Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2002 © Hawlfraint y Goron 2002 Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines. Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2002, ISBN 0 11090545 8. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited. Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1968 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo[1], ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 2 o Ddeddf 1968 yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Teitl, cymhwyso a chychwyn 1. - (1) Teitl y Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2002 ac maent yn gymwys i Gymru yn unig. (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) o'r rheoliad hwn, daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Awst 2002. (3) Daw rheoliad 2(3) o'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ionawr 2003. Diwygio Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2001 2. - (1) Diwygir Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2001[2] yn unol â darpariaethau'r rheoliadau hyn. (2) Yn rheoliad 2(1) -
p o ieir ddodwy wyau, sef lle na chaiff cydrannau ei lawr gynnwys rhwyllau gwifrog a all ddod i gysylltiad â'r aderyn neu'r adar;"; ac
(3) Diddymir rheoliad 4 ac Atodlen 2.
5. Rhaid i berchenogion a cheidwaid dofednod (heblaw'r rhai sy'n cael eu cadw yn y systemau y cyfeirir atynt yn Atodlenni 3A, 3B a 3C) sicrhau, yn ychwanegol at y gofynion a nodir yn Atodlen 1, fod yr amodau y mae'r adar yn cael eu cadw odanynt yn cydymffurfio â'r gofynion a nodir yn Atodlen 3.".
(5) Ar ôl rheoliad 5 ychwanegir y rheoliad canlynol:
5A. Rhaid i berchenogion a cheidwaid sefydliadau a chanddynt fwy na 350 o ieir dodwy sicrhau, yn ychwanegol at y gofynion a nodir yn Atodlen 1, fod yr amodau y mae'r adar yn cael eu cadw odanynt yn cydymffurfio â'r gofynion a nodir yn Atodlenni 3A, 3B, 3C a 3CH.".
(6) Yn Atodlen 1 -
(b) yn lle paragraff 7(b)(i) rhoddir y paragraff canlynol -
(7) Yn lle Atodlen 3 rhoddir y darpariaethau canlynol: Pan gedwir unrhyw ddofednod (heblaw'r rhai sy'n cael eu cadw yn y systemau y cyfeirir atynt yn Atodlenni 3A, 3B a 3C) mewn adeilad, rhaid iddynt gael eu cadw ar laesodr, neu rhaid iddynt bob amser allu mynd at laesodr, sydd wedi'i gynnal yn dda, neu at fan wedi'i draenio'n dda ar gyfer gorffwys."
(8) Ar ôl Atodiad 3 mewnosodir Atodlenni 3A, 3B, 3C a 3Ch a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
1. Rhaid i bob system ddi-gawell sy'n cael ei hadeiladu o'r newydd neu ei hail-adeiladu ar gyfer cadw ieir dodwy a phob system gynhyrchu o'r fath y dechreuir ei defnyddio am y tro cyntaf gydymffurfio â gofynion yr Atodlen hon. 2. O 1 Ionawr 2007 ymlaen, rhaid i bob system ddi-gawell ar gyfer cadw ieir dodwy gydymffurfio â gofynion yr Atodlen hon. 3. Rhaid i bob system gael ei chyfarparu mewn ffordd sy'n golygu bod gan bob iâr ddodwy:
(b) naill ai cafn yfed parhaol sy'n rhoi 2.5 cm i bob iâr neu gafn yfed crwn sy'n rhoi 1 cm i bob iâr, a hefyd, os defnyddir pigynnau d r neu gwpanau, rhaid cael o leiaf un pigyn d r neu gwpan i bob 10 iâr. Os yw'r mannau yfed wedi'u plymio, rhaid cael o leiaf ddau gwpan neu ddau bigyn d r o fewn cyrraedd i bob iâr;(c) o leiaf un nyth i bob saith iâr. Os defnyddir nythod gr p, rhaid cael o leiaf 1 m2 o le nythu ar gyfer uchafswm o 120 o ieir;(ch) clwydi, heb ymylon miniog ac sy'n rhoi o leiaf 15 cm i bob iâr. Rhaid peidio â gosod clwydi uwchben y llaesodr a rhaid i'r pellter llorweddol rhwng y clwydi fod yn 30 cm o leiaf a rhaid i'r pellter llorweddol rhwng y glwyd a'r wal fod yn 20 cm o leiaf; a (d) o leiaf 250 cm2 o fan o dan laesodr i bob iâr, a'r llaesodr dros o leiaf un traean o arwynebedd y llawr.
4.
Rhaid adeiladu lloriau gosodiadau fel y gallant gynnal pob un o grafangau'r iâr sy'n wynebu ymlaen ar bob troed.
(ii) rhaid i'r uchder rhwng y lefelau fod yn 45 cm o leiaf; (iii) rhaid i'r cyfleusterau yfed a bwydo gael eu dosbarthu mewn ffordd sy'n golygu bod cyfle cyfartal i bob iâr fynd atynt; a (iv) rhaid i'r lefelau gael eu trefnu i atal dom rhag cwympo ar y lefelau islaw.
(b) os gall ieir dodwy fynd i libart agored:
p o 1,000 o ieir; a(ii) rhaid i libartau agored fod o arwynebedd sy'n briodol ar gyfer y dwysedd stocio a natur y tir, er mwyn atal unrhyw halogi, a bod wedi'u cyfarparu â chysgod rhag tywydd drwg ac ysglyfaethwyr ac, os oes eu hangen, â chafnau yfed priodol.
6.
Yn ddarostyngedig i baragraff 7, rhaid i'r dwysedd stocio beidio â bod yn uwch na naw iâr ddodwy i bob metr sgwâr o le y gellir ei ddefnyddio. 1. O 1 Ionawr 2003 rhaid i bob system gewyll ar gyfer magu ieir dodwy nad ydynt wedi'u gwella gydymffurfio â'r gofynion canlynol:
(b) rhaid darparu cafn bwydo a all gael ei ddefnyddio heb gyfyngiad. O ran hyd, rhaid iddo fod yn 10 cm wedi'i luosi â nifer yr ieir yn y cawell o leiaf; (c) oni bai bod pigynnau d r neu gwpanau d r wedi'u darparu, rhaid i bob cawell gael sianel yfed barhaol yr un mor hir â'r cafn bwydo y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) uchod. Os yw'r mannau yfed wedi'u plymio, rhaid cael o leiaf ddau bigyn d r neu ddau gwpan o fewn cyrraedd i bob cawell;(ch) rhaid i'r cewyll fod yn 40 cm o leiaf o uchder dros o leiaf 65% o arwynebedd y cawell ac nid llai na 35 cm ar unrhyw bwynt (ceir yr uchder drwy gyfrwng llinell fertigol o'r llawr i'r pwynt agosaf yn y to a cheir yr arwynebedd drwy luosi 550cm2 â nifer yr adar a gedwir yn y cawell); (d) rhaid adeiladu lloriau'r cewyll fel y gallant gynnal pob un o'r crafangau sy'n wynebu ymlaen ar bob troed i bob iâr. Rhaid i ogwyddiad y llawr beidio â bod yn fwy na 14% neu 8 gradd os yw wedi'i wneud o rwyllau gwifrog petryal ac 21.3% neu 12 gradd ar gyfer mathau eraill o lawr; (dd) rhaid gosod dyfeisiau addas ar gyfer cwtogi crafangau yn y cewyll.
2.
Gwaherddir magu ieir dodwy yn y cewyll y cyfeirir atynt yn yr Atodlen hon o 1 Ionawr 2012 ymlaen. 1. Rhaid i bob system gewyll ar gyfer magu ieir dodwy gydymffurfio â gofynion yr Atodlen hon o 1 Ionawr 2012 ymlaen. 2. Rhaid i bob system gewyll sy'n cael ei hadeiladu neu y dechreuir ei defnyddio er mwyn magu ieir dodwy ar 1 Ionawr 2003 neu ar ôl hynny gydymffurfio â gofynion yr Atodlen hon. 3. Rhaid i ieir dodwy gael -
(b) nyth; (c) llaesodr sy'n golygu ei bod yn bosibl pigo a chrafu; (ch) clwydi priodol sy'n caniatáu o leiaf 15 cm i bob iâr.
4.
Rhaid darparu cafn bwydo a all gael ei ddefnyddio heb gyfyngiad. O ran hyd, rhaid iddo fod yn 12 cm wedi'i luosi â nifer yr ieir yn y cawell o leiaf. 1. Rhaid i bob iâr gael ei harchwilio gan y perchennog neu'r person sy'n gyfrifol amdanynt o leiaf unwaith y dydd. 2. Rhaid cadw lefel y s n i'r lleiaf posibl. Rhaid osgoi s n cyson neu sydyn. Rhaid i wyntyllau awyru, peiriannau bwydo neu offer eraill gael eu hadeiladu, eu lleoli, eu gweithredu a'u cynnal mewn ffordd sy'n golygu eu bod yn cadw cyn lleied â phosibl o s n.3. Rhaid cael lefelau digonol o olau ym mhob adeilad i ganiatáu i bob iâr weld ei gilydd a chael ei gweld yn glir, ymchwilio i'w hamgylchoedd yn weledol a dangos lefelau gweithgarwch arferol. Os oes goleuni naturiol, rhaid trefnu'r agoriadau goleuni mewn ffordd sy'n golygu bod y goleuni'n cael ei wasgaru'n gyfartal yn y llety. Ar ôl y dyddiau cyntaf o ymgyfarwyddo, rhaid i'r gyfundrefn oleuo fod yn gyfryw ag i atal problemau iechyd ac ymddygiad. Gan hynny, rhaid iddi ddilyn rhythm 24-awr a chynnwys cyfnod di-dor digonol o dywyllwch sy'n para tua un rhan o dair o'r diwrnod, er mwyn i'r ieir gael gorffwys ac i osgoi problemau megis gostwng imwnedd ac anhwylderau ar y llygaid. Dylid darparu gwyll digon hir, pan gaiff y golau ei bylu, er mwyn i'r ieir setlo heb gael eu haflonyddu na'u hanafu. 4. Rhaid i'r rhannau hynny o adeiladau, offer neu lestri sydd mewn cysylltiad â'r ieir gael eu glanhau a'u diheintio'n rheolaidd a phob tro y ceir diboblogi beth bynnag a chyn dod â llwyth newydd o ieir i mewn. Tra bydd ieir yn y cewyll, rhaid i'r arwynebau a'r holl offer gael eu cadw'n foddhaol o lân. Rhaid i dom gael ei symud ymaith mor aml ag y bydd angen a rhaid symud ieir marw oddi yno bob dydd. 5. Rhaid cyfarparu'r cewyll yn addas i atal yr ieir rhag dianc. 6. Rhaid i lety sy'n cynnwys dwy neu fwy o haenau o gewyll gael dyfeisiau neu rhaid cymryd mesurau priodol i ganiatáu i bob haen gael ei harchwilio heb anhawster ac i hwyluso symud ieir oddi yNo. 7. Rhaid i ddyluniad a dimensiynau drws y cawell fod yn gyfryw ag i iâr lawndwf gael ei thynnu oddi yno heb ddioddef yn ddiangen a heb ei niweidio. 8. Yn ddarostyngedig i baragraff 9, ni chaiff unrhyw berson lurgunio unrhyw iâr ddodwy. 9. Er mwyn osgoi plubigo a chanibaliaeth, hyd at 31 Rhagfyr 2010 caniateir tocio pigau adar yn yr holl systemau y cyfeirir atynt yn Atodlenni 3A, 3B a 3C ar yr amod ei fod yn cael ei wneud -
(b) i ieir sy'n llai na 10 diwrnod oed y bwriedir hwy ar gyfer dodwy; ac (c) yn unol â Gorchymyn Llawfeddygaeth Filfeddygol (Esemptiadau) 1962[4].".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 1999/74/EC dyddiedig 19 Gorffennaf 1999 sy'n nodi safonau gofynnol ar gyfer diogelu ieir dodwy (O.J. L203, 03/08/1999 t.35 - 57). Mae'r Rheoliadau'n gwneud y diwygiadau canlynol i Reoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2682 (Cy.223)) ("y Prif Reoliadau") - r, uchder y cewyll, adeiladwaith y lloriau a darparu dyfeisiau ar gyfer cwtogi crafangau. Gwaherddir defnyddio cewyll confensiynol o 1 Ionawr 2012 ymlaen ac ni all unrhyw gewyll o'r fath gael eu hadeiladu, na dechrau cael eu defnyddio, o 1 Ionawr 2003 ymlaen. n, darparu golau, glanhau a diheintio, dylunio cewyll a gwahardd llurgunio, ond mae'n caniatáu tocio pigau tan 31 Rhagfyr 2010, o dan amodau penodol, gan gynnwys cydymffurfio â Gorchymyn Llawfeddygaeth Filfeddygol (Esemptiadau) 1962.Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ac wedi'i gyhoeddi ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (www.cymru.gov.uk). Gellir cael copïau hefyd oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Yr Is-adran Iechyd Anifeiliaid, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. Notes: [1] 1968 p.34. Gweler adran 50 i gael diffiniad o "the Ministers". Mewn perthynas â Chymru, cafodd pwerau "the Ministers" eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [2] O.S. 2001/2682 (Cy. 223).back [3] OJ Rhif L 203, 3.8.99, t.53back
ISBN 0 11090545 8
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 13 August 2002 |