Offerynnau Statudol 2002 Rhif 2060 (Cy.209)

      Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2002


      © Hawlfraint y Goron 2002

      Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines.

      Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2002, ISBN 0 11090555 5. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited.

      Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.


OFFERYNNAU STATUDOL


2002 Rhif 2060 (Cy.209)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2002

  Wedi'i wneud 31 Gorffennaf 2002 
  Yn dod i rym 1 Awst 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, a hwythau'n gweithredu ar y cyd wrth arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1,7 ac 8 o Ddeddf Iechyd Anifeilaid 1981[1], yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Teitl, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2002; mae'n gymwys i Gymru yn unig a daw i rym ar 1 Awst 2002.

Diwygiad i Orchymyn Crynoadau Anifeiliad (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002
    
2.  - (1) Diwygir Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002 [2] yn unol â darpariaethau canlynol yr erthygl hon.

    (2) Yn erthygl 2 - 

    (a) cyn y diffiniad o "crynhoad anifeiliaid", mewnosodir y diffiniad canlynol - 

      " ystyr "anifeiliaid" ("animals") yw gwartheg (ac eithrio buail a iacod), ceirw, geifr, defaid a moch;".

    (b) cyny diffiniad o "diheintydd a gymeradwywyd", ychwanegir y diffiniad canlynol - 

      " mae "cyfarpar" ("equipment") yn cynnwys corlannau a chlwydi;".

    (3) Yn yr Atodlen - 

    (a) ym mharagraffau 1 a 2, ym mhob man y ceir y geiriau "28 diwrnod", rhoddir y geiriau "27 diwrnod" fel y bo'n briodol;

    (b) ym mharagraff 1(b) yn lle'r geiriau "ar y corlannau, clwydi ac unrhyw gyfarpar arall" rhoddir y geiriau "ar yr holl gyfarpar"; ac

    (c) ym mharagraff 4, dilëir y geiriau "corlannau, clwydi ac" ac "arall".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar


31 Gorffennaf 2002


D. Elis-Thomas
Y Llywydd


Llofnodwyd ar


31 Gorffennaf 2002


Whitty
Yr Is-Ysgrifennydd Seneddol

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig


NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio ymhellach Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/283(Cy.34)("y prif Orchymyn") fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/1358 (Cy.134).

Mae'r Gorchymyn hwn - 

    (a) yn cyfyngu'r categorïau o anifeiliaid y mae'r prif Orchymyn yn gymwys iddynt i gynnwys gwartheg (ac eithrio buail a iacod), ceirw, geifr, defaid a moch yn unig.

    (b) yn diffinio "cyfarpar" at ddibenion y prif Orchymyn ac yn diwygio'r cyfeiriadau at "corlannau, clwydi a chyfarpar arall" yn unol â hynny.

    (c) yn lleihau'r cyfnodau cyfyngedig o 28 diwrnod i 27 diwrnod.

Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn.


Notes:

[1] 1981 p.22. Gweler adran 86(1) i gael y diffiniadau o "the Ministers" a "the Minister". Mewn perthynas â Chymru, trosglwyddwyd swyddogaethau "the Ministers" i'r graddau yr oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672); ac i'r graddau yr oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol yr Alban fe'u trosglwyddwyd i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999 (O.S. 1999/3141). Trosglwyddwyd ymhellach wedyn bob un o swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S. 2002/794).back

[2] O.S.2002/283 (Cy.34), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/1358 (Cy.134).back



English version



ISBN 0 11090555 5


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland |  Her Majesty's Stationery Office


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2002
Prepared 21 August 2002