Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau wedi'u Cymeradwyo) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2002 © Hawlfraint y Goron 2002 Mae'r ddeddfwriaeth ar y wefan hon yn ddarostyngedig i nawdd Hawlfraint y Goron. Gellir ei hatgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar yr amod ei bod yn cael ei hatgynhyrchu'n fanwl gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd yn cael eu gwneud yn hollol hysbys i ddefnyddwyr beth yw. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i'r hawl i atgynhyrchu argraffnodau Bathodyn Brenhinol Cymru ac Argraffwr y Frenhines. Paratowyd testun y fersiwn hon o'r Offeryn Statutdol ar gyfer y Rhyngrwyd i adlewyrchu'r testun fel y'i Gwnaethpwyd. Y fersiwn awdurdodol o'r Offeryn Statudol yw copi Argraffwr y Frenhines a gyhoeddwyd gan The Stationery Office Limited o dan y teitl Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau wedi'u Cymeradwyo) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2002, ISBN 0 11090541 5. Prynu'r eitem hon. Os am gael manylion o sut i gael gafael ar gopi swyddogol gweler Sut mae cael gafael ar gyhoeddiadau The Stationery Office Limited. Er mwyn sicrhau mynediad cyflym drwy gyfrwng cysylltiadau araf, rhannwyd dogfennau mawrion yn "dalpiau". Pan ymddengys botwm "continue" ar waelod tudalen o'r testun, dynoda fod talp arall o'r testun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 66(1)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989[1] sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2]: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau wedi'u Cymeradwyo) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Medi 2002. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig. Diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau wedi'u Cymeradwyo) 1990 2. - (1) Diwygir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau wedi'u Cymeradwyo) 1990[3] fel a ganlyn. (2) Yn rheoliad 1(2) (dehongli) -
(3) Yn rheoliad 2(1) -
(b) ym mharagraff (h), yn lle "Official List of the Stock Exchange" rhoddir "official list maintained by the competent authority in the United Kingdom".
(4) Yn rheoliad 3, ym mharagraff (3) -
(b) hepgorir is-baragraff (c).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau Wedi'u Cymeradwyo) 1990 yn cynnwys rhestr o'r buddsoddiadau a gymeradwyir at ddibenion Rhan IV o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1990 drwy ymestyn y rhestr o fuddsoddiadau a gymeradwywyd fel ei bod yn cynnwys gwarantau a roddir gan gorff y cyfeirir ato yn Rhan I o'r Atodlen i Reoliadau 1990 sydd wedi cael eu derbyn i'r rhestr swyddogol a gedwir gan yr awdurdodau cymwys yn Aelod-wladwriaethau eraill yr Ardal Economaidd Ewrop. Yn ogystal, mae'r Rheoliadau hyn yn dileu'r gwahaniaeth mewn perthynas â buddsoddiadau tymor-byr rhwng yr awdurdodau hynny y mae ganddynt dyledion tymor-hwy a'r rhai nad oes ganddynt ddyledion felly. Notes: [1] 1989 p. 42.back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] O.S. 1990/426; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1991/501, 2001/3649 a 2002/ 885 (Cy. 100).back
ISBN 0 11090541 5
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2002 | Prepared 12 August 2002 |