symud i le y tu allan i Brydain Fawr) oni bai ei fod yn cael ei farcio, cyn i'r symudiad ddechrau -
(b) ym mhob achos arall -
(ii) â marc adnabod a fydd yn para o leiaf tan yr amser y bydd y mochyn yn cyrraedd ei gyrchfan ac sy'n caniatáu, naill ar ei ben ei hun neu drwy gyfeiriad at ddogfen sy'n cyd-fynd â'r mochyn yn ystod y symudiad, i'r daliad y symudwyd y mochyn ohono ddiwethaf gael ei adnabod.
(4) Ac eithrio yn unol ag awdurdod a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol, ni fydd yn gyfreithlon i unrhyw berson -
(b) amnewid marc adnabod a ddodwyd ar fochyn neu a roddwyd ynghlwm wrtho yn unol â'r darpariaethau hynny ac eithrio er mwyn amnewid un sydd wedi mynd yn anarllenadwy neu sydd wedi mynd ar goll.
Tagiau clust
(b) ag i fod yn amhosibl ei newid mewn ffordd nad yw'n caniatáu sylwi'n rhwydd fod newid wedi digwydd; a (c) ag i fod yn amhosibl ei ailddefnyddio.
Gwahardd rhai symudiadau moch 7. - (1) Ni chaiff neb -
(b) symud mochyn i ladd-dy ac eithrio er mwyn ei gigydda o fewn 48 awr ar ôl iddo gyrraedd yno; (c) mynd â mochyn o ladd-dy ac eithrio ar ôl iddo gael ei gigydda; neu (ch) dychwelyd mochyn i fferm o farchnad ar gyfer moch y bwriedir eu cigydda ar unwaith.
Cyfyngiad ar symud moch o fewn 20 diwrnod o symudiad blaenorol
(b) symudiad mochyn y bwriedir ei fridio neu beri iddo dyfu o ffynhonnell a gymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i unrhyw safle, pan fydd y symudiad hwnnw wedi'i awdurdodi yn unol ag amodau a nodwyd yn ysgrifenedig gan arolygydd milfeddygol.
Rheoleiddio symud moch (heblaw moch anwes)
(b) y dyddiad y mae'r symudiad yn digwydd; (c) nifer y moch y mae'r ddogfen symud yn ymdrin ag ef; (ch) marc adnabod pob un o'r moch sy'n cael eu symud; (d) yn achos symudiad o farchnad, rhifau lot y moch sy'n cael eu symud.
(2) Pan fydd y moch yn cyrraedd eu cyrchfan, rhaid i'r person sy'n symud y moch roi'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (1) i'r ceidwad yn safle'r gyrchfan a rhaid iddo yntau ei gadw yn ei feddiant am gyfnod o 6 mis.
(b) os nad oes unrhyw anifeiliaid (heblaw anifeiliaid sydd wedi'u symud i'r fferm yn unol â darpariaethau erthygl 3(3) o Orchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002) wedi'u symud i'r fferm honno ar ddiwrnod y gwerthiant neu o fewn cyfnod o 20 diwrnod cyn diwrnod y gwerthiant.
Darpariaethau ynghylch trwyddedau, a.y.y.b
(b) caniateir i'r dogfennau hyn gael eu hamrywio, eu hatal neu eu dirymu gan yr awdurdod dyrannu drwy hysbysiad a roddir i'r person y mae'n cael ei ddyroddi iddo ond heb ragfarnu unrhyw beth a wneir neu yr hepgorir ei wneud cyn i unrhyw amrywiad, ataliad neu ddirymiad o'r fath ddod yn effeithiol.
(3) Pan fydd y Gorchymyn hwn yn cyfeirio at ffurflen sy'n ymddangos mewn Atodlen i'r Gorchymyn hwn, rhaid cymryd bod y cyfeiriad hwnnw yn cynnwys ffurflen y mae ei heffaith yn sylweddol debyg i'r ffurflen yn yr Atodlen honNo. Gorfodi 13. Rhaid i ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn, ac eithrio lle darperir fel arall, gael eu gweithredu a'u gorfodi gan yr awdurdod lleol. Dirymu a.y.y.b. 14. - (1) Dirymir Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002[5]. (2) Bydd effaith Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) 1995[6] yn darfod tra bydd y Gorchymyn hwn mewn grym. Ffurflenni 15. Er gwaethaf erthygl 9 o Orchymyn Anifeiliaid (Darpariaethau Amrywiol) 1927[7], caiff yr awdurdod lleol ddarparu a chyflenwi copïau printiedig o unrhyw ddogfen neu ffurflen sy'n ofynnol o dan y Gorchymyn hwn. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[8] Jane Davidson Y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes am 2:31 p.m. ar 4 Medi 2002 Llofnodwyd Whitty Is-ysgrifennydd Seneddol Yr Adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig am 11:30 a.m. ar 5 Medi 2002 Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002 Enw a chyfeiriad y person sy'n cadw'r cofnod
Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002 Trwyddedir drwy hyn (Enw a chyfeiriad y person a fydd yn symud y moch) a ddisgrifir yn y tabl isod.
Rhaid peidio â symud y moch y mae'r drwydded hon yn ymwneud â hwy ond yn unol â'r llwybrau y mae'r manylion amdanynt i'w cael yn atodlenni [mewnosodwch rifau'r atodlenni ] i'r drwydded hon. Mae'r drwydded hon yn cael ei dyroddi yn ddarostyngedig i'r amodau a nodir drosodd. Mae'r drwydded hon yn ddilys tan (mewnosodwch y dyddiad - hyd at flwyddyn o ddyddiad ei dyroddi). Rhaid ei dychwelyd i'r awdurdod dyroddi os nad yw wedi'i defnyddio. Dyddiad dyroddi Llofnod Enw (Mewn priflythrennau) Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig. PWYSIG: GWELER YR AMODAU AR Y TU CEFN Yr Amodau 1. Dim ond am y cyfnod datganedig y bydd y drwydded hon yn ddilys, ac fe gaiff yr awdurdod dyroddi ei dirymu ar unrhyw adeg. 2. Rhaid i'r person sy'n symud moch o dan y drwydded hon gario copi ohoni drwy gydol y symudiad ac, os gofynnir iddo wneud hynny, ei dangos i gwnstabl neu arolygydd ac, os oes ar y person hwnnw eu hangen, roi ei enw a'i gyfeiriad iddo. Nodyn i'r awdurdod dyroddi: rhaid i'r awdurdod dyroddi anfon copi o'r drwydded hon i awdurdod lleol y gyrchfan o fewn tri diwrnod o'i dyroddi. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i Gymru ac y mae ei effaith yn darfod ar 1 Chwefror 2003, yn datgymhwyso a disodli dros dro Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1995 (O.S. 1995/11, fel y'i diwygiwyd) ("Gorchymyn 1995"). Mae'n cydgrynhoi (gyda diwygiadau) y newidiadau dros dro i Orchymyn 1995, a wnaed gan Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/281 (Cy.33)) ("Gorchymyn 2002"). Yn ychwanegol at y newidiadau a wnaed gan Orchymyn 2002, mae'r Gorchymyn hwn -
(b) yn dileu'r ffurfiau amrywiol ar ddatganiad a nodwyd yn yr Atodlenni i Orchymyn 1995 ac yn eu lle yn ei gwneud yn ofynnol i ddogfen symud sy'n cynnwys gwybodaeth benodol gyd-fynd â phob symudiad moch (heblaw moch anwes) (erthygl 9); a (c) yn ei gwneud yn ofynnol cael trwydded symud ar gyfer symud moch anwes, ac yn nodi ffurf y drwydded honno (erthygl 10).
Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn. Notes: [1] 1981 p.22. Gweler adran 86(1) i gael y diffiniadau o "the Ministers". Mewn perthynas â Chymru, trosglwyddwyd pwerau "the Ministers" i'r graddau yr oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac i'r graddau yr oedd y pwerau hynny yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol yr Alban, fe'u trosglwyddwyd i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999 (O.S. 1999/3141). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd wedi hynny i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S. 2002/ 794).back [2] O.S. 2002/2304 (Cy.229).back [3] O.S. 1995/539, y mae diwygiadau iddynt, nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.back [4] O.S. 2002/2304 (Cy.229).back
ISBN 0 11090571 7
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 20 September 2002 |