Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002 © Hawlfraint y Goron 2002 Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines. Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002, ISBN 0 11090572 5. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited. Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, gan weithredu ar y cyd wrth ymarfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1 ac 8(1) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[1], yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Teitl, cymhwyso, cychwyn a darfod 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002 ac mae'n gymwys i Gymru. (2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 6 Medi 2002 a bydd ei effaith yn darfod ar 1 Chwefror 2003. Dehongli 2. - (1) Yn y Gorchymyn hwn -
p meddiannaeth unigol" ("sole occupancy group") yr ystyr a roddir iddo yn erthygl 2 o Orchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002[4];
(2) Oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr erthygl sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Gorchymyn hwn ac mae unrhyw gyfeiriad mewn erthygl at baragraff neu is-baragraff â rhif neu lythyren yn gyfeiriad at y paragraff neu'r is-baragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw neu'r llythyren honno yn yr erthygl honNo.
(b) o enw a chyfeiriad meddiannydd y daliad; ac (c) a oes defaid neu eifr neu'r ddau yn cael eu cadw fel arfer ar y daliad.
(2) Rhaid i'r ceidwad hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig o unrhyw newid yn y manylion a bennir ym mharagraff (1) o fewn un mis i'r newid hwnnw ddigwydd.
(b) cyfanswm y defaid a symudwyd; (c) un o'r marciau canlynol -
(ii) pan nad oes unrhyw Farc S, y Marc Tarddiad neu'r marc a wnaed o dan reoliad 7(5) o Reoliadau 2000; (iii) pan nad oes unrhyw farc fel a grybwyllwyd yn is-baragraffau (c)(i) neu (ii), y Marc F neu'r Marc R; neu (iv) y rhif adnabod unigol ynghyd â'r marc a ddodwyd yr un pryd â'r rhif adnabod unigol;
(ch) yn achos dafad a symudwyd i'r daliad, cyfeiriad y daliad y daeth ohono; yn achos dafad sy'n cael ei symud oddi ar y daliad, cyfeiriad y daliad y mae'n mynd iddo;
(ii) Marc F sy'n cynnwys y llythrennau "UK", a'r rhif andabod unigol, neu (iii) Marc X a'r rhif adnabod unigol; ac
(ff) yn achos hwrdd sydd wedi'i nodi, wedi'i farcio neu wedi'i dagio â rhif adnabod unigol at ddibenion erthygl 3(2)(b)(xviii), 3(3)(ch), 3(3)(e) neu 3(3)(f) o Orchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002, y rhif adnabod unigol hwnnw ynghyd â'r marc a ddodwyd yr un pryd â'r rhif hwnnw.
(3) Ni fydd paragraff (2)(c) yn gymwys yn achos dafad -
(b) a symudwyd yn uniongyrchol i farchnad er mwyn ei gwerthu i'w chigydda; (c) a symudwyd i ganolfan gasglu cyn cael ei symud i ladd-dy; neu (ch) a ddychwelwyd yn uniongyrchol i ddaliad o farchnad yr oedd wedi'i hanfon iddi er mwyn ei gwerthu i'w chigydda;
ar yr amod bod y ceidwad yn cofnodi'r marc dros dro a ddodwyd ar y ddafad.
(b) y nifer o ddefaid a werthwyd; ac (c) enw a chyfeiriad y prynwr.
(5) Yn achos dafad sydd wedi'i marcio yn unol ag erthygl 11 neu sydd wedi'i hailfarcio yn unol ag erthygl 13(2)(b) neu (c), rhaid i'r ceidwad, o fewn 36 awr o farcio neu ailfarcio'r ddafad (yn ôl fel y digwydd), gofnodi'r marc diadell defaid newydd a'r un blaenorol, os yw'n hysbys.
(b) os yw'r Marc X yn cael ei ddodi ar ddaliad heblaw canolfan gynnull, cofnodi'r Marc X a'r rhif adnabod unigol sy'n cael ei ddodi yr un pryd â'r Marc X, a'i groesgyfeirio â'r marc sydd wedi'i gofnodi o dan baragraff (2)(c);
(7) Rhaid i'r person sy'n gwneud cofnod o dan yr erthygl hon gadw'r cofnod am gyfnod o chwe mlynedd.
(b) cyfanswm y geifr a symudwyd; (c) un o'r marciau canlynol -
(ii) pan nad oes unrhyw Farc S, y Marc Tarddiad neu'r marc a wnaed o dan reoliad 7(5) o Reoliadau 2000; (iii) pan nad oes unrhyw farc a grybwyllir yn is-baragraffau (c)(i) neu (ii), y Marc F neu'r Marc R; neu (iv) y rhif adnabod unigol ynghyd â'r marc a ddodwyd yr un pryd â'r rhif adnabod unigol;
(ch) yn achos gafr a symudwyd i'r daliad, cyfeiriad y daliad y daeth ohono; yn achos gafr sy'n cael ei symud oddi ar y daliad, cyfeiriad y daliad y mae'n mynd iddo;
(ii) Marc F sy'n cynnwys y llythrennau "UK", a'r rhif adnabod unigol, neu (iii) Marc X a'r rhif adnabod unigol; ac
(ff) yn achos gafr sy'n cael ei symud at ddibenion erthygl 3(2)(b)(xix) neu 3(3)(d) o Orchymyn Rheoli Clefydau (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002, y rhif adnabod unigol hwnnw ynghyd â'r marc a ddodwyd yr un pryd â'r rhif hwnnw.
(3) Ni fydd paragraff 2(c) yn gymwys yn achos gafr -
(b) a symudwyd yn uniongyrchol i farchnad er mwyn ei gwerthu i'w chigydda; (c) a symudwyd i ganolfan gasglu cyn cael ei symud i ladd-dy; neu (ch) a ddychwelwyd yn uniongyrchol i ddaliad o farchnad yr oedd wedi'i hanfon iddi er mwyn ei gwerthu i'w chigydda;
ar yr amod bod y ceidwad yn cofnodi'r marc dros dro a ddodwyd ar yr afr.
(b) y nifer o eifr a werthwyd; ac (c) enw a chyfeiriad y prynwr.
(5) Yn achos gafr sydd wedi'i marcio yn unol ag erthygl 11 neu wedi'i hailfarcio yn unol ag erthygl 13(2)(b) neu (c), rhaid i'r ceidwad, o fewn 36 awr o farcio neu ailfarcio'r afr (yn ôl fel y digwydd), gofnodi'r marc gyr a'r un blaenorol, os yw'n hysbys.
(b) os yw'r Marc X yn cael ei ddodi ar ddaliad heblaw canolfan gynnull, cofnodi'r Marc X a'r rhif adnabod unigol sy'n cael ei ddodi yr un pryd â'r Marc X, a'i groesgyfeirio â'r marc sydd wedi'i gofnodi o dan baragraff (2)(c);
(7) Rhaid i'r person sy'n gwneud cofnod o dan yr erthygl hon gadw'r cofnod am gyfnod o chwe blynedd.
(b) yn un na ellir ymyrryd ag ef; (c) wedi'i brintio neu wedi'i stampio â'r llythrennau a'r rhifau sy'n ofynnol fel eu bod yn hawdd i'w darllen drwy gydol oes yr anifail; (ch) o fath nad yw'n ymyrryd â llesiant yr anifail; a (d) yn goch ei liw os yw'n dwyn Marc R ond nid mewn unrhyw achos arall.
(3) Ystyr tat
(b) pan fydd wedi'i farcio ar dat , yw marc diadell neu farc gyr y daliad hwnnw wedi'i ddilyn gan y llythyren "F".
(5) Marc Tarddiad -
(b) pan fydd wedi'i farcio ar dat , marc diadell neu farc gyr daliad geni yr anifail.
(6) Marc R -
(b) pan fydd wedi'i farcio ar dat , yw marc diadell neu farc gyr y daliad lle'r oedd yr anifail yn cael ei gadw pan gafodd ei farcio felly, a'r marc hwnnw wedi'i ddilyn gan y llythyren "R";
(7) Marc S yw'r llythyren "S" wedi'i dilyn gan farc diadell neu farc gyr y daliad lle'r oedd yr anifail yn cael ei gadw pan gafodd ei farcio felly;
(b) sy'n cael ei ddodi ar dag clust yr un pryd ag y mae Marc Tarddiad, Marc S, Marc F, Marc R neu Farc X yn cael ei ddodi, neu sy'n cael ei dat io ar un o glustiau'r anifail yr un pryd ag y mae Marc Tarddiad, Marc S, Marc F, Marc R neu Farc X yn cael ei dat io ar un o'i glustiau; ac(c) yn achos tag clust ac yn ddarostyngedig i baragraff (10), sy'n dilyn yn union ar ôl Marc Tarddiad, Marc S, Marc F, Marc R neu Farc X neu sy'n cael ei ddodi ar un ochr o'r tag clust y mae Marc Tarddiad, Marc S, Marc F, Marc R neu Farc X ar yr ochr arall iddo.
(10) Ni fydd rhif yn methu â bod yn "rhif adnabod unigol" os yr unig reswm am hynny yw na chafodd ei ddodi ar yr un tag clust â'r Marc Tarddiad, y Marc S, y Marc F, y Marc R neu'r Marc X -
(b) os cafodd y rhif ei ddodi yng Nghymru cyn 11 Chwefror 2002.
(11) Rhaid i farc dros dro fod yn ddigon neilltuol i'w ddisgrifio yn y ddogfen sy'n ofynnol o dan erthygl 12 a rhaid iddo barhau i fod yn weladwy i'r llygad noeth nes i'r anifail gael ei gigydda neu nes iddo ddychwelyd i'r daliad yr oedd wedi'i anfon iddo er mwyn ei werthu i'w gigydda neu ddychwelyd i'r daliad o dir pori dros dro.
io ac yna ei dychwelyd ar unwaith i'w daliad geni; neu(b) dafad neu afr a symudwyd er mwyn iddi gael triniaeth filfeddygol ac wedyn cael ei dychwelyd i'w daliad geni; neu (c) dafad neu afr a farciwyd cyn y dyddiad perthnasol yn unol â rheoliad 7(5) o Reoliadau 2000 neu erthygl 8(1) o Orchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002, fel y bo'n briodol.
Symudiadau yn gyffredinol
(b) Marc S sy'n dangos marc diadell neu farc gyr y daliad y mae'r anifail yn cael ei symud ohono; (c) Marc S a rhif adnabod unigol; (ch) Marc F a rhif adnabod unigol; (d) Marc R yn dangos marc diadell neu farc gyr y daliad y mae'r anifail yn cael ei symud ohono; neu (dd) Marc R a rhif adnabod unigol.
(2) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys -
(b) os yw'r anifail yn cael ei fewnforio o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd i ddaliad yng Nghymru; (c) os yw'r anifail yn cael ei symud o'r daliad y cafodd ei fewnforio iddo o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd ac yn cael ei farcio â Marc F; (ch) os yw'r anifail yn cael ei symud o Aelod-wladwriaeth arall i ddaliad yng Nghymru ac yn cael ei farcio yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC[7] ar adnabod a chofrestru anifeiliaid; (d) os yw'r anifail yn cael ei symud o ran o Ynysoedd Prydain y tu allan i Gymru ac yn cael ei farcio yn unol â'r ddeddfwriaeth mewn grym yn y rhan honno o Ynysoedd Prydain; (dd) os oedd yr anifail cyn y dyddiad perthnasol wedi'i farcio yn unol naill ai -
(ii) ag erthygl 9(1) o Orchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) 2002, fel y bo'n briodol;
(e) os yw'r anifail wedi'i farcio â marc dros dro ac -
(ii) yn cael ei symud yn uniongyrchol i farchnad er mwyn ei werthu i'w gigydda; (iii) yn cael ei symud i ganolfan gasglu cyn cael ei symud i ladd-dy; neu (iv) yn dychwelyd yn uniongyrchol i ddaliad o farchnad (heblaw marchnad gigydda un-pwrpas) yr oedd wedi'i anfon iddi er mwyn ei werthu i'w gigydda;
(f) os yw'r anifail yn cael ei symud at ddibenion triniaeth filfeddygol, dipio neu gneifio;
(3) Rhaid peidio â symud anifail i sioe nac ohoni oni bai ei fod wedi'i farcio â rhif adnabod unigol ynghyd â'r marc a ddodwyd arno yr un pryd â'r rhif adnabod unigol.
(ii) â Marc S ac â rhif adnabod unigol; (iii) â Marc F ac â rhif adnabod unigol; (iv) â marc a ddodwyd o dan Reoliadau 2000;
(b) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag anifail sy'n cael ei symud yn unol ag is-baragraff (a).
(5)
(ii) â Marc F sy'n cynnwys y llythrennau "UK", ac â rhif adnabod unigol; neu (iii) â Marc X ac â rhif adnabod unigol a ddodwyd yr un pryd â'r Marc X; a
(b) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag anifail sy'n cael ei symud yn unol ag is-baragraff (a).
Uchafswm y marciau
(b) marc a ddodwyd o dan Reoliadau 2000; (c) marc a ddodwyd o dan ddeddfwriaeth mewn grym mewn rhan o Ynysoedd Prydain y tu allan i Gymru; (ch) marc a ddodwyd mewn Aelod-wladwriaeth arall yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC; neu (d) marc a ddodwyd o dan drwydded a roddwyd o dan erthygl 8 neu 31 o Orchymyn Clwy'r Traed a'r Genau 1983[8].
Marcio anifeiliad o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd
(b) dyddiad y symudiad a chyfanswm yr anifeiliad sy'n cael eu symud; (c) y marc a ddisgrifir ym mharagraff (2); (ch) y rhif lot mewn perthynas ag anifail sy'n cael ei symud o farchnad; a (d) y rhif adnabod unigol mewn perthynas â'r anifail sy'n cael ei symud i ganolfan gynnull.
(2) Rhaid i'r ddogfen nodi hefyd
(ii) os nad oes unrhyw Farc S, y Marc Tarddiad, na'r marc a ddodwyd o dan reoliad 7(5) o Reoliadau 2000; neu (iii) os nad oes unrhyw farc fel a grybwyllwyd yn is-baragraffau (i) neu (ii), y Marc F neu'r Marc R; (iv) y rhif adnabod unigol ynghyd â'r marc a ddodwyd ar yr un pryd â'r rhif adnabod unigol;
(b) unrhyw farc dros dro yn achos anifail -
(ii) sy'n cael ei symud yn uniongyrchol i farchnad er mwyn ei werthu i'w gigydda; (iii) sy'n cael ei symud i ganolfan gasglu cyn cael ei symud i ladd-dy; (iv) sy'n dychwelyd yn uniongyrchol i ddaliad o farchnad yr oedd wedi'i anfon iddi er mwyn ei werthu i'w gigydda; neu (v) sy'n dychwelyd o dir pori dros dro i'r daliad yr oedd yn cael ei gadw arno yn union cyn cael ei symud i'r tir pori dros dro;
(c) os yw anifail yn cael ei symud i sioe neu ohoni, y rhif adnabod unigol ynghyd â'r Marc a ddodwyd yr un pryd â'r rhif adnabod unigol; neu
(3) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys yn achos anifail sy'n cael ei symud -
(b) at ddibenion triniaeth filfeddygol, dipio neu gneifio; (c) yn achos geifr, er mwyn eu tat io; neu(ch) o safle mewn gr p meddiannaeth unigol i safle arall yn yr un gr p;
(4) Pan fydd yr anifail yn cyrraedd ei gyrchfan, rhaid i'r person sy'n symud yr anifail roi'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (1) uchod i'r ceidwad yn naliad y gyrchfan.
(b) dodi -
â marc diadell neu farc gyr y daliad lle mae'r anifail yn cael ei gadw;(ii) os Marc F oedd y marc gwreiddiol, tag â'r llythrennau "UK" wedi'u dilyn â marc diadell neu farc gyr y daliad lle mae'r anifail yn cael ei gadw a'r marc hwnnw wedi'i ddilyn â'r llythyren F neu dat â marc diadell neu farc gyr y daliad lle mae'r anifail yn cael ei gadw a'r marc hwnnw wedi'i ddilyn gan y llythyren F; neu(iii) os Marc R oedd y marc gwreiddiol, Marc R newydd, a chroesgyfeirio'r marc newydd â'r marc gwreiddiol yn y cofnod sy'n cael ei gadw o dan erthygl 4 neu 5; neu
(c) pan na ellir cyflawni'r camau yn is-baragraff (a) nac is-baragraff (b), dodi Marc R.
(3) Pan fydd Marc S wedi mynd yn annarllenadwy neu wedi'i golli, rhaid i'r ceidwad, os yw'n gwybod y manylion (a bennir yn erthygl 6(7)) a oedd ar y marc hwnnw, roi marc unfath yn ei le. Enw'r gweithredwr marchnad sy'n anfon yr hybsysiad:
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig ac mae'n dirymu ac yn ailddeddfu (gyda rhai diwygiadau) Orchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/1357 (Cy.133)). Mae'n rhoi ar waith y darpariaethau sy'n ymwneud â defaid a geifr yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC ar adnabod a chofrestru anifeiliaid (OJ Rhif L355, 5.12.92, t.32) ac yn darparu mesurau dros dro sy'n ymwneud â rheoli clefydau ar gyfer y cyfnod o 6 Medi 2002 hyd at 1 Chwefror 2003. Mae'r Gorchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy'n cadw defaid neu eifr hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol (erthygl 3) a chadw cofnodion o symudiadau defaid a geifr a manylion eraill amdanynt (erthyglau 4 a 5). Mae erthygl 7 yn ei gwneud yn ofynnol i farcio defaid a geifr a anwyd yng Nghymru â Marc Tarddiad ac mae erthygl 8 yn gwahardd symud yr anifeiliaid o'u daliad geni heb Farc Tarddiad. Mae Erthygl 9 yn gwahardd amryw symudiadau cyffredinol defaid neu eifr oni bai eu bod wedi'u marcio â marciau adnabod penodedig. Mae erthygl 10 yn darparu ar gyfer dodi uchafswm o 3 marc adnabod ar ddafad neu afr ran amlaf. Mae erthygl 11 yn ei gwneud yn ofynnol i ddafad neu afr sydd wedi'i mewnforio o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd gael ei marcio â Marc F o fewn 30 diwrnod. Mae erthygl 12 yn darparu bod dogfen sy'n cynnwys gwybodaeth benodedig yn cyd-fynd â defaid neu eifr pan fyddant yn cael eu symud, ac eithrio o dan amgylchiadau penodol. Mae erthyglau 13 i 15 yn darparu ar gyfer gwaredu, amnewid ac ychwanegu tagiau clust a that s, ac yn gwahardd eu difwyNo. Mae erthygl 16 yn ei gwneud yn ofynnol i ddangos cofnodion i arolygydd ac mae erthygl 17 yn nodi darpariaethau mewn perthynas â marchnadoedd. Mae erthygl 18 yn darparu bod awdurdodau lleol yn gorfodi darpariaethau'r Gorchymyn hwn.Mae torri unrhyw un o ddarpariaethau'r Gorchymyn hwn yn dramgwydd o dan Adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 ac ar ôl collfarn gellir cosbi â dirwy. Y prif newidiadau ers y Gorchymyn blaenorol yw -
(b) diwygio'r diffiniad o "canolfan gasglu" ("collecting centre") er mwyn ei gysoni â darnau cysylltiedig eraill o ddeddfwriaeth (erthygl 2); (c) cynyddu uchafswm y tagiau y caniateir eu dodi ar anifail (erthygl 10); (ch) gosod gofyniad ar geidwaid sy'n derbyn anifeiliaid newydd i hysbysu hynny i'r awdurdod lleol (erthygl 12); a (d) gosod gofyniad ar geidwaid anifeiliaid i amnewid marciau S a gollwyd ar yr amod bod manylion rhai gwreiddiol yn hysbys i'r ceidwad (erthygl 13).
Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn. Notes: [1] 1981 p.22 Gweler adran 86(1) i gael y diffiniadau o "the Ministers". Mewn perthynas â Chymru, trosglwyddwyd pwerau "the Ministers" i'r graddau yr oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac i'r graddau yr oedd y pwerau hynny yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol yr Alban, fe'u trosglwyddwyd i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999 (O.S. 1999/3141). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd wedi hynny i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S. 2002/794).back [2] O.S. 2000/1673; y diwygiad perthnasol yw Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Lloegr a Chymru) (Diwygio) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/430 (Cy.52)).back [3] O.S. 2000/2335 (Cy. 152) (a ddirymwyd bellach).back [4] O.S. 2002/2304 (Cy.229).back [5] O.S. 1995/539 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/3189, ac mewn perthynas â Chymru gan O.S. 2000/656, O.S. 2000/2257, O.S. 2001/1508, O.S. 2001/1740, O.S. 2001/1802, O.S. 2001/2627 ac O.S. 2002/129.back [6] O.S. 2002/1357 (Cy.133).back [7] OJ L355 o 5.12.92, t.0032.back
ISBN 0 11090572 5
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 27 September 2002 |