Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2002 © Hawlfraint y Goron 2002 Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines. Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2002, ISBN 0 11090561 X. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited. Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y p er a roddwyd iddo gan adrannau 79C, 79E a 104(4) o Ddeddf Plant 1989[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2002 a deuant i rym am 12.00 canol dydd ar 22 Gorffennaf 2002. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru. Diwygiadau 2. - (1) At ddibenion y Rheoliad hwn ystyr "cynllun chwarae haf" yw darpariaeth gofal dydd sy'n cynnwys plant o dan wyth oed am fwy na dwy awr y dydd, a honno'n ddarpariaeth sy'n gweithredu'n unig am y cyfan neu ran o'r cyfnod rhwng dyddiad dod i rym Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) (Diwygio) 2002 a 13 Medi 2002. (2) Diwygir rheoliad 4 o Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002[2] fel a ganlyn
(b) yn dilyn is-baragraff (c) (ii) o baragraff (3) mewnosodir
(B) o leiaf un geirda ysgrifenedig neu eirda dros y ffôn; (C) tystysgrif cofnod troseddol a roddwyd o'r blaen o dan adran 113 o Ddeddf yr Heddlu 1997[3]; ac (CH) canlyniad ysgrifenedig gwiriad a wnaed o'r rhestrau sy'n cael eu cadw yn unol ag adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999[4] a Rheoliadau a wnaed o dan adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988[5]."
(c) Ar ôl paragraff (4) mewnosodir -
(3) Diwygir rheoliad 16 o Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002 fel a ganlyn -
(b) Ar ôl paragraff (6) mewnosodir -
"(7) Pan fydd yr amodau canlynol yn gymwys, gall y person cofrestredig ganiatáu i berson ddechrau gweithio yn y safle perthnasol er gwaethaf paragraff (4)(b) -
(b) bod y person cofrestredig wedi cymryd pob cam rhesymol i gael gwybodaeth lawn mewn perthynas â phob un o'r materion a restrir yn Atodlen 2 mewn perthynas â'r person hwnnw; (c) bod gwybodaeth lawn a boddhaol mewn perthynas â'r person hwnnw wedi'i sicrhau ynghylch y materion a bennir ym mharagraffau 1, 4 a 6 o Atodlen 2; (ch) o leiaf un geirda ysgrifenedig neu eirda dros y ffôn; (d) bod y person wedi darparu
(ii) manylion ysgrifenedig unrhyw dramgwyddau troseddol y mae'r person wedi'i gollfarnu ohonynt, gan gynnwys manylion unrhyw gollfarnau sydd wedi darfod o fewn ystyr "spent" yn adran 1 o Ddeddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 1974[6] ac y caniateir eu datgelu yn rhinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 neu y mae'r person wedi'i rybuddio amdanynt gan swyddog heddlu ac wedi'u cyfaddef adeg cael y rhybudd; a
(dd) bod y person cofrestredig, wrth ddisgwyl am unrhyw wybodaeth sydd heb ddod i law, a chyn iddo fodloni'i hun mewn perthynas â'r wybodaeth honno, yn sicrhau bod y person yn cael ei oruchwylio'n briodol wrth iddo gyflawni ei ddyletswyddau.
(4) Diwygir Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002[7] fel a ganlyn -
(b) a criminal record certificate previously issued under section 113 of the Police Act 1997; and (c) a written result of a check carried out of the lists maintained pursuant to section 1 of the Protection of Children Act 1999[8] and Regulations made under section 218 of the Education Reform Act 1988."
(b) Yn Atodlen 8, mewnosodir ar ôl paragraff 10(2) -
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan Ran XA o Ddeddf Plant 1989 ac maent yn gymwys i bersonau sy'n dymuno darparu cynlluniau chwarae haf a fyddai'n gweithredu yng Nghymru yn y cyfnod rhwng dyddiad dod i rym y rheoliadau hyn a 13 Medi 2002 neu i bersonau sy'n dymuno gweithio yn y cynlluniau hynny. Mae'r rheoliadau yn diwygio Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002 a Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002, fel bod modd i bersonau sy'n dymuno darparu cynllun chwarae haf gael eu cofrestru er gwaethaf y ffaith nad oes ganddynt dystsygrif cofnod troseddol fanwl, cyhyd â bod amodau penodol eraill yn cael eu bodloni. Ar yr amod eu bod yn cael eu goruchwylio, caiff personau sy'n dymuno gweithio mewn cynlluniau chwarae haf ddechrau gweithio tra'n aros am gael y tystsygrifau cofnod troseddol manwl cyhyd â bod pob gwybodaeth benodedig arall ar gael. Notes: [1] 1989 p.41; mewnosodwyd adrannau 79C a 79E gan adran 79 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14). Mae'r pwerau'n arferadwy gan y Gweinidog priodol, a ddiffinnir yn Adran 121(1) o'r Ddeddf Safonau Gofal, mewn perthynas â Chymru, fel y Cynulliad Cenedlaethol. Gweler adran 121(1) am y diffiniadau o "prescribed" a "regulations".back
ISBN 0 11090561 X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 29 August 2002 |