Gorchymyn Consesiynau Teithio (Gwasanaethau Cymwys) (Cymru) 2002 © Hawlfraint y Goron 2002 Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines. Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Gorchymyn Consesiynau Teithio (Gwasanaethau Cymwys) (Cymru) 2002, ISBN 0 11 090554 7. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited. Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 94(4) o Ddeddf Trafnidiaeth 1985[1] ac adran 146 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000[2] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Consesiynau Teithio (Gwasanaethau Cymwys) (Cymru) 2002 ac mae'n dod i rym ar 14 Awst 2002. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru. Dehongli 2. Yn y Gorchymyn hwn mae gan y termau "person oedrannus" a "person anabl" yr un ystyr ag sydd gan "elderly person" a "disabled person" yn adran 146 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000. Gwasanaethau cymwys 3. - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4) o'r erthygl hon, mae gwasanaeth yn wasanaeth cymwys o dan adran 94 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 ac o dan adran 146 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 os yw'n perthyn i un o'r dosbarthau canlynol -
(ii) ar gyfer personau oedrannus neu bersonau anabl,
ac y mae'r amodau a restrir ym mharagraff (2) wedi'u bodloni mewn perthynas â hwy;
(2) Yr amodau y mae paragraff (1)(a) yn cyfeirio atynt yw -
(b) bod y mannau aros (ac eithrio'r mannau y mae'r gwasanaeth yn cael ei ddaparu'n bennaf iddynt neu ohonynt) wedi'u lleoli mewn mannau lle byddant yn debygol o gael eu defnyddio yn rhesymol aml gan aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol; (c) bod yr aelodau hynny o'r cyhoedd yn gallu gwneud taith unigol rhwng unrhyw ddau fan aros trwy dalu pris tocyn nad yw'n fwriadol yn eu rhwystro rhag defnyddio'r gwasanaeth; (ch) bod yr aelodau hynny yn gallu talu'r pris tocyn mewn man ac mewn ffordd nad yw'n fwriadol yn eu rhwystro rhag defnyddio'r gwasanaeth; a (d) bod trefniadau wedi'u gwneud sy'n rhoi cyfle rhesymol i aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol gael gwybod am fodolaeth y gwasanaeth, yr amserau y mae ar waith, a'r mannau y mae'n eu gwasanaethu.
(3) Yr amodau y mae paragraff (1)(b) yn cyfeirio atynt yw -
(b) bod y mannau aros wedi'u lleoli mewn mannau lle byddant yn debygol o gael eu defnyddio yn rhesymol aml gan aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol; (c) bod yr aelodau hynny yn gallu gwneud taith unigol rhwng unrhyw ddau fan aros trwy dalu pris tocyn nad yw'n fwriadol yn eu rhwystro rhag defnyddio'r gwasanaeth; (ch) bod yr aelodau hynny yn gallu talu'r pris tocyn mewn man ac mewn ffordd nad yw'n fwriadol yn eu rhwystro'n fwriadol rhag defnyddio'r gwasanaeth; (d) nad oes ar y cerbyd sy'n cael ei ddefnyddio i ddarparu'r gwasanaeth unrhyw arwydd na disgrifiad sydd wedi'i fwriadu neu sy'n debygol o roi'r argraff bod y gwasanaeth ond ar gael ar gyfer categori penodol o berson; ac (dd) bod trefniadau wedi'u gwneud sy'n rhoi cyfle rhesymol i aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol gael gwybod am fodolaeth y gwasanaeth, yr amserau y mae ar waith, a'r mannau y mae'n eu gwasanaethu.
(4) Dim ond ar ôl i effaith adran 92 o Ddeddf Cyllid 1965[4] ddod i ben oherwydd dyfodiad i rym adran 154(6) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000, mewn perthynas â Chymru, y bydd y rheoliad hwn yn cael effaith. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi, mewn perthynas â Chymru, wasanaethau bysiau a fydd, pan ddaw effaith adran 92 o Ddeddf Cyllid 1992 i ben oherwydd dyfodiad i rym 154(6) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000, yn gymwys at ddibenion:
(ii) darpariaethau Rhan IV o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 (gwasanaethau lleol i deithwyr) sy'n ymwneud â chyfranogiad mewn cynlluniau consesiynau teithio, a threfniadau ad-dalu.
Notes: [1] 1985 p. 67; diwygiwyd adran 94(4) gan Ddeddf Trafnidiaeth 2000, Atodlen 11, paragraff 16. Mae adran 135(2)(b) o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 yn darparu bod unrhyw b er ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol i wneud gorchymyn o dan unrhyw un o ddarpariaethau'r Ddeddf honno yn arferadwy trwy offeryn statudol. Yn rhinwedd adran 43(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (1998 p.38) mae'r cyfeiriad at yr Ysgrifennydd Gwladol yn adran 135 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 i'w ddehongli, at ddibenion arfer ei swyddogaethau o dan adran 94(4) gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, fel petai'n cynnwys cyfeiriad at Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back
ISBN 0 11 090554 7
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 19 August 2002 |